Ynglŷn â'r prawf iechyd, diogelwch a'r amgylchedd (HS&E)
Ynglŷn â'r prawf iechyd, diogelwch a'r amgylchedd (HS&E)
Mae prawf iechyd, diogelwch a'r amgylchedd (HS&E) CITB yn ffordd bwysig i weithwyr adeiladu ddangos y gallant fod yn ddiogel mewn swydd. Mae hefyd yn ffordd iddynt wybod bod eu cyd-weithwyr yr un mor ddiogel ar y safle a pheidio â'u rhoi mewn perygl o gael eu hanafu.
I gyflogwyr, gyda gweithwyr sydd wedi pasio prawf HS&E CITB mae sicrwydd bod eu gweithlu yn gallu parhau i fod yn ddiogel yn y gwaith.
Mae tri math o brawf HS&E. Os ydych eisoes yn gwybod pa fath o brawf i'w sefyll, gallwch drefnu a thalu am y prawf ar-lein neu dros y ffôn.
Strwythur y prawf
Mae’r prawf Iechyd a Diogelwch yn cynnwys 50 cwestiwn sy’n ymdrin â phum maes gwybodaeth graidd:
- cyfreithiol a rheolaethol
- iechyd a lles
- diogelwch cyffredinol
- gweithgareddau risg uchel
- Amgylchedd
Mae gan ymgeiswyr 45 munud i ateb y 50 cwestiwn. Mae'r prawf bellach yn cynnwys arddulliau cwestiynau newydd. Defnyddir astudiaethau achos ymddygiadol hefyd yn y prawf i wirio dealltwriaeth ymgeisydd o faterion iechyd, diogelwch ac amgylcheddol, a sut i ymddwyn yn ddiogel ar y safle.
Mae CITB yn adolygu’r prawf yn barhaus i sicrhau ei fod yn parhau i helpu gweithwyr adeiladu a chyflogwyr i gael y wybodaeth, y sgiliau a’r hyfforddiant cywir i allu gweithio’n ddiogel yn y diwydiant. Mae gwelliannau pellach i'r prawf ar y gweill dros y 12 i 18 mis nesaf.
Cost y prawf
Mae'n costio £22.50 i sefyll y prawf HS&E.
Gellir prynu talebau o'r gwerth hwn ymlaen llaw a'u defnyddio i dalu am y prawf.(sylwer mai dim ond yng Nghanolfannau Proffesiynol Pearson y gellir defnyddio talebau).
Mathau o brofion Iechyd, Diogelwch ac Amgylchedd
Mathau o brofion HS&E
Mae tri math o brawf HS&E:
- Gweithwyr
- Arbenigwyr
- Rheolwyr a Gweithwyr Proffesiynol
Ynglŷn â'r prawf HS&E i Weithwyr
Mae prawf y Gweithwyr yn sicrhau bod gan weithwyr isafswm lefel o ymwybyddiaeth iechyd, diogelwch ac amgylcheddol cyn mynd ar y safle. Mae'r prawf hwn yn cwmpasu'r pum maes gwybodaeth craidd a restrir uchod (gweler Strwythur y prawf).
Y marc llwyddo ar gyfer y prawf i Weithwyr yw 90%. I lwyddo, mae angen i chi ateb o leiaf 45 allan o 50 cwestiwn yn gywir.
Ynglŷn â'r prawf HS&E i Arbenigwyr
Mae'r profion hyn yn cynnwys cwestiynau am y pum maes gwybodaeth craidd yn ogystal â chwestiynau perthnasol yn y meysydd arbenigol a ddewisir. Gellir sefyll y prawf i Arbenigwyr yn y pynciau dilynol:
- Goruchwylio (SUP)
- Dymchwel (DEM)
- Plymio (JIB) (PLUM)
- Gwaith priffyrdd (HIW)
- Gwaith arbenigol ar uchder (WAH)
- Lifftiau ac esgaladuron (LAEE)
- Twnelu (TUNN)
- HVACR - gwasanaethau gwresogi a phlymio (HAPS)
- HVACR - HVACR - gosod pibellau a weldio (PFW)
- HVACR - gwaith cwndidau (DUCT)
- HVACR - rheweiddio ac aerdymheru (RAAC)
- HVACE - HVACR - cynnal a chadw gwasanaethau a chyfleusterau (SAF).
Y marc llwyddo ar gyfer y prawf i Arbenigwyr yw 90%. I lwyddo, mae angen i chi ateb o leiaf 45 allan o 50 cwestiwn yn gywir.
Ynglŷn â'r prawf Rheolwyr a Gweithwyr Proffesiynol
Mae'r prawf hwn yn cwmpasu'r un pum maes craidd ond mae hefyd yn cynnwys cwestiynau ar y pynciau dilynol:
- Rheoliadau adeiladu (dylunio a rheoli)
- Dymchwel
- Gwaith priffyrdd.
Y marc llwyddo ar gyfer y prawf i Reolwyr a Gweithwyr Proffesiynol yw 92%. I lwyddo, mae angen i chi ateb o leiaf 46 allan o 50 cwestiwn yn gywir.
Cymorth arbennig ar gyfer y prawf
Mae CITB yn cynnig y trefniadau cymorth arbennig dilynol i ymgeiswyr sy'n sefyll y prawf Iechyd, Diogelwch ac Amgylchedd mewn Canolfan Proffesiynol Pearson.
Mae’r trefniadau mynediad canlynol ar gael i drefnu cymorth ar unwaith fel rhan o’r broses archebu safonol ar gyfer y prawf Iechyd a Diogelwch:
Opsiynau Trefnu ar Unwaith | Math o brawf HS&E | ||
---|---|---|---|
Gweithwyr | Arbenigol | Managers and Professionals | |
Troslais Gallwch ddewis sefyll eich prawf gyda chymorth recordiad sain troslais yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Os ydych yn sefyll y prawf Gweithredwyr, gallwch ddewis o blith 12 iaith arall. Byddwch yn cael clustffonau fel y gallwch glywed y cwestiynau prawf ac atebion posibl yn eich dewis iaith. Bydd y cwestiynau a'r atebion a ddangosir ar y sgrin yn aros yn Saesneg. |
|
|
|
Fideo Iaith Arwyddion Prydain (BSL). Gallwch gymryd y prawf Gweithredwyr gyda chymorth recordiad fideo o arwyddwr BSL, a fydd yn chwarae ar y sgrin yn ystod y prawf. |
Gellir | Na |
Gellir gwneud cais am y trefniadau mynediad canlynol drwy’r tîm Cymorth Arbennig drwy ffonio 0344 994 4491 neu anfon e-bost at citb.testingspecialassistance@pearson.com (sylwer efallai y bydd angen tystiolaeth i gymeradwyo’ch cais):
Opsiynau ar gais ar gyfer y prawf Iechyd a Diogelwch |
Opsiynau ar gais | Math o Brawf HS&E |
Gweithiwr | Arbenigol |
Cyfieithydd Os nad oes troslais ar gyfer eich iaith, gallwch sefyll y prawf Gweithredwyr neu’r prawf Arbenigol gyda chymorth cyfieithydd. |
Gellir | Na | |
Dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain (BSL). Gallwch sefyll unrhyw un o'r profion gyda chymorth dehonglydd BSL. |
Gellir | Gellir | |
Darllenydd neu Ddarllenydd-Recordydd Gallwch sefyll unrhyw un o'r profion gyda chymorth darllenydd neu ddarllenydd-recordydd cyn belled â'ch bod yn gallu darparu tystiolaeth* i gefnogi'ch cais. Mae darllenydd yn unigolyn a fydd yn darllen cwestiynau'r prawf ac atebion posibl i chi ac mae darllenydd-recordydd yn berson a fydd yn darllen cwestiynau'r prawf ac atebion posibl i chi ac yn cofnodi'r atebion wrth i chi eu darparu. |
Gellir | Gellir |
Os byddwch yn sefyll eich prawf gyda chymorth cyfieithydd, cyfieithydd BSL, darllenydd neu ddarllenydd-recordydd, byddwch yn cael ystafell ar wahân yn y ganolfan brawf ac amser ychwanegol i gwblhau eich prawf. |
Wrth gysylltu â’r tîm Cymorth Arbennig i wneud cais, rhowch y wybodaeth ganlynol:
- pa brawf HS&E yr ydych am ei sefyll (Gweithiwr, Arbenigwyr neu Reolwyr a Gweithwyr Proffesiynol - gallwch ddefnyddio'r darganfyddwr cerdyn CSCS i wirio pa brawf HS&E sydd ei angen arnoch)
- ble hoffech chi sefyll eich prawf (pa ganolfan brawf)
- pa drefniant mynediad sydd ei angen arnoch
- unrhyw dystiolaeth sydd gennych i gefnogi eich cais (*gall tystiolaeth gynnwys llythyr gan feddyg neu ddogfen asesu ffurfiol gan arbenigwr â chymwysterau priodol)
Unwaith y derbynnir eich cais, bydd aelod o’r tîm Cymorth Arbennig yn cysylltu â chi i drafod eich gofynion a chwblhau eich archeb (yn amodol ar argaeledd).
Pan fyddwch chi'n trefnu'ch prawf, gallwch wirio'r trefniadau hygyrchedd yn eich Canolfan Brofi Proffesiynol Pearson, er enghraifft, rampiau neu fannau parcio i yrwyr anabl.
Os oes angen unrhyw drefniadau mynediad neu addasiadau rhesymol arnoch nad ydynt wedi’u rhestru uchod, ffoniwch 0344 994 4491 neu e-bostiwch citb.testingspecialassistance@pearson.com.