Facebook Pixel
Skip to content

Cynlluniau a Pherfformiad

Mae CITB yn ymroddedig i sicrhau bod gan y gweithlu adeiladu'r sgiliau cywir ar gyfer yn awr a'r dyfodol yn seiliedig ar ein tair blaenoriaeth strategol - Gyrfaoedd, Safonau a Chymwysterau, a Hyfforddiant a Datblygiad.

Mae ein Cynllun Strategol 2021-25 yn nodi'r heriau'n ymwneud â sgiliau allweddol ar gyfer y diwydiant adeiladu a'r hyn y byddwn yn ei wneud dros y blynyddoedd nesaf i helpu i fynd i'r afael â hwy. 

Bob blwyddyn, rydym ni'n cyhoeddi ein Cynllun Busnes i nodi ein blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn, sut rydyn ni'n mynd i gyflawni ein nodau hir dymor a thymor byr, yn ogystal â dangos sut mae'r nodau a'r prosiectau hyn yn cefnogi ein Cynllun Strategol ar gyfer 2021-25.

Er mwyn dangos y cynnydd rydym yn ei wneud yn erbyn ein Cynllun Busnes, rydym yn cyhoeddi adroddiad perfformiad chwarterol. Mae hyn yn manylu ar yr effaith y mae ein prosiectau yn ei chael ar y diwydiant adeiladu a sut rydym yn perfformio yn erbyn ein targedau.

Ar gyfer Cymru, Lloegr a'r Alban, rydym hefyd yn cyhoeddi Cynlluniau Cenedl blynyddol, sy'n rhannu'r Cynllun Busnes yn fwy manwl ac yn esbonio'r gefnogaeth y byddwn yn ei darparu i gyflogwyr yn y diwydiant adeiladu yn y cenhedloedd.

 

Cynllun Busnes

Mae ein cynllun cyfredol yn adeiladu ar waith cynharach a oedd yn arwydd o'n bwriad i ganolbwyntio ar lai o flaenoriaethau a chynyddu eu heffaith i'r eithaf

Cynlluniau Cenedl

Y gefnogaeth y bydd CITB yn ei darparu i gyflogwyr y diwydiant adeiladu ledled Cymru, Lloegr a'r Alban

Cynllun Strategol

Mae Cynllun Strategol CITB yn nodi'r heriau yn ymwneud â sgiliau allweddol ar gyfer y diwydiant adeiladu a'r hyn y byddwn yn ei wneud i fynd i'r afael â hwy

Adrodd ar Berfformiad

Bwriad adroddiad perfformiad CITB yw darparu trosolwg o ble mae Lefi'r diwydiant yn cael ei fuddsoddi a pha effaith y mae wedi'i chael