Facebook Pixel
Skip to content

Datganiad hygyrchedd

Rydym wedi gwneud pob ymdrech i sicrhau bod y wefan hon yn hygyrch i bawb. Rydym wedi anelu at sicrhau bod y wefan hon yn cydymffurfio â'r canllawiau canlynol:-

  • HTML5
  • CSS 3.0
  • WAI AA Dwbl

Er mwyn dilysu ein cod, rydym wedi defnyddio 'Total Validator'.

Total Validator

Adnodd dilysu gwefan sy'n dilysu ac yn sicrhau hygyrchedd nodau (mark-up) a chod arddull (CSS) gwefan yw 'Total validator Pro'. Caiff ei gadw'n gyfoes drwy ddiweddariadau byw, gan sicrhau ei fod bob amser yn profi yn erbyn y manylebau diweddaraf.

 Mae'n darparu'r canlynol:

Bysellau Mynediad

Fel ffordd o'ch helpu i gyrchu'r wefan, mae bysellau mynediad wedi'u nodi ar bob prif ddolen a gallant gael eu hactifadu'n hawdd drwy ddefnyddio'r bysellau isod.

H = Ewch i'r Hafan.
S = Anwybyddwch y gwe-lywio ac ewch yn syth i'r cynnwys.
K = Ewch i'r dudalen diffiniadau bysellau mynediad.

Os nad ydych yn gwybod sut i ddefnyddio bysell mynediad, dilynwch y cyfarwyddiadau isod:-

Porwyr ar gyfer Cyfrifiaduron Personol

  • Firefox 2+: Daliwch y bysellau ALT a SHIFT i lawr ac yna pwyswch rif y fysell mynediad
  • Safari: Daliwch y fysell ALT i lawr a phwyswch rif y fysell mynediad
  • Chrome: Daliwch y fysell ALT i lawr a phwyswch rif y fysell mynediad
  • Opera 9+: Daliwch SHIFT a'r fysell ESC i lawr a bydd y rhestr o fysellau mynediad yn ymddangos.
  • Internet Explorer 5+: Daliwch y fysell ALT i lawr, pwyswch y fysell mynediad, rhyddhewch bob un a phwyswch ENTER

Porwyr ar gyfer cyfrifiaduron Mac

  • Firefox: Daliwch y bysellau CTRL ac OPTION i lawr, pwyswch rif y fysell mynediad
  • Safari: Daliwch y bysellau CTRL ac OPTION i lawr, pwyswch rif y fysell mynediad
  • Chrome: Daliwch y bysellau CTRL ac OPTION i lawr, pwyswch rif y fysell mynediad
  • Opera 9+: Daliwch SHIFT a'r fysell ESC i lawr a bydd y rhestr o fysellau mynediad yn ymddangos.