Facebook Pixel
Skip to content

Mae newidiadau i Brentisiaethau Adeiladu yng Nghymru yn cynnig llwybr mwy uniongyrchol i yrfa

  • O fis Medi 2022 bydd rhai prentisiaethau adeiladu yng Nghymru yn newid

  • Bydd y brentisiaeth bresennol yn y pynciau hyn a chymwysterau cysylltiedig yn cael eu disodli i ddechreuwyr newydd

  • Bydd gan gyflogwyr yng Nghymru rôl ehangach wrth gyflwyno'r cymwysterau a'r fframweithiau prentisiaeth newydd hyn

  • Corff dyfarnu'r cymwysterau newydd fydd City & Guilds

Daw newidiadau i rai o’r cymwysterau prentisiaeth adeiladu allweddol yng Nghymru i rym ar 1 Awst mewn pryd ar gyfer tymor coleg yr hydref. Maent wedi'u cynllunio i siapio goruchwylwyr a pherchnogion busnes adeiladu'r dyfodol trwy fodloni anghenion cyflogwyr a myfyrwyr fel ei gilydd yn well.

Mae CITB, City & Guilds a Gyrfa Cymru yn cefnogi cyflwyniad y Cymwysterau Prentisiaeth newydd a gomisiynwyd gan Cymwysterau Cymru yn dilyn ei adolygiad Adeiladu'r Dyfodol o gymwysterau adeiladu.

Canfu'r adolygiad, a oedd yn cynnwys cyfweliadau manwl â chyflogwyr, y dylid gwneud nifer o newidiadau i foderneiddio'r fframwaith astudio.

Penderfynodd adolygiad Cymwysterau Cymru edrych ar y galwedigaethau sydd â’r rhan fwyaf o brentisiaid yn hanesyddol yng Nghymru, sef Gwaith Saer Safle, Saernïaeth Bensaernïol, Gosod Brics, Plastro Solet a Phaentio ac Addurno a Gweithrediadau Peiriannau. Hefyd crefftau sy'n dod i'r amlwg o ran pwysigrwydd megis Leinin Sych, Codi Fframiau Pren, Gweithwyr Tir Peirianneg Sifil, Toi (Llechi a Theils) a Theilsio Waliau a Llawr. Bydd prentisiaethau yn y galwedigaethau hyn yn newid o 1 Awst 2022 wrth i Gymwysterau Prentisiaeth Lefel 3 newydd gael eu datblygu ar eu cyfer. Bydd pob galwedigaeth arall yn parhau i ddilyn y llwybr NVQ/Diploma Technegol ac ni fydd yn newid tra bod cyrff dyfarnu yn parhau i gynnig y cymwysterau hyn.

Mae’r gofynion mynediad ar gyfer Prentisiaethau lefel 3 yn gynhwysol ac yn cynnwys sawl opsiwn i sicrhau cynhwysiant.

Daw’r Prentisiaethau newydd i rym ym mis Medi 2022, gyda rhai cymwysterau eisoes wedi’u lansio ym mis Medi 2021.

Dywedodd Gareth Williams, Rheolwr Safonau a Chymwysterau CITB Cymru:

“Rydym am sicrhau rhieni a dysgwyr bod llawer o waith ymchwil ac amser wedi mynd i mewn i gynllunio’r cyrsiau newydd. Dros y flwyddyn ddiwethaf rydym wedi bod yn gweithio gyda chyflogwyr i wneud yn siŵr eu bod yn barod i gefnogi prentisiaid ar y llwybr cymhwyster newydd hwn.

“Bydd yn ofynnol i gyflogwyr gymryd mwy o rôl a chyfrifoldeb dros gymeradwyo cymhwysedd eu prentis, ond bydd hon yn bartneriaeth gyfartal rhwng cyflogwyr a darparwyr dysgu.”

Mae yna ddogfennau canllaw i gyflogwyr. Bydd cyflogwyr yn gweithio gyda phrentisiaid ac yn eu cefnogi trwy gydol eu prentisiaeth a bydd angen iddynt sicrhau eu bod yn gallu darparu’r holl brofiad gwaith sydd ei angen ar y prentis.

Dywedodd Angharad Lloyd Beynon, City and Guilds:

“Mae ein cyfres newydd o gymwysterau Adeiladu wedi’u cynllunio i fodloni anghenion sgiliau Cymru a darparu llwybrau dilyniant clir i ddysgwyr er mwyn helpu pobl i gael swydd, datblygu yn y swydd a datblygu ymhellach yn eu gyrfa.

“Maent wedi’u cynllunio i wneud dysgwyr yn fwy gwybodus, medrus a pharod ar gyfer y gweithle modern fel y gallant sicrhau canlyniadau i’w cyflogwyr a chyflawni eu nodau gyrfa. Rydym wedi datblygu rhaglenni dysgu ac asesu sy'n bodloni anghenion cyflogwyr wrth greu tirwedd addysg glir a symlach.

“Rydym yn sicrhau bod ein holl gymwysterau a deunyddiau dysgu ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg i rymuso cyrhaeddiad cenedl ddwyieithog.”

Dywedodd Cassy Taylor, Cyfarwyddwr Polisi a Diwygio Cymwysterau, Cymwysterau Cymru:

“Yn yr ad-drefnu mwyaf ers cenhedlaeth, gan weithio gyda phartneriaid, mae’r cymwysterau newydd wedi’u datblygu i fodloni anghenion newidiol y diwydiant ar gyfer y cyfnod modern. Byddant yn galluogi gweithwyr i ddangos y wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r sgiliau galwedigaethol sydd eu hangen ar ddiwydiant, yn ogystal ag archwilio amrywiaeth yr amgylchedd adeiledig yng Nghymru a’r ffordd y mae’r sector yn parhau i newid a datblygu. Rydym yn gyffrous am y datblygiad ac yn gobeithio y bydd dysgwyr a chyflogwyr yn croesawu’r cyfle o fis Awst 2022.

Dywedodd Nikki Lawrence, prif weithredwr Gyrfa Cymru:

“Un o fanteision gwych prentisiaeth yw gallu rhoi theori a phrofiad ar waith.

“Mae’n gam cadarnhaol y bydd gan y cyflogwyr a fydd yn cyflogi prentisiaid presennol a darpar weithwyr cyflogedig y dyfodol ychydig o fewnbwn i’r cymhwyster y mae prentisiaid yn gweithio’n galed tuag ato.”

Bydd cwmnïau adeiladu hefyd yn cael eu hannog i recriwtio eu prentisiaid yn uniongyrchol o addysg amser llawn, gyda'r potensial i noddi prentis yn ystod ei flwyddyn gyntaf yn y coleg, sy'n golygu ei fod yn ymuno â'r cyflogwr gyda dealltwriaeth gychwynnol, ymwybyddiaeth a lefel sgiliau sylfaenol.

City & Guilds Logo

Qualifications Wales Logo

Careers Wales Logo