Facebook Pixel
Skip to content

Cyflogwyr adeiladu Cymru ‒ mae angen eich help ar CITB!

Cyflogwyr ‒ dyma’ch cyfle i lywio addysg adeiladu yng Nghymru

Mae CITB am wybod sut y dylai cymwysterau adeiladu, sydd i fod i gael eu cyflwyno ym mis Medi 2021, edrych yn eich barn chi.

Mae'r cymwysterau ar gyfer unigolion rhwng 16 a 19 oed, ac mae’n hanfodol eu bod yn diwallu anghenion cyflogwyr adeiladu, yn ogystal â dysgwyr, ledled Cymru.

Mae ystod o bartneriaid, gan gynnwys CITB, yn cefnogi'r broses o’u newid, sy’n cael ei harwain gan City & Guilds ac Excellence Achievement and Learning. Dechreuwyd eu newid yn dilyn adolygiad Cymwysterau Cymru o addysg adeiladu.

Gwnaeth adroddiad Cymwysterau Cymru ar y system gymwysterau ym maes Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig, Adeiladu'r Dyfodol, dynnu sylw at broblemau’r system bresennol.

Gwelwyd bod llwybrau cynnydd yn aneglur, y gall dysgwyr golli cyfleoedd i ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen arnynt i ddiwallu anghenion cyflogwyr, nad yw’r broses asesu’n cael ei rheoli’n dda’n aml a bod prosesau sicrhau ansawdd yn anghyson ac o ansawdd gwael.

Mae angen i’r cymwysterau adeiladu newydd allu cael eu haddasu, bod yn ymatebol i dechnoleg ac adlewyrchu technegau adeiladu modern.

Felly, mae’n hanfodol bod cyflogwyr adeiladu wrth wraidd y broses o ddatblygu’r cymwysterau newydd. Gallwch sicrhau eu bod yn fodern ac yn addas at y diben.

I ddechrau, mae City & Guilds yn gofyn i'r diwydiant adeiladu gyfrannu at y broses o ddatblygu cymwysterau ym meysydd Gosod Brics a Gwaith Coed ar Safleoedd Adeiladu, gan gynnwys cynnwys ac asesiadau, yn ystod yr wythnos sy’n dechrau ar 11 Mai 2020. Bydd crefftau eraill yn cael eu hychwanegu dros yr wythnosau nesaf.

Mae’n chwilio am wirfoddolwyr i fod yn rhan o baneli ar-lein ar gyfer y ddwy grefft hyn. Bydd pob sesiwn panel yn para tua awr a bydd angen gwneud rhywfaint o waith darllen cyn y sesiynau. Os ydych yn teimlo y gallwch gymryd rhan, cofrestrwch yma.

Mae’r cymwysterau arfaethedig hyn yn rhan o rai newidiadau cadarnhaol iawn i addysg adeiladu yng Nghymru.

Ym mis Ionawr, lansiodd Kirsty Williams AC, Gweinidog Addysg Cymru, Am Adeiladu – Profi, Am Adeiladu – Addysgu ac Am Adeiladu – Ymgysylltu yn Ysgol Gynradd Gymunedol Willowtown yng Nglynebwy.

Maent yn gyfres o brosiectau dysgu adeiladu modern sy’n cyd-fynd yn llawn â’r cwricwlwm newydd i Gymru.

Mae hyn yn golygu y bydd modiwlau adeiladu’n rhan o gwricwlwm Cymru am y tro cyntaf.

Wrth lansio’r prosiectau, dywedodd y Gweinidog: “Bydd defnyddio’r rhain yn yr ystafell ddosbarth ac fel rhan o brofiad gwaith yn helpu ysgolion i nodi a manteisio ar y cyfleoedd y gall y diwydiant adeiladu eu cynnig i’n dysgwyr.”

Mae’n deg dweud bod y prosiectau hyn yn garreg filltir ym maes addysg yng Nghymru; cyfle i ddechrau llif o dalent o’r ystafell ddosbarth i gyflogaeth.

Bydd y cymwysterau newydd yn ychwanegu at y prosiectau a gafodd eu cyflwyno yn ysgolion yng Nghymru.

Gobeithio y gallwch helpu i lywio addysg adeiladu yng Nghymru. Mae argyfwng COVID-19 wedi dangos pa mor hanfodol yw sgiliau adeiladu i’r genedl ‒ mae pob un ohonom wedi gweld gwaith gwych y contractwyr sydd wedi adeiladu ysbytai dros dro ar fyr rybudd i helpu’r GIG yn ystod y cyfnod anghyffredin hwn.

Bydd cymwysterau Lefel 2 a Lefel 3 ar gael i'w haddysgu am y tro cyntaf o 1 Medi 2021. Mae Cymwysterau Cymru’n ystyried cymwysterau Lefel 1.

Mae croeso i chi anfon hyn ymlaen at eich cydweithwyr neu aelodau cyswllt cyflogwyr a all fod yn barod i gymryd rhan hefyd.

Beth am i ni weithio gyda’n gilydd er mwyn sicrhau bod y rhai sy’n gadael yr ysgol yn barod ar gyfer gwaith, yn awyddus i ddechrau arni ac wedi dysgu’r sgiliau modern y mae cyflogwyr yn gofyn amdanynt?

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y newidiadau ar wefan Sgiliau i Gymru, a gafodd ei lansio ym mis Mawrth. Gallwch fynd i'r wefan drwy glicio ar y ddolen hon.

Gareth Williams yw Rheolwr Polisi Safonau a Chymwysterau CITB Cymru.