Facebook Pixel
Skip to content

Gemau rygbi a gwaith coed – cyfuniad buddugol i Oliver

Dychwelodd y gystadleuaeth sgiliau adeiladu fwyaf a hiraf yn y DU yn gynharach eleni. Darperir SkillBuild gan CITB ar y cyd â WorldSkills UK, ac wrth i baratoadau ar gyfer y Rowndiau Terfynol Cenedlaethol gychwyn, clywn gan Oliver Tudor, sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol.

Mae myfyriwr coleg Oliver Tudor yn enghraifft wych o sut y gallwch elwa wrth wneud yr hyn rydych chi'n ei garu.

Mae Oliver, sy’n 17 oed, wedi cyrraedd rownd derfynol sgiliau gwaith coed Adeiladu Sgiliau, cystadleuaeth o fri a ddisgrifir fel ‘Gemau Olympaidd y byd adeiladu’.

A phan nad yw’n ennill clod am ei waith coed, mae Oliver yn rhagori yn un arall o’i ddiddordebau – rygbi.

Fel yr eglura Oliver, sydd ar hyn o bryd yn astudio ar gwrs porth gwaith coed yng Ngholeg De Swydd Stafford, mae'n hoff iawn o waith coed a rygbi.

Amrywiaeth

“Mae fy nghwrs yn cynnwys dysgu amrywiaeth o wahanol grefftau a chwblhau tasgau,” meddai Oliver.

“Mae gen i awtistiaeth, felly mae’n anodd i mi ysgrifennu a darllen, ond mae gen i gefnogaeth yn y coleg i’m helpu gyda gwaith ysgrifenedig ac arholiadau.

“Rwy’n hoff iawn o waith ymarferol, gydag agwedd dda at waith ac rwy’n mwynhau bod yng nghwmni fy ffrindiau yn y coleg a dysgu sgiliau newydd.”

Mae Oliver yn dweud ei fod wrth ei fodd yn chwarae rygbi yn ei amser hamdden.

“Yn ddiweddar enillais wobr Chwaraewr y Chwaraewyr gyda Chlwb Rygbi Tamworth, clwb rydw i wedi chwarae i'w dimau ers pan oeddwn i’n bump oed. Mae hyn wedi fy helpu i ddelio â’m hemosiynau pan fydd pethau’n anodd.”

Cyffro

Awgrymodd tiwtor coleg Oliver y dylai gymryd rhan yng nghystadleuaeth Adeiladu Sgiliau yn y categori Sylfaen: Sgiliau Gwaith Coed.

“Pan glywais fy mod i wedi cael fy newis yn rownd derfynol Adeiladu Sgiliau ar ôl cystadlu yn y rowndiau cymhwyso rhanbarthol, roeddwn i'n gwbl syfrdan ac ar ben fy nigon,” meddai.

Mae Oliver yn dweud ei fod yn edrych ymlaen at gystadlu yng nghystadleuaeth rownd derfynol WorldSkills UK eleni, ac yn edrych ymlaen at weld beth a ddaw yn y dyfodol.

“Dydw i ddim wedi bod yn rhywun arbennig o gystadleuol erioed; rydw i eisiau gwneud fy ngorau a gwneud fy nheulu’n falch.”

Mae’n rhoi cyngor hyfryd i unrhyw un sy’n ystyried ymgymryd â gwaith adeiladu neu gystadleuaeth Adeiladu Sgiliau.

“Fe fyddwn i’n dweud wrth unrhyw un sy’n ystyried cymryd rhan yn y gystadleuaeth i fynd amdani! Does gennych chi ddim byd i’w golli, a phopeth i’w ennill!

“Mae cwblhau’r cwrs wedi fy ngalluogi i fynd ymlaen i gwrs gwaith coed Lefel 1 er mwyn cyflawni fy nodau o fod yn saer coed.

“Fe fyddwn i hefyd yn dweud wrth unrhyw un sy’n ystyried ymgymryd â gwaith coed i fynd amdani! Mae’n yrfa wych gyda rhagolygon gwych.”

Dywedodd Clive Coley, Rheolwr Cwricwlwm ar gyfer Adeiladu a Phlymio Coleg De Swydd Stafford:

“Ymunodd Oliver â ni o Ysgol Uwchradd Two Rivers a chofrestrodd ar gwrs Porth i Adeiladu ar gampws TORC yn cwmpasu Gwaith Saer, Gwaith Brics, Peintio ac Addurno a Theilsio.

“Yn syth fe ffynnodd ar y cwrs a dangosodd wir ddawn ar gyfer Gwaith Saer ac Asiedydd. Roedd ei bresenoldeb ym mhob agwedd o’r cwrs yn rhagorol ac yn ogystal â’r tasgau enwebedig a roddwyd i Oliver, cwblhaodd hefyd nifer o weithgareddau ychwanegol ac roedd bob amser yn awyddus i helpu eraill gyda’u tasgau dewisol.

“Fe ymgymerodd ag oriau ychwanegol i hyfforddi ar gyfer gemau rhagbrofol rhanbarthol SkillBuild a llwyddodd i gyrraedd y rownd derfynol. Mae wedi cofrestru ar gwrs Gwaith Saer eleni i wella ei sgiliau ac mae eisoes wedi cael profiad gwaith gydag adeiladwr lleol.”

Dywedodd Jonathan Chivers, Cyfarwyddwr Rheoli Cynnyrch CITB:

“Mae rowndiau terfynol SkillBuild yn gam cyffrous iawn yn y gystadleuaeth, wrth i ni gael gweld y dalent orau yn mynd benben a dangos eu sgiliau i ni. O wneud dodrefn a chabinetau i waith coed a phaentio ac addurno, hyd at lechi a theilsio to, mae'r hyfforddeion hyn yn arddangos y gorau oll o addysg dechnegol adeiladu, a all ysbrydoli llawer o bobl ifanc eraill.

“Heb os nac oni bai, mae’r gystadleuaeth yn brofiad heriol, ond mae CITB yn hynod falch o bawb sy’n cymryd rhan ac yn dymuno pob lwc iddynt i gyd yn y rownd derfynol yng Nghaeredin.”

Oes gennych chi ddiddordeb mewn bod yn saer coed? Gall seiri coed sydd wedi cael hyfforddiant a phrofiad ennill rhwng £20,000 a £30,000. Mae ein gwefan Am Adeiladu yn cynnwys yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch.

Ar ôl hwylio drwy eu gemau rhagbrofol rhanbarthol, bydd Oliver yn cystadlu â dros 85 arall yn y rownd derfynol, pob un yn mynd benben â’i gilydd mewn ymgais i gael ei goroni’n enillydd y grefft o’u dewis. Bydd Rownd Derfynol Genedlaethol SkillBuild 2022 yn cael ei chynnal yng Ngholeg Caeredin o 14–17 Tachwedd.

""