Facebook Pixel
Skip to content

Cyfleoedd presennol

Mae'r adran hon yn cynnwys yr holl gyfleoedd cyfredol sydd ar agor, neu a fydd ar agor yn fuan, i wneud cais.

Ar y dudalen hon:

Comisiwn Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI) 2024

Gweminar lansio tendr Dydd Llun 8fed o Ionawr 2024 am 11yb

Mae’r comisiwn Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant i sicrhau bod gan y diwydiant ddigon o bobl i gyflawni’r gwaith sydd ar y gweill. Mae angen i ni recriwtio mwy o bobl, o gefndiroedd mwy amrywiol a gwella cyfraddau cadw ar draws y diwydiant adeiladu.

Mae cyfle i gynyddu’r niferoedd sy’n dod i mewn i’r diwydiant trwy ddod â phobl o wahanol ddemograffeg i mewn. Fodd bynnag, mae tystiolaeth yn dweud wrthym fod cynnydd ar hyn yn araf. Mae tystiolaeth hefyd bod y ffaith nad yw diwydiant yn adlewyrchu cymdeithas yn ei amrywiaeth, sy’n her ehangach, yn cael effaith negyddol ar gadwraeth diwydiant, gan fod bod yn gynhwysol yn helpu i gadw’r dalent bresennol yn y diwydiant.

Mae’r comisiwn hwn yn chwilio am ddarparwr i sicrhau bod hyfforddiant EDI ar gael trwy borth ar-lein i fynd i’r afael â’r materion hyn drwy:

  • Ysgogi mwy o bobl i fanteisio ar yr hyfforddiant EDI sydd ar gael ym mhob maes diwydiant (gan gynnwys is-sectorau a meintiau busnes gwahanol.)
  • Adolygu a gwella’r adnoddau hyfforddi EDI presennol i sicrhau eu bod yn addas ar gyfer BBaCHau ac yn bodloni’r holl ddeddfwriaeth gyfredol.
  • Cynhyrchu astudiaethau achos BBaCH/meicro i ddangos manteision recriwtio cynhwysol i fusnesau bach.

Bydd CITB yn cynnal gweminar lansio ar Ddydd Llun 8fed o Ionawr am 11yb i egluro’r comisiwn ymhellach ac ateb unrhyw gwestiynau. Ymuno â’r gweminar.

Disgwylir i’r tendr fynd yn fyw ar y 10fed o Ionawr a bydd ar gael ar Delta.

Sut i wneud cais

I wneud cais bydd angen i chi gofrestru ar Delta.