Facebook Pixel
Skip to content

Ynglŷn â chomisiynu

Beth yw comisiynau?

Mae comisiynau'n cefnogi meysydd lle mae CITB wedi dynodi angen am fuddsoddiad.

Bob blwyddyn rydym yn gweithio gyda'r diwydiant adeiladu i ddeall yr heriau sy'n ei wynebu. Mae'r ymgynghoriad a'r ymchwil hon yn ein helpu i benderfynu ble gallwn gefnogi'r sector a lle bydd buddsoddi adnoddau o'r budd mwyaf. Comisiynir prosiectau ar themâu â blaenoriaeth, yn seiliedig ar angen y diwydiant, strategaeth CITB a / neu bolisi'r llywodraeth.

Beth mae comisiynau'n ei gefnogi?

Rydym am i'n comisiynau fod o fudd i gynifer o bobl â phosibl. Felly rydyn ni'n edrych am brosiectau sydd nid yn unig yn gwella sefyllfa’r rhai sy’n cymryd rhan, ond sydd hefyd yn helpu cyflogwyr eraill y diwydiant, a'r diwydiant adeiladu yn ei gyfanrwydd.

Rydym yn dymuno cefnogi prosiectau sy'n helpu'r diwydiant adeiladu:

  • gwneud adeiladu yn yrfa ddeniadol
  • sicrhau bod hyfforddiant a datblygiad yn bodloni anghenion cyflogwyr
  • defnyddio arloesedd i ymateb i heriau newydd ym maes adeiladu.

Gweler sut mae prosiectau comisiynu wedi helpu’r sector adeiladu.

Sut i wneud cais

  1. Fe welwch fanylion pa gomisiynau sydd ar agor ar gyfer ceisiadau o dan y dudalen

  2. Bydd angen i chi gofrestru ar Delta i allu cwblhau cyflwyniad.

    Am ragor o wybodaeth am gomisiynu yn CITB, gweler ein Polisi Comisiynu:

Polisi Comisiynu CITB Commissioning (PDF, 690KB)

Cysylltu â ni

Os oes arnoch angen unrhyw Arweiniad a chyngor ar sut i gwblhau cyflwyniad, neu wybodaeth arall am y tîm comisiynu, cysylltwch â thîm comisiynu CITB ar:  commissioning@citb.co.uk