Adroddiad blynyddol a chyfrifon
Ar y dudalen hon:
- Rhagymadrodd
- Adolygiad o 2023-24: cyflawniadau
- Lawrlwythwch yr adroddiad blynyddol
- Adroddiadau a chyfrifon yn y gorffennol
Rhagymadrodd
“Mae gan y diwydiant adeiladu heriau sylweddol o ran sgiliau, ac eleni fe wnaethom barhau â'n cynlluniau i roi cyflogwyr mewn rheolaeth er mwyn sicrhau bod ein hymagwedd yn gydberchennog ac yn dryloyw.
Mae eleni wedi bod yn un arbennig o bwysig i ni gan ei bod wedi gosod y seiliau ar gyfer Cynllun Strategol newydd. Fe wnaethom or-gyflawni ar chwech o’n wyth targed Cynllun Busnes, sy’n dyst i’n gallu i gydweithio i ddiwallu anghenion cyflogwyr adeiladu sy’n buddsoddi mewn hyfforddiant ac uwchsgilio eu gweithlu. Mae ein ffocws newydd ar wneud hyfforddiant sgiliau yn hygyrch i bawb wedi arwain at newid, ac rydym bellach yn ymgysylltu â chyflogwyr mewn gweithgarwch hyfforddi yn bennaf trwy ein Rhwydweithiau Cyflogwyr a NEST.
Mae’r Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon hwn yn cadarnhau bod ein heffaith yn cynyddu, a bod ein mentrau a’n cymorth yn cael canlyniad cadarnhaol ar fwy o gyflogwyr ac unigolion nag erioed. Buddsoddwyd dros £128.6m mewn grantiau drwy ein Cynllun Grantiau, gan gefnogi anghenion hyfforddi 15,710 o gyflogwyr, a 26,349 o brentisiaid.
Gwariwyd dros £27.1m ar gyllid ac ymyriadau wedi’u targedu, gyda £7.5m yn mynd yn uniongyrchol i 2,400 o fusnesau bach a meicro, gan gefnogi mwy na 38,000 o unigolion gyda’u hanghenion hyfforddi ac uwchsgilio.
Wrth edrych i’r dyfodol, mae ein nod trosfwaol yn glir: mae angen i ni ddileu’r bwlch sgiliau a helpu i greu gweithlu cymwys a chynhyrchiol. Nid yw gwneud yr hyn yr ydym yn ei wneud ond ei wneud yn well yn ddigon, mae angen i ni ddechrau cyfnod newydd ar gyfer adeiladu a chychwyn ar newid patrwm o ran meddwl am sgiliau adeiladu.
Rwy'n gyffrous am y dyfodol, ac felly hefyd fy nghydweithwyr ymroddedig. Mae ein pwrpas a’n gweledigaeth gyffredin yn glir i’w gweld, a byddwn yn parhau i weithio gyda’n partneriaid i sicrhau bod y system sgiliau yn addas i’r diben ac yn addas ar gyfer y dyfodol.” Tim Balcon, Prif Weithredwr CITB.
Gwella piblinell pobl adeiladu
- Dros 1.4m o ymweliad i wefan Am Adeiladu
- 858 o Lysgenhadon STEM Am Adeiladu wedi’u recriwtio (yr un nifer â’r flwyddyn flaenorol)
- Dros 6,300 o unigolion wedi cofrestru gyda Talentview
- 2,340 o unigolion wedi’u helpu gan NEST i ddechrau prentisiaeth
- Dros 29,400 o ddysgwyr wedi’u cymhorthi gyda grantiau prentisiaeth
- 26,500 o sesiynau blasu wedi’u darparu gan ein Tîm Ymgysylltu â Chwsmeriaid.
Creu llwybrau hyfforddi diffiniedig
- 9 Fframwaith Cymhwysedd bellach wedi’u cwblhau.
Darparu cyflenwad effeithlon o hyfforddiant
- 19,400 o grantiau cymwysterau wedi’u rhoi
- £77.9m wedi’i rhoi mewn grantiau prentisiaeth
- Cynnydd o 218% o gyflogwyr yn ymuno ac yn cael mynediad i hyfforddiant trwy’r Rhwydwaith Cyflogwyr
- Cynnydd o 5% yn yr unigolion a hyfforddwyd trwy’r NCC
- 173,000 o gyrsiau hyfforddiant cyfnod byr wedi derbyn cymorth grant
- Cynnydd o 16% yn yr unigolion a gefnogir trwy Site Safety Plus
- 11,403 o unigolion wedi’u cefnogi gan Rwydwaith Cyflogwyr.
Adroddiadau ychwanegol
Gwybodaeth am ein hadroddiad blynyddol a'n cyfrifon ar gyfer y flwyddyn ariannol cyfredol a blynyddoedd ariannol blaenorol. Rydym yn cyhoeddi ein hadroddiad blynyddol a'n cyfrifon a'n hadroddiad ar y bwlch cyflog rhwng y rhywiau bob blwyddyn.
Ar gyfer cyfieithiadau Cymraeg o unrhyw ddogfennau neu adroddiadau nad ydynt eisoes ar gael yn Gymraeg, e-bostiwch translation@citb.co.uk
Rhai uchafbwyntiau o'n hadroddiad blynyddol a'n cyfrifon:
- Er mwyn cynorthwyo llif arian i gyflogwyr, gwnaethom atal casglu Lefi am bum mis yn ystod 2020 a haneru’r swm sy’n ddyledus ar gyfer 2021-22
- Cefnogodd y Cynllun Grantiau 13,700 o gyflogwyr gyda chyllid i hyfforddi eu gweithlu trwy'r pandemig a nifer o gyfnodau clo
- Cefnogodd grantiau prentisiaeth dros 23,000 o brentisiaid a bron i 9,000 o gyflogwyr, a gwnaethom gysylltu â dros 11,000 o brentisiaid i ddarparu cefnogaeth pan oedd angen fwyaf
- Cefnogodd y Gronfa Sgiliau a Hyfforddiant bron i 1,000 o gyflogwyr busnesau bach a chanolig. Fe helpodd hyn i fusnesau bach a chanolig dderbyn mwy o'r Lefi na'r swm roeddent yn ei gyfrannu- gan gyfrannu llai na 70% wrth dderbyn dros 73% yn ôl mewn grantiau a chyllid.
Sut wnaethon ni heddiw? Rhoi adborth