Facebook Pixel
Skip to content

Cylchlythyr CITB Cymru: Cynnydd o 83% mewn cyllid sgiliau a hyfforddiant

Croeso i ddiweddariad chwarterol CITB Cymru.

Dyma newyddion am ein gwaith a fydd yn eich helpu i gael y gorau o’n gwasanaethau ledled Cymru.

Cyflogwyr yn derbyn dros £380K o gyllid sgiliau a hyfforddiant ychwanegol

Yn 2022 gwelwyd cynnydd mawr yng nghyllid Sgiliau a Hyfforddiant (S&H) CITB i gyflogwyr yng Nghymru, newyddion i annog mwy o fusnesau i gael mynediad at y cymorth a gynigiwn.

Cododd cyllid S&H ar gyfer cyflogwyr micro a bach o £423,004, yn 2021, i £732,168.

Yn y cyfamser derbyniodd saith cwmni canolig £111,136, o gymharu â chyfanswm y llynedd o £36,885. Roedd cynnydd blynyddol S&H yn £383,415, sef cynnydd o 83%.

Adlewyrchwyd y duedd mewn mwy o fuddsoddiad, ar draws y DU. Yn 2022 talodd CITB £5m yn fwy mewn grantiau nag yn y flwyddyn ariannol flaenorol.

Rydym am gefnogi mwy o fusnesau yn 2023.

Diddordeb mewn cyllid S&H? Cysylltwch â'ch cynghorydd yma.

Dweud eich dweud ar fuddsoddiad CITB

Rydym angen i chi lunio ein blaenoriaethau.

Mae ymgynghoriad ar ein Cynllun Strategol newydd ar y gweill, mae eich barn yn hanfodol i wneud y cynllun yn llwyddiant. Rhowch wybod i ni am y cymorth sydd ei angen arnoch a ble rydych chi'n meddwl y bydd buddsoddiad yn cael yr effaith orau ar y diwydiant. Cewch dweud eich dweud yma.

Os hoffech i un o’r tîm i helpu i rannu eich adborth, cysylltwch â’ch cynghorydd lleol yma.

Mae Cymwysterau Rheoli ac Arwain ar gael

Mae'r Grŵp OM ar fin darparu cymwysterau Rheoli ac Arwain ILM yng Nghymru a ledled y DU. Bydd hyfforddiant yn cael ei ddarparu yn Gymraeg hefyd os oes angen.

Mae cost Ymarfer Rheoli ac Arwain ar gyfer y Dyfarniad Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig (dau fodiwl) neu Dystysgrif (pum modiwl) yn ffi cofrestru ILM o £137.

Cysylltwch â'ch Cynghorydd Ymgysylltu lleol neu cofrestrwch eich diddordeb yma.

Cynnig swydd cyfieithydd

Caru'r Gymraeg? Meddu ar sgiliau cyfieithu cryf a chyflym? Chwaraewr tîm gwych? Da o ran cwrdd â therfynau amser? Os ydych wedi ateb ‘ydw’ i’r cwestiynau hyn, hoffem glywed gennych gan fod gennym swydd cyfieithydd newydd ar gael. Manylion a sut i wneud cais yma.

Mae ‘Open Doors’ yn dechrau ar 13 o Fawrth

Mae ymgyrch Open Doors – arddangosfa gyrfaoedd adeiladu ledled y DU – yn dechrau ar 13 o Fawrth. Cliciwch yma i gael gwybodaeth am y safleoedd byw sydd ar gael i ymweld â nhw yng Nghymru. Gobeithio y gallwch chi gymryd rhan.

“Gemau Olympaidd adeiladu’r DU” ar y gweill, mwy o ddigwyddiadau yng Nghymru yn dod yn fuan

Mae SkillBuild 2023 wedi dechrau!

Cynhaliodd Coleg Sir Benfro, Coleg y Cymoedd a Grŵp Llandrillo Menai ddigwyddiadau Cystadlaethau Sgiliau Cymru isranbarthol ym mis Ionawr.

Roedd y rhain yn rhagflaenydd i ddigwyddiadau SkillBuild ar 6 o Fehefin, yng Ngholeg Gŵyr, Abertawe, a 8 o Fehefin yng Ngholeg Menai (Campws Llangefni). I gael gwybodaeth am SkillBuild, a ddisgrifir fel “Gemau Olympaidd adeiladu’r DU”, a sut i gofrestru, cliciwch yma.

Cefnogi 850 o ddysgwyr yn Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau

Yn ystod Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau (6 – 12 o Chwefror) gwelwyd ein tîm yn cefnogi cyflogwyr a myfyrwyr ledled Cymru.

Fe wnaethom ymgysylltu ag 850 o ddysgwyr. Un enghraifft oedd CITB a Cyfle Building Skills Ltd yn gweithio gyda myfyrwyr AB yng Ngholeg Gŵyr Abertawe. Arbrofodd y dysgwyr gydag offer rhith-realiti a chyrchwyd cymorth chwilio am swydd trwy ein cronfa ddata o gyflogwyr o safon.

I ddarllen barn ein Cyfarwyddwr Ymgysylltu newydd Julia Stevens (manylion isod) ar rôl hanfodol prentisiaid yn economi Cymru, cliciwch yma.

Mae dros 250 o ddysgwyr yn cymryd rhan yn #GweldEichSafle

Cynhaliwyd ein hymgyrch boblogaidd #GweldEichSafle ym mis Tachwedd. Mae #GweldEichSafle yn amlygu apêl gyrfaoedd adeiladu ac yn pontio’r bwlch rhwng darparwyr hyfforddiant a chontractwyr. Diolch i bawb a gymerodd ran: ymwelodd 257 o ddysgwyr â 23 o safleoedd ledled Cymru.

Bydd cytundeb newydd yn cryfhau gwaith gyda Cholegau AB

Mae cytundeb sy’n cefnogi darparu cymwysterau adeiladu yng Nghymru wedi’i lofnodi gan GolegauCymru ar ran aelod-golegau, a CITB. Mwy yma.

Darparu cyngor cyflogadwyedd i ddysgwyr gogledd Cymru

Mynychodd dros 100 o ddysgwyr adeiladu ddigwyddiad cyflogadwyedd CITB yng Ngholeg Cambria ym mis Rhagfyr. Rhoddodd y digwyddiad gipolwg i ddysgwyr yn y coleg ar y sgiliau y mae cyflogwyr eu heisiau gan weithwyr adeiladu newydd. Mwy yma.

Mae angen dros 9,000 o weithwyr adeiladu ychwanegol yng Nghymru erbyn 2027

Mae adroddiad sgiliau blynyddol CITB yn amcangyfrif y bydd angen 9,100 o weithwyr ychwanegol i ateb y galw adeiladu yng Nghymru rhwng nawr a 2027. Mae ein Prif Weithredwr Tim Balcon yn ysgrifennu am y rhagolwg yn ei flog Rhagolygon adeiladu newydd yn adlewyrchu amseroedd cythryblus.

Penodwyd Julia Stevens yn Gyfarwyddwr Ymgysylltu newydd CITB Cymru   

Mae gan CITB Cymru Gyfarwyddwr Ymgysylltu newydd, mae Julia Stevens wedi olynu Mark Bodger. Mae Julia wedi bod yn gweithio i CITB ers pedair blynedd. Ymunodd fel Rheolwr Grŵp Hyfforddi ac mae wedi rheoli prosiect peilot y Rhwydwaith Cyflogwyr dros y flwyddyn ddiwethaf.

Dywedodd Julia: “Ar ran y tîm a phawb yn CITB, hoffwn ddiolch i Mark am ei wasanaeth dros y blynyddoedd. Mae Mark yn gadael etifeddiaeth gref i adeiladu arni, mae wedi gwneud cyfraniad sylweddol i’r diwydiant adeiladu yng Nghymru a’r DU.

“Mae hwn yn gyfle cyffrous i mi, yn un heriol, hefyd. Rwyf wedi etifeddu tîm gwych, a byddwn yn canolbwyntio ar gydweithio â diwydiant ar y materion y maent yn eu hwynebu yn ystod y cyfnod o ansicrwydd economaidd hwn. Edrychaf ymlaen at gyflawni nodau ein Cynllun Cenedl a chefnogi cyflogwyr o bob maint i’w helpu i gael gweithlu medrus, cymwys a chynhwysol.”

Croesewir eich adborth ar y diweddariad hwn yn fawr, rhowch wybod i ni beth yr hoffech ei ddarllen a sut y gallwn eich cefnogi.

Rydym am roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi gan CITB - cofrestrwch neu rheolwch eich tanysgrifiadau yma.

Dymuniadau gorau
Tîm CITB Cymru