Cymru
Beth sydd ar gael i gyflogwyr adeiladu yng Nghymru
Gall Ymgynghorwyr CITB eich cefnogi i wneud diagnosis o fylchau mewn sgiliau, rhoi cyngor ar brentisiaethau, deddfwriaeth a hyfforddiant, yn ogystal â'ch cyfeirio at ffynonellau eraill a fydd o gymorth. Dewch o hyd i'w gwybodaeth gyswllt yn y dolenni isod:
Ymgynghorwyr lleol yng Nghymru
Mae gan CITB ymgynghorwyr lleol i helpu cyflogwyr i gael mynediad at gymorth a gwasanaethau gan CITB yn ogystal â sefydliadau partner eraill yng Nghymru. Gweler isod am fanylion yr ymgynghorydd lleol yn eich ardal.
Ynys Môn, Conwy a Gwynedd, Caerffili, Torfaen, Blaenau Gwent, Sir Fynwy, Casnewydd, Merthyr Tudful, Pen-y-bont ar Ogwr
Aled Hughes
Ers 2010, mae Aled wedi bod yn rhoi cymorth a chyngor i gyflogwyr yn y diwydiant adeiladu. Mae'n ymgynghorydd gyrfaoedd cymwys ac ar hyn o bryd mae'n dilyn cymhwyster Lefel 5 y Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth (ILM) mewn Hyfforddi a Mentora.
Mae Aled yn siaradwr Cymraeg rhugl ac yn hapus i ddarparu gwasanaeth dwyieithog i fodloni anghenion cwsmeriaid.
Ffôn: 07795 800573
Ebost: Aled.Hughes@citb.co.uk
Trydar: @AledCITB
LinkedIn
Wrecsam, Sir y Fflint, Sir Ddinbych a Gogledd Powys
Emrys Roberts
Dechreuodd Emrys weithio fel Ymhynghorydd Gyrfa Adeiladu gyda’r CITB yn 2011 ac mae wedi bod yn Ymhynghorydd CITB ers 2016.
Cyn ymuno â'r CITB bu'n gweithio i Gyrfa Cymru yn y Gogledd Ddwyrain. Mae Emrys yn siaradwr Cymraeg rhugl ac yn hapus i ddarparu gwasanaeth dwyieithog i fodloni anghenion cwsmeriaid.
Ffôn: 07881 514865
Ebost: Emrys.Roberts@citb.co.uk
Trydar: @CitbEmrys
Ceredigion, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro
Helen Murray
Mae Helen wedi bod yn gweithio i CITB ers 2016 ac mae wedi bod yn eiriolwr hirdymor ar gyfer dysgu gydol oes a datblygu economaidd lleol.
Mae ganddi brofiad fel hyfforddwraig, rhedeg busnesau a gwerthuso; ac yn ddysgwr Cymraeg uwch.
Ffôn: 07500 096107
E-bost: Helen.Murray@citb.co.uk
Trydar: @H3l3nCITB
LinkedIn
Abertawe, Castell-nedd Port Talbot a De Powys
Jon Davies
Mae Jon wedi gweithio yn CITB ers dros 14 mlynedd, yn y cyfnod hwnnw yn cefnogi’r rhaglen brentisiaeth a nawr fel Ymgynghorydd Ymgysylltu yn Rhanbarth Abertawe a De Powys.
Mae'n hyrwyddwr DYYG, fel cyn-brentis ei hun. Mae'n Swyddog Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl cymwysedig ac wedi bod yn hyrwyddwr diogelu yn ei amser gyda CITB. Cyn cwblhau cymhwyster Lefel 5 y Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth (ILM) mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth mae Jon bellach yn gweithio tuag at ei BA Anrhydedd mewn Rheolaeth Busnes.
Ffôn: 07824 865551
E-bost: jon.davies@citb.co.uk
Trydar: @jondaviesCITB
LinkedIn: https://www.linkedin.com/in/jon-davies-b9ab97124/
Caerdydd, Casnewydd, Sir Fynwy a Thorfaen
Suzanne Perkins
Mae Suzi wedi ymuno â’n tîm CITB ar ôl gweithio i gwmni adeiladu mawr ers 2008 yn rheoli rhaglen Gwerth Cymdeithasol ac Ymgysylltiad Cymunedol rhanbarthol.
Mae Suzi yn edrych ymlaen at gefnogi ein cyflogwyr bach a mawr sydd wedi cofrestru gyda CITB ledled De-ddwyrain Cymru o fewn ei hardaloedd, yn eu helpu i gael mynediad at ein grantiau a’n cyllid yn ogystal â chefnogi gyda’n Llysgenhadon STEM Am Adeiladu a chysylltiadau coleg.
Ffôn: 07770 678353
E-bost: Suzanne.Perkins@citb.co.uk
Bro Morgannwg, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili a Merthyr Tudful
John Evans
Dechreuodd John gyda CITB fel Cynghorydd ym mis Awst 2019. Cyn ymuno â CITB bu John yn gweithio ar Brosiect Cronfa Gymdeithasol Ewrop.
Mae John yn siaradwr Cymraeg rhugl ac yn hapus i ddarparu gwasanaeth dwyieithog i ddiwallu anghenion cyflogwyr.
Ffôn/Fôn: +44 (0)7748 238 704
Ebost/Ebost: john.evans@citb.co.uk
Rhondda Cynon Taf a Chastell Nedd Port Talbot
Ross Baker
Mae Ross wedi bod gyda CITB ers 2013. Gan weithio o fewn y tîm prentisiaethau tan fis Gorffennaf 2021, cymerodd Ross ei rôl newydd fel Ymhynghorydd Ymgysylltu â Chwsmeriaid ar gyfer Rhondda Cynon Taf a Chastell-nedd Port Talbot. Treuliodd Ross 18 mlynedd yn gweithio gyda phrentisiaid adeiladu ar draws De-orllewin Cymru ac mae’n dod â chyfoeth o wybodaeth Prentisiaethau i’r rôl. Mae Ross yn swyddog cymorth cyntaf iechyd meddwl ac ar hyn o bryd yn astudio tuag at radd BA Anrhydedd mewn Economeg.
Mae Ross yn awyddus i gefnogi cymaint o gwmnïau â phosibl, mawr a bach, o fewn rhanbarthau RhCT a CNPT.
Ffôn: 07786 334801
E-bost: ross.baker@citb.co.uk
LinkedIn:Ross Baker
Cynllun peilot rhwydwaith cyflogwyr
Os ydych chi yn Ne Orllewin Cymru dysgwch fwy am y fenter newydd 12 mis. Gyda'i gilydd, bydd cyflogwyr yn llywio'r ffordd y caiff yr arian a ddarperir gan CITB ei wario, ac ar beth. Ac os bydd y peilot yn llwyddiannus gallai newid y ffordd y caiff hyfforddiant ei ariannu gan CITB yn sylweddol.
Mae yna lawer o sefydliadau yng Nghymru sy'n darparu cyngor ar fusnes, recriwtio a chymorth gyrfaoedd i gyflogwyr adeiladu. Mae’r gwasanaethau cymorth sydd ar gael yn cynnwys:
Cyngor busnes a chymorth strategaeth
Hyrwyddo adeiladu fel gyrfa
Recriwtio a chadw
Hyfforddiant
Cefnogaeth arall
Cyngor busnes a chymorth strategaeth
Busnes Cymru
Mae Busnes Cymru yn wasanaeth rhad ac am ddim sy’n cynnig cymorth a chyngor diduedd, annibynnol i gyflogwyr ledled Cymru, ni waeth a ydynt yn fusnes newydd neu sefydledig.
Ewch ar wefan Busnes Cymru am fanylion y cymorth a'r gwasanaethau sydd ar gael.
Academi Busnes Gogledd Cymru
Mae'r academi yn cynnig rhaglen ddysgu sydd wedi'i chynllunio i helpu cyflogwyr adeiladu i ddatblygu strategaeth fusnes sy'n tyfu eu busnes.
Mae’r rhaglen 2 gam yn cynnwys cyfres o fodiwlau ymarferol dan arweiniad mentor busnes.
Ewch ar wefan Academi Busnes Gogledd Cymru am fanylion y rhaglen hon.
Hyrwyddo adeiladu fel gyrfa
Business in the Community Cymru
Mae Business in the Community Cymru (BITC) yn dod â chwmnïau at ei gilydd i fynd i’r afael â materion cymdeithasol. Mae eu rhaglen yn darparu fframwaith ar gyfer partneriaethau hirdymor rhwng busnesau ac ysgolion sydd o fudd i'r ddwy ochr.
Maent hefyd yn cefnogi llawer o gwmnïau i wneud gwirfoddoli yn norm yn eu gweithle.
Ewch i wefan BITC am ragor o wybodaeth .
Cyfnewid Busnes Addysg
Mae Cyfnewid Busnes Addysg Gyrfa Cymru yn helpu i baru cyflogwyr adeiladu ac ysgolion. Nod y cyfnewid yw rhoi cyfle i gyflogwyr weithio gydag ysgolion i ddatblygu rhaglenni addysgol yn ymwneud ag adeiladu.
Ewch ar wefan y Gyfnewidfa Addysg Busnes am ragor o fanylion.
Troi eich Llaw
Mae menter Troi eich Llaw yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau rhyngweithiol a hwyliog i ysgolion a myfyrwyr lle gallant gael blas ar y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer gyrfa yn y sector adeiladu.
Mae'r rhaglen yn chwilio am gyflogwyr adeiladu fel partneriaid ar gyfer y fenter hon
Ewch i wefan Troi eich Llaw i gael rhagor o wybodaeth am y fenter.
Recriwtio a chadw
Chwarae Teg
Mae Chwarae Teg yn cynnal y Rhaglen Busnes Cenedl Hyblyg 2. Nod y rhaglen yw gwella perfformiad busnes trwy recriwtio, cadw a datblygu gweithlu amrywiol yn effeithiol.
Ewch ar wefan Chwarae Teg am ragor o wybodaeth am y rhaglen hon.
Ymddiriedolaeth y Tywysog
Mae Ymddiriedolaeth y Tywysog yn helpu pobl ifanc i gael addysg, hyfforddiant a gwaith. Maent yn chwilio’n rheolaidd am fusnesau i bartneru â nhw yn eu rhaglenni, gan gynnwys lleoliadau gwaith a gwirfoddoli gan gyflogeion.
Ewch ar wefan Ymddiriedolaeth y Tywysog i gael rhagor o wybodaeth am sut i weithio mewn partneriaeth â'r ymddiriedolaeth.
Hyfforddiant
Canolfan Arloesi Adeiladwaith Cymru (CWIC)
Mae Canolfan Arloesi Adeiladwaith Cymru (CWIC) yn cynnig hyfforddiant adeiladu pwrpasol ac arbenigol i bob sector a lefel.
Ewch ar wefan Canolfan Arloesi Adeiladwaith Cymru am fanylion y cyrsiau sydd ar gael.
Arweinyddiaeth Ion
Mae'r rhaglen Arweinyddiaeth Ion yn helpu i ddatblygu a gwella sgiliau arwain perchnogion a rheolwyr busnes.
Maent yn cynnig cyrsiau arweinyddiaeth ymarferol sydd wedi'u cynllunio i helpu cyfranogwyr i ddysgu sut i roi'r syniadau, y strategaethau a'r arferion gorau diweddaraf ar waith yn eu busnesau.
Ewch ar wefan Ion Leadership am fanylion y cyrsiau a'r cymwysterau arweinyddiaeth sydd ar gael.
Porth Sgiliau
Mae'r Porth Sgiliau yn darparu nifer o becynnau cymorth i helpu cyflogwyr i ddynodi bylchau yn sgiliau eu gweithlu fel y gallant gynllunio hyfforddiant a datblygiad eu gweithwyr.
Mae'r Porth Sgiliau hefyd yn cynnig gwasanaethau a chymorth eraill, megis cymorth prentisiaeth a recriwtio.
Ewch ar wefan y Porth Sgiliau i gael rhagor o wybodaeth am eu gwasanaethau.
Cefnogaeth arall
Cymwysterau Cymru
Mae Cymwysterau Cymru yn rheoleiddio cymwysterau galwedigaethol yng Nghymru. Maent yn gweithio gyda llawer o sefydliadau i fonitro cydymffurfiad cyrff dyfarnu, adolygu cymwysterau presennol, goruchwylio dyluniad gofynion newydd a chefnogi'r system gymwysterau.
O bryd i'w gilydd, maent yn ymgynghori â chyflogwyr adeiladu ynghylch y cymwysterau sydd eu hangen yn y diwydiant.
Ewch ar wefan Cymwysterau Cymru i gael rhagor o wybodaeth am eu gwaith.
Mae 11 o grwpiau hyfforddiant adeiladu yng Nghymru sy’n cwmpasu ystod eang o sectorau adeiladu cyffredinol ac arbenigol.
Digwyddiadau rhwydweithio busnes, seminarau a gweithdai
Mae Canfyddwr Digwyddiadau Busnes Cymru yn rhestru’r holl ddigwyddiadau rhwydweithio, seminarau, gweithdai a chyrsiau byr sy’n ymwneud ag adeiladu sydd ar gael i gyflogwyr yng Nghymru.
Ewch ar wefan Canfod Digwyddiadau Busnes Cymru i ddod o hyd i’ch digwyddiad busnes agosaf.
Digwyddiadau cyflogwyr CITB
Mae CITB yn trefnu cymorthfeydd lleol lle gall cyflogwyr gyfarfod â’u cynghorwyr lleol wyneb yn wyneb i gael cyngor a chymorth ar sut i gael mynediad at grantiau CITB, cymorth ynghylch hyfforddiant a gwasanaethau prentisiaeth.
Mae CITB hefyd yn trefnu sioeau teithiol i gyflogwyr o leiaf unwaith y flwyddyn lle gall cyflogwyr lleol rwydweithio â’u cyfoedion a chael gwybodaeth am gynlluniau strategol CITB ar gyfer diwydiant adeiladu Cymru.
Gweler Digwyddiadau am ragor o wybodaeth gan gynnwys cofrestru i fynychu un o'r digwyddiadau hyn.
Digwyddiadau blasu addysg a sgiliau
Mae SgiliauCymru yn cynnig cyfle i bobl gael gwybodaeth uniongyrchol am yrfa yn y diwydiant adeiladu yng Nghymru. Mae'r digwyddiad rhad ac am ddim hwn yn cynnwys amrywiaeth o weithgareddau ymarferol a sesiynau blasu sgiliau, yn ogystal â gwybodaeth am gyrsiau addysg bellach a hyfforddiant sydd eu hangen ar gyfer swydd ym maes adeiladu.
Gweler digwyddiadau Sgiliau Cymru am ragor o wybodaeth.
Digwyddiadau hyfforddiant am ddim
Mae Canolfan Arloesi Adeiladwaith Cymru (CWIC) yn cynnig cyrsiau hyfforddi am ddim i gyflogwyr a gweithwyr adeiladu Cymru.
Ewch ar wefan CWIC am ragor o wybodaeth am y cyrsiau sydd ar gael.
Cymorthfeydd Cynghori
Cyfle i drefnu apwyntiad wyneb yn wyneb gyda'r Cynghorydd Lleol i drafod cyllid a grantiau CITB. I archebu e-bostiwch suzanne.perkins@citb.co.uk yr Ymgynghorydd Ymgysylltu Lleol.
Mae nifer o ymgynghoriadau ar agor ar hyn o bryd lle gwahoddir cyflogwyr adeiladu i gyfrannu eu barn iddynt.
Mae sefydliadau sydd am ymgynghori â’r diwydiant adeiladu fel a ganlyn: