Adrodd ar Berfformiad

Trosolwg
Mae adroddiadau perfformiad y CITB, sy’n cael eu cyhoeddi bob chwarter, yn ceisio rhoi trosolwg o sut mae Lefi'r diwydiant yn cael ei fuddsoddi a pha effaith mae wedi’i gael, gan roi cyfle i chi olrhain ein cynnydd yn erbyn ein cynllun busnes. Er mai’r prif bwrpas yw rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi, rydyn ni hefyd yn gobeithio y bydd hyn yn eich helpu chi i’n helpu ni, pan fyddwch chi’n rhoi adborth ar sut a ble rydych chi’n meddwl y dylid buddsoddi Lefi’r diwydiant.
Chwarter 2: Ebrill i Medi 2023
Mae’r adroddiad perfformiad hwn yn olrhain ein cynnydd yn erbyn y targedau a nodir yn ein cynllun busnes, a sut rydym yn cefnogi’r diwydiant adeiladu i gael gweithlu medrus, cymwys a chynhwysol, nawr ac yn y dyfodol.
Ein rôl yw:
- Rhoi gwybodaeth i’r bobl iawn a’u galluogi i ddechrau arni yn y diwydiant adeiladu
- Datblygu system hyfforddi a sgiliau i ddiwallu anghenion y presennol a’r dyfodol
- Cefnogi’r diwydiant i hyfforddi a datblygu ei weithlu
Darllenwch yr adroddiad llawn:
Dyma rai o uchafbwyntiau’r chwarter hwn:

Targed: 5% yn y cymorth hyfforddiant CITB y mae cyflogwyr yn ei gyrchu
Cynnydd: uwch na’r targed ar 11%
Rydym yn perfformio llawer uwch na’r targed, â bron i 21,000 o gyflogwyr yn cyrchu ein hystod eang o gymorth hyfforddi. Mae hyn yn cael ei ysgogi’n bennaf gan gynnydd sylweddol mewn ceisiadau
am ein grantiau a chyllid: mae cyflogwyr wedi elwa ar £11m mewn grantiau cyrsiau cyfnod byr, £9m mewn grantiau cymwysterau, £27m mewn grantiau prentisiaeth a £5m o’r gronfa Sgiliau a Hyfforddiant.
Mae’r rhwydwaith cyflogwyr, sy’n symleiddio mynediad at hyfforddiant sy’n benodol i sector neu ardal leol benodol, yn parhau i berfformio’n dda, gan gefnogi 440 o gyflogwyr.

Targed: 7% yn nifer yr unigolion sy’n Cael eu cefnogi i gyflogaeth ar ôl ab
Cynnydd: uwch na’r targed ar 19%
Rydym wedi buddsoddi dros £27m i gefnogi 20,050 o ddysgwyr drwy ein grantiau prentisiaeth, cynnydd o 17% ers y llynedd. Mae’r arian hwn yn helpu dros 6,500 o fusnesau bach a chanolig i hyfforddi’r genhedlaeth nesaf, y mae bron chwarter ohonynt yn hawlio grantiau prentisiaeth am y tro cyntaf. Yn gyffredinol, bu cynnydd o 25% yn y cyflogwyr sy’n hawlio’r grantiau hyn.
Mae’r Tim Cymorth i Newydd-Ddyfodiaid (NEST) wedi cefnogi dros 1,100 o gyflogwyr yn uniongyrchol, gan eu helpu i lywio’r broses recriwtio prentisiaethau a chael mynediad at y grantiau a’r cyllid y mae ganddynt hawl iddynt. Mae dros 800 o brentisiaid bellach wedi dechrau eu rhaglenni a diolch i atgyfeiriadau llwyddiannus gan y tim.

Targed: 15% yn nifer o bobl mewn cyflogaeth barhaus am 3 mis trwy hybiau ar y safle
Cynnydd: uwch na’r targed ar 41%
Ers sefydlu’r prosiect, mae hybiau Profiad ar y Safle - Cymru a Lloegr wedi hyfforddi dros 3,300 o bobl i fod yn barod ar gyfer y safle, a bron i 2,400 ohonynt wedi dechrau eu gyrfaoedd yn llwyddiannus yn y diwydiant adeiladu.
Wrth i’r fenter ffyniannus barhau, rydym yn benderfynol o fynd ymhellach, a hyfforddeion yn symud ymlaen i gyflogaeth hirdymor, barhaus fel y gall y diwydiant elwa ar eu sgiliau am flynyddoedd i ddod. Rydym wrth ein bodd a’r ymateb hyd yn hyn, a chynnydd enfawr o 41% yn nifer y dysgwyr sy’n cyflawni hyn.