Facebook Pixel
Skip to content

Sut i'w gyflawni: Adnodd NSAfC

Mae adnodd yr Academi Sgiliau Genedlaethol ar gyfer Adeiladu (NSAfC) yn adnodd ar-lein am ddim sy'n llawn gwybodaeth, cyngor ac arweiniad am ffordd NSAfC o weithio.

Mae ar gael i bawb, p'un a oes gan eich prosiect statws NSAfC ai peidio, a p'un a ydych chi'n ystyried gwneud cais am statws a'i peidio. Gallwch ddefnyddio'r adnodd i'ch helpu chi trwy'r broses gyfan, neu i fynd i mewn ac allan ohono yn ôl eich anghenion.

Wrth wraidd dull NSAfC mae set o ddangosyddion perfformiad allweddol (KPI) sydd wedi'u diffinio'n glir ac sy'n seiliedig ar ffyrdd profedig o weithio.

Os oes gennych achrediad NSAfC, bydd y KPI hyn yn sail i'r hyn y mae disgwyl i chi ei gyflawni o ran canlyniadau cyflogaeth a sgiliau - ond os nad oes gennych chi, maen nhw'n dal i fod yn fframwaith amhrisiadwy i'w ddefnyddio.

Yn nodweddiadol, mae'r unigolyn sy'n llywio hyfforddiant a datblygu sgiliau ar brosiect - fel cydlynydd sgiliau prosiect (PRhA), swyddog buddion cymunedol, neu gydlynydd cleientiaid - yn defnyddio'r KPI a chynllun cyflogaeth a sgiliau cysylltiedig (ESP) fel sail ar gyfer trefnu ymateb i anghenion hyfforddi eu sefydliad.

Un o rolau pwysicaf cydlynydd y prosiect yw meithrin perthnasoedd ar draws y gadwyn gyflenwi, a chydag ysgolion, colegau, darparwyr hyfforddiant a chanolfannau swyddi lleol.

Mae cael contractwyr ac isgontractwyr ar yr ochr, a chreu rhwydwaith o gysylltiadau â sefydliadau lleol, yn hanfodol wrth gyflawni KPI, trwy brentisiaethau, lleoliadau gwaith, digwyddiadau gyrfa a datblygu'r gweithlu.

Gall cydlynwyr prosiect hefyd helpu i gyflawni canlyniadau trwy dynnu sylw contractwyr a chyflogwyr at ffrydiau cyllid posibl.

Yn y modd hwn, mae dull NSAfC yn cadarnhau pwysigrwydd busnesau bach a chanolig (SME), sy'n tueddu i gyflogi canran uwch o hyfforddeion a phrentis na chystadleuwyr mwy ond weithiau'n cael eu hanwybyddu yn ystod y broses gaffael. Mae cynnwys busnesau bach a chanolig yn galluogi amrywiaeth o gyflenwyr sy'n ganolog i gyflogaeth a datblygu sgiliau cynaliadwy a fydd yn darparu gwerth cymdeithasol parhaol a budd i gymunedau a diwydiant.

Mae arweinydd prosiect NSAfC hefyd yn adolygu cynnydd ac yn rhannu profiadau, gan godi proffil y prosiect, ysgrifennu astudiaethau achos ac awgrymiadau i annog arfer gorau ar draws y diwydiant, a thrwy wneud cais am ddyfarniadau.

Datblygwyd yr adnodd hwn gan grŵp tasg NSAfC, yn cynnwys:

  • Ann Duffy a Susan Fletcher yn Bam Nuttall
  • Natalie Peacock o Costain
  • Karen Blacklaw, Martin Bruton a Silka Lyon-Fraser o CITB.