You are here:
Cynlluniau Cenedl
Ar y dudalen hon:
Trosolwg
Yn dilyn ein Cynllun Busnes, mae ein Cynlluniau Cenedl yn nodi pa weithgareddau y bydd CITB yn canolbwyntio arnynt yng Nghymru, Lloegr a’r Alban i gefnogi’r diwydiant adeiladu i gael gweithlu medrus, cymwys a chynhwysol, nawr ac yn y dyfodol.
Ac fel ein Cynllun Busnes, mae’r Cynlluniau Cenedl yn canolbwyntio ar fynd i’r afael â thri maes blaenoriaeth allweddol:
- Gwella piblinell adeiladu pobl
- Creu llwybrau hyfforddi diffiniedig
- Darparu cyflenwad hyfforddiant effeithlon
Gallwch ganfod rhagor o fanylion am yr heriau hyn drwy fynd i’n Cynllun Busnes.
Piblinell Pobl
Denu newydd-ddyfodiaid i adeiladu, trwy:
- Cyflwyno mentrau Gweld Eich Safle i bobl ifanc
- Cyflwyno digwyddiadau Menywod mewn Adeiladu i ferched ym mlynyddoedd 7, 8 a 9
- Cymryd rhan yn nigwyddiadau Drysau Agored Build UK
- Cyrraedd 800 o ddysgwyr trwy ddigwyddiadau Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau
- Cynyddu nifer y Llysgenhadon STEM Am Adeiladu i 55
- Tyfu’r Rhwydwaith CSR i 62 o aelodau.
Ein nodau
- Cynnydd o 10% mewn cyfranogiad Gweld Eich Safle
- 20 o ddysgwyr yn cymryd rhan mewn Hyfforddeiaethau Gwaith Saer Safle
- Cynnydd o 10% yn nifer y ceisiadau i gystadlaethau sgiliau.
Llwybrau Hyfforddi
Sicrhau bod hyfforddiant yn darparu’r sgiliau sydd eu hangen, drwy:
- Gweithredu’r Fframwaith Prentisiaethau Trin Adeiladau Diwydiannol
- Datblygu prentisiaethau lefel gradd newydd
- Adolygu a datblygu safonau hyfforddi.
Ein nodau
- Prentisiaethau gradd yn barod erbyn Medi 2024
- Cyflogwyr wedi’u paratoi ar gyfer y Fframweithiau Prentisiaeth newydd.
Cyflenwad Hyfforddiant
Rhoi’r hyfforddiant cywir yn y lle cywir, drwy:
- Recriwtio dau Gynghorydd Cymorth i Newydd-ddyfodiaid
- Gwella ymwybyddiaeth o grantiau a chyllid CITB
- Darparu datrysiad cyflawn ar gyfer hyfforddiant prentisiaeth arbenigol.
Ein nodau
- Cyflwyno 20 prentisiaeth arbenigol
- Darpariaeth prentisiaeth newydd ar gyfer gwaith daear, toi a gosod lloriau
- Cynnydd o 10% yn nifer y cyflogwyr sy’n cael mynediad i hyfforddiant trwy Grwpiau Hyfforddi a’r Rhwydwaith Cyflogwyr.