Facebook Pixel
Skip to content

Sut i dalu'r Lefi

Ar ôl i chi gwblhau eich Ffurflen Lefi a chael eich Hysbysiad Asesu Lefi sy’n esbonio faint y mae’n rhaid i chi ei dalu, gallwch drefnu talu’ch lefi.

Pryd i dalu

Mae angen i chi dalu’ch lefi neu drefnu Debyd Uniongyrchol i’w dalu fesul rhandaliadau o fewn mis i gael eich Hysbysiad Asesiad Lefi. Mae Hysbysiadau Asesu Lefi’n cael eu hanfon yn y gwanwyn bob blwyddyn. Fodd bynnag, gwnaeth CITB atal anfon y rhain oherwydd COVID-19 a’r heriau o ran llif arian. 

Fel arfer, mae rhandaliadau Debyd Uniongyrchol di-log yn cael eu casglu yn y deg mis rhwng mis Mai a mis Chwefror, ond cafodd ei ymestyn yn 2020 a bydd yn cael ei gasglu dros 12 mis o fis Medi 2020 hyd at fis Awst 2021. Bydd y Lefi a godwyd yn 2021 yn cynnwys gostyngiad o 50% a bydd yn cael ei gasglu dros chwe rhandaliad o fis Medi 2021 hyd at fis Chwefror 2022.

Er mwyn manteisio ar hyn, bydd angen i chi gwblhau a dychwelyd y ffurflen Debyd Uniongyrchol a fydd yn cael ei hanfon gyda'r Hysbysiad Asesu Lefi.

Er mwyn bod yn gymwys i gael taliadau grant, mae’n rhaid eich bod wedi talu’ch lefi’n llawn neu wedi trefnu ei dalu drwy Ddebyd Uniongyrchol.

Dulliau talu

Gallwch dalu'r Lefi mewn dwy ffordd:

  • drwy wneud taliad trwy Ddebyd Uniongyrchol misol di-log – mae hyn yn hawdd ei drefnu ac yn eich helpu i ymestyn y taliadau dros flwyddyn
  • yn llawn mewn un cyfandaliad

Sut i drefnu Debyd Uniongyrchol

Gallwch drefnu Debyd Uniongyrchol mewn dwy ffordd:

Lawr lwythwch y ffurflen Debyd Uniongyrchol (PDF, 584KB)

Ewch ati i gwblhau'r ffurflen a’i dychwelyd i:

Gwasanaeth Cwsmer Lefi a Grantiau
CITB 
Bircham Newton
King's Lynn
Norfolk
PE31 6RH

Lawr lwythwch yr e-ffurflen Debyd Uniongyrchol (PDF, 222KB)

Dylech gwblhau ac e-bostio'r ffurflen i

O leiaf ddeg diwrnod cyn bod angen gwneud y taliad cyntaf, bydd CITB yn anfon dwy ddogfen atoch:

  • ffurflen cadarnhau manylion banc, er mwyn i chi gadarnhau'r manylion
  • cynllun talu fesul rhandaliadau Debyd Uniongyrchol, sy’n egluro faint sy'n ddyledus, pryd y bydd pob rhandaliad yn cael ei wneud a faint fydd pob un

Bydd yr arian yn gadael eich cyfrif banc yn awtomatig bob mis – ni fydd angen i chi wneud dim byd arall.

Cyn belled â’ch bod yn cyflwyno’ch Ffurflen Lefi yn brydlon bob blwyddyn ac nad ydych yn canslo’ch Debyd Uniongyrchol, bydd y rhandaliadau’n parhau i gael eu gwneud flwyddyn ar ôl blwyddyn.

Help

Os oes angen help arnoch wrth drefnu talu’ch lefi, e-bostiwch