Facebook Pixel
Skip to content

Ein methodoleg a gwasanaeth

Mae CITB yn cynhyrchu nifer o adroddiadau ynghylch y diwydiant adeiladu bob blwyddyn. Ein nod yw nodi a deall tueddiadau a materion allweddol sy'n cael effaith uniongyrchol ar y diwydiant. Rydym yn gwneud hyn trwy gynnal astudiaethau ansoddol a meintiol ar ystod o bynciau: o yrfaoedd, hyfforddiant a mudo'r gweithlu i arloesedd, cynhyrchiant a chynaliadwyedd. 

Sut rydym yn cynnal ein hymchwil

Mae ein hanghenion ymchwil yn cael eu pennu gan ein rolau fel Cyngor Sgiliau Sector a Bwrdd Hyfforddi'r Diwydiant. Rydym hefyd yn ystyried gyrrwyr economaidd, materion polisi uniongyrchol a rhai sy'n dod i'r amlwg a heriau ynghylch sgiliau'r diwydiant. Er mwyn bodloni'r anghenion hyn, mae ein proses ymchwil yn cynnwys: 

  • Gwybodaeth barhaus am y farchnad lafur
  • Dadansoddiad o newid yn y diwydiant - economaidd, demograffig a thechnolegol
  • Rhagweld gofynion ynghylch gwaith llafur a sgiliau
  • Ymchwil sylfaenol bwrpasol
  • Gwaith gwerthuso

Gellir lawr lwytho'r adroddiadau rydym yn eu cynhyrchu am ddim. Fodd bynnag, mae cyfyngiadau ar sut y gallwch ddefnyddio'r wybodaeth yn yr adroddiadau hyn. Darllenwch ein canllawiau ar sut i ddefnyddio ymchwil CITB.

Gallwch chwilio pob un o'n hadroddiadau yn ôl pwnc, blwyddyn neu allweddair

Defnyddio ein hymchwil

Mae hawlfraint a phob eiddo deallusol arall sy'n bodoli yn y deunyddiau hyn yn aros yn gyfangwbl gyda CITB. Cedwir pob hawl o'r fath. Gallwch argraffu, copïo, lawr lwytho neu arbed eitemau o'r deunydd hawlfraint dros dros ar gyfer eich gwybodaeth bersonol yn unig, a gallwch dynnu sylw eraill o fewn eich sefydliad at ei gynnwys. Ni allwch ddefnyddio unrhyw ran o'r cynnwys at ddibenion masnachol heb gael trwydded i wneud hynny gennym ni. Rhaid cydnabod ein statws (a statws unrhyw gyfranwyr a nodwyd) fel awduron y deunydd hawlfraint bob amser.