Facebook Pixel
Skip to content

Polisi gweithredol diogelwch, iechyd, yr amgylchedd a lles (SHEW)

Mae CITB wedi ymrwymo i'r safonau iechyd a diogelwch, i atal anaf, cefnogi a diogelu'r amgylchedd. Disgrifir y polisi gweithredol isod.

Fersiwn 2.0 Cymeradwywyd Rhagfyr 2019

Ar y dudalen hon:

Trosolwg o'r polisi

Mae rheoli Iechyd, Diogelwch, yr Amgylchedd a Lles (SHEW) yn rhan annatod o ac yn gyfartal ag unrhyw swyddogaeth fusnes arall. Mae hyn yn galluogi ein sefydliad i gyflawni ei amcan o reoli a chynnal ei weithgareddau gwaith mewn modd sy'n amddiffyn yr amgylchedd a sicrhau, i'r graddau y mae'n rhesymol ymarferol, iechyd, diogelwch a lles ei holl weithwyr ac eraill a allai gael eu heffeithio gan ei weithgareddau busnes.

Mae CITB wedi ymrwymo i wella ei fusnes yn barhaus o ran iechyd, diogelwch, yr amgylchedd a lles. Bydd yn bodloni gofynion yr holl ddeddfwriaeth berthnasol, safonau perthnasol a gofynion cwsmeriaid.

Mae strategaeth gorfforaethol CITB ar gyfer iechyd, diogelwch, yr amgylchedd a lles (SHEW) (Dolen allanol - Yn agor mewn tab neu ffenestr newydd) wedi dynodi'r amcanion canlynol:

Iechyd a diogelwch

  • Dim niwed nac afiechyd i weithwyr CITB
  • Dim niwed nac afiechyd i ddysgwyr ac ymwelwyr ar ein safleoedd a'n hadeiladau
  • Darparu amgylchedd gwaith diogel ac iach sy'n creu Diwylliant Iechyd a Diogelwch rhagorol ac yn hyrwyddo rhoi gwybod am pob digwyddiad a digwyddiadau a fu bron â digwydd.

Lles

  • Dull cyfannol o sicrhau darpariaeth iechyd a lles da i'r holl weithwyr i wella eu hiechyd corfforol a meddyliol a'u lles a'u cydbwysedd bywyd a gwaith.
  • Polisïau iechyd a lles newydd ar waith i wella iechyd a lles gweithwyr.
  • Rhaglen o weithgareddau ac ymyriadau iechyd a lles i gynorthwyo'r holl weithwyr ac i sicrhau gostyngiad mewn cyfraddau absenoldeb salwch.

Yr Amgylchedd

  • Rhaglen i leihau ein hôl troed carbon
  • Sicrhau bod ein cadwyn gyflenwi yn bodloni ymrwymiadau amgylcheddol ein sefydliad

Cwmpas polisi

Mae'r polisi gweithredol hwn yn cynnwys:

  • Yr holl weithgareddau a gyflawnir gan CITB, sy'n cynnwys gweithgareddau swyddfa, gweithgareddau hyfforddi a gweithio symudol, ym mhob lleoliad CITB ac sydd wedi'u cynnwys o fewn ffiniau ffisegol y lleoliadau hynny.
  • Mae'n ddyletswydd ar gydweithwyr CITB i ddilyn gofynion y polisi hwn hyd yn oed wrth weithio yn adeilad rhywun arall.

Nid yw'r Datganiad o fwriad hwn yn cynnwys trefniadaeth partneriaeth, colegau, a darparwyr hyfforddiant (heb fod yn gyfyngedig) y mae CITB yn gweithio gyda nhw ac sydd â dylanwad a chyfranogiad.

Mae'r Polisi hwn yn berthnasol i bawb sy'n gweithio i neu'n cynghori CITB gan gynnwys staff parhaol, staff cyfnod penodol neu staff dros dro, contractwyr, staff dros dro o dan gontract, pobl ar brofiad gwaith a gweithwyr asiantaeth.

Cyfrifoldebau sefydliadol ac unigol

Fel y corff gwneud penderfyniadau allweddol, mae Bwrdd Ymddiriedolwyr CITB yn gyfrifol am lywodraethu, rhoi cyfeiriad strategol a monitro perfformiad system reoli SHEW CITB yn erbyn y polisi SHEW y cytunwyd arno.

Mae ein tîm rheoli gweithredol yn gweithio i gyflawni'r strategaeth a osodwyd gan y Bwrdd.

Mae gan y Tîm Gweithredol atebolrwydd llawn am SHEW yn CITB.

Mae Rheolwr Iechyd, Diogelwch a'r Amgylchedd CITB yn gyfrifol am reoli SHEW o ddydd i ddydd yn CITB. Eu rôl yw:

  • darparu system reoli sy'n bodloni gofynion amrywiol trefniadaeth a chyfeiriad strategol CITB, a'i reoli.
  • rhoi cyngor i'r busnes ar ofynion cyfreithiol a gofynion eraill o ran cydymffurfio â SHEW.
  • bod yn gyfrifol am ddarparu'r cyfeiriad strategol fel y'i gosodir gan Fwrdd a Tîm Gweithredol CITB.

Mae Cyfarwyddwr Pobl CITB yn gyfrifol am ddarpariaeth Iechyd, Diogelwch a Lles CITB.

O fis Mehefin 2020, yr Ymgynghorydd Iechyd, Diogelwch a Lles (HSW) fydd yn gyfrifol am reoli  Iechyd, Diogelwch a Lles o ddydd i ddydd. Bydd y Rheolwr Cyfrifoldeb Corfforaethol yn rheoli'r Amgylchedd.

Mae gan bob rheolwr a goruchwyliwr unigol gyfrifoldeb am iechyd, diogelwch a lles unigolion o ddydd i ddydd a'r amgylchedd cyffredinol eu maes gwaith, swyddogaeth neu leoliad penodol.

Mae holl weithwyr CITB yn gyfrifol am sicrhau eu diogelwch ei hunain a diogelwch eraill a allai gael eu heffeithio gan eu gweithredoedd neu eu hesgeulustra. Disgwylir i bob gweithiwr ddilyn gofynion pob deddfwriaeth, arweiniad, cyngor ac arfer gorau cymwys.

Rhaid i bob gweithiwr ddilyn y gofynion a nodir ym mholisïau, gweithdrefnau, cyfarwyddiadau gwaith ac asesiadau risg CITB, sy'n cynnwys y gofyniad i roi gwybod unrhyw weithredoedd neu amodau anniogel i'w rheolwr llinell a thrwy system rheoli diogelwch SHEW.

Rhaid i bob gweithiwr roi gwybod i'w reolwr llinell am bob digwyddiad (waeth pa mor fach) ac ar system SHEW.

Mae gan rai gweithwyr ddyletswyddau penodol ychwanegol, sef:

  • Marsial tân
  • Unigolyn sy'n rhoi Cymorth cyntaf (iechyd corfforol a meddyliol)
  • Asesydd DSE
  • Cynrychiolydd SHEW

Rhoddir hyfforddiant ar gyfer y rolau ychwanegol hyn a bydd rheolwyr / goruchwylwyr yn sicrhau bod amser yn cael ei ddyrannu i ganiatáu i'r unigolyn gyflawni'r dyletswyddau hyn.

Trefniadau gweithredol

Mae CITB yn gweithredu system reoli SHEW. Mae'r system reoli yn cynnwys holl bolisïau SHEW. Mae'r system reoli ar gael i holl weithwyr CITB.

Mae'r system wedi'i strwythuro i feysydd amrywiol megis:

  • Polisïau
  • Gweithdrefnau a chyfarwyddiadau gwaith
  • Iechyd a lles
  • Asesiadau risg
  • Rhoi gwybod am ddigwyddiadau
  • Grwpiau gweithredu SHEW
  • Archwiliadau
  • DSE

Mae'r Grŵp Arweinyddiaeth Cyfrifoldeb Corfforaethol (CRLG) wedi'i ffurfio gyda chydweithwyr y tîm arweinyddiaeth gyda chefnogaeth presenoldeb arbenigwyr technegol.

Mae'n dwyn ynghyd gweithgareddau cyfrifoldeb corfforaethol ehangach sydd hefyd yn cynnwys Iechyd, Diogelwch, yr Amgylchedd, Lles, Diogelu a FIR o dan brif faner cyfrifoldeb corfforaethol. Bydd y CRLG:

  • Darparu goruchwyliaeth gorfforaethol a chyfeiriad strategol i'r sefydliad o ran Polisi CR cyffredinol, yng nghyd-destun y fframwaith a osodwyd gan y Tîm Gweithredol a'r Bwrdd.
  • Monitro gweithgareddau CR i sicrhau cynnydd yn erbyn cyfeiriad strategol.
  • Adolygu a gwneud argymhellion wedi'u costio'n llawn i'r Tîm Gweithredol er mwyn ychwanegu gwerth a sicrhau buddion i'r busnes trwy ymgorffori'r egwyddorion CR craidd yn llwyddiannus.

Mae grŵp gweithredu SHEW yn ystyried materion diogelwch, iechyd, yr amgylchedd a lles wrth iddynt effeithio ar staff ac eraill yn eu hardal, a byddant yn gwneud argymhellion ar gyfer gwelliannau.

Mae'r grŵp yn adolygu pob damwain a digwyddiad o afiechyd sydd wedi digwydd. Maent hefyd yn monitro diogelwch yn y gweithle. Mae uwch reolwr penodedig yn cadeirio'r grŵp. Gall y cadeirydd hefyd wahodd aelodau eraill o staff y maent yn teimlo a allai ddarparu cymorth a chyngor i'r grŵp i fod yn bresennol mewn cyfarfodydd.

Mae gwybodaeth SHEW yn cael ei chyfrathebu i staff trwy nifer o sianeli gan gynnwys:

  • Rhaglen cynefino cydweithwyr
  • Cyfeiriad strategol gweithredol
  • CRLG
  • Grŵp Gweithredu SHEW
  • Cyfarfodydd tîm
  • Hyfforddiant staff
  • Yr HWB
  • Blogiau gan Gyfarwyddwr a Memos ar fore dydd Llun
  • System Rheoli SHEW
  • Grwpiau Yammer HSE a H&W
  • Cyfathrebu mewnol CITB
  • E-byst
  • Rhybuddion Diogelwch
  • Hysbysfyrddau mewn swyddfa.

Mae yna rai gweithdrefnau ar gyfer holl gydweithwyr CITB waeth beth yw'r swydd, y tîm neu'r lleoliad. Mae'r gweithdrefnau hyn ar gyfer gweithrediadau CITB cyfan, ac maent yn cynnwys ond nid yn gyfyngedig i'r canlynol:

  • Asesiadau risg HSE
  • Cymorth Cyntaf
  • Trefniadau tân
  • Cyfathrebu ac ymgynghori
  • Hyfforddiant diogelwch
  • DSE
  • Rhoi gwybod am ddigwyddiadau
  • Gweithio symudol ac ar eich pen eich hun
  • Cyfarpar Amddiffynnol Personol (PPE)

Mae gweithdrefnau / cyfarwyddiadau gwaith pellach ar gael ar gyfer timau penodol, gan gynnwys:

  • Hyfforddiant NCC gan gynnwys y meysydd cynnyrch ar gyfer peiriannau, adeiladu a mynediad
  • Ystadau a chyfleusterau gan gynnwys profi offer cludadwy, rheoli asbestos a chofrestrau a rheoli contractwyr
  • Preswyl, lles a diogelwch

Mae cyfarwyddiadau gwaith yn benodol i'r dasg wirioneddol ac yn nodi sut i gyflawni'r canlyniad a ddymunir yn ddiogel ac yn iach. Mae cyfarwyddiadau gwaith yn cynnwys offer angenrheidiol, gofynion PPE, gofynion cymorth cyntaf, materion amgylcheddol a gweithdrefnau brys. Gall cyfarwyddiadau gwaith gynnwys cyfarwyddiadau cam wrth gam, cynlluniau, lluniadau ac ati.

Mae cyfarwyddiadau gwaith penodol ar waith ar gyfer:

  • Strwythurau sgaffald
  • Simneiwr a dargludyddion mellt
  • Mynediad gyda rhaff
  • Hyfforddiant mewn mannau cyfyng
  • Nenfwd a rhaniadau crog
  • Concrid
  • Gosod dur
  • Gweithrediadau peiriannau
  • Gweithrediadau codi
  • Cynnal a chadw peiriannau

Mae monitro rhagweithiol yn cael ei gynnal gan raglen o archwiliadau ac arolygiadau.

Mae archwiliadau'n cael eu cynllunio ymlaen llaw gydag amlder yr archwiliadau yn dibynnu ar lefel y risg. Archwilir gweithgareddau risg uchel yn amlach na gweithgareddau risg isel. Gall archwiliadau fod yn benodol, megis ar gyfer deddfwriaeth neu archwiliad cymal safonol, yn seiliedig ar safle / lleoliad neu ar draws safleoedd, neu fod yn gyffredinol yn eu dull.

Pwrpas yr archwiliadau a wneir yw gwirio cydymffurfiad â deddfwriaeth, safonau cymwys a pholisïau a gweithdrefnau mewnol CITB ei hun. Codir unrhyw addiffyg cydymffurfiaeth fel gweithred gyda'r rheolwr priodol, ynghyd ag amserlen ar gyfer gweithredu.

Mae CITB hefyd yn cael ei archwilio gan aseswyr allanol o BSI yn erbyn safon iechyd a diogelwch OHSAS18001 a safon amgylcheddol ISO14001.

Mae arolygiadau'n cael eu cynnal fel mater o drefn. Gall y rhain fod wedi'u cynllunio ymlaen llaw neu'n ddirybudd ac yn rhoi sicrwydd bod safonau'n cael eu cynnal bob amser. Gall arolygiadau fod yn ôl gweithle, peiriannau, PPE, ymddygiadau gwaith. Os yw arolygiad yn dynodi pryder neu fater, codir diffyg cydymffurfiaeth â'r rheolwr perthnasol.

Braden Connelly
Cyfarwyddwr Cynhyrchion a Gwasanaethau, CITB
Ionawr 2020

Atodiad

Microsoft.CSharp.RuntimeBinder.RuntimeBinderException: Cannot perform runtime binding on a null reference
   at CallSite.Target(Closure , CallSite , Object )
   at System.Dynamic.UpdateDelegates.UpdateAndExecute1[T0,TRet](CallSite site, T0 arg0)
   at ASP._Page_app_plugins_citb_s8080_accordionblock_backoffice_views_frontend_cshtml.Execute() in C:\home\site\wwwroot\app_plugins\citb\s8080.accordionblock\backoffice\views\frontend.cshtml:line 14
   at System.Web.WebPages.WebPageBase.ExecutePageHierarchy()
   at System.Web.Mvc.WebViewPage.ExecutePageHierarchy()
   at System.Web.WebPages.WebPageBase.ExecutePageHierarchy(WebPageContext pageContext, TextWriter writer, WebPageRenderingBase startPage)
   at Umbraco.Web.Mvc.ProfilingView.Render(ViewContext viewContext, TextWriter writer)
   at System.Web.Mvc.Html.PartialExtensions.Partial(HtmlHelper htmlHelper, String partialViewName, Object model, ViewDataDictionary viewData)
   at ASP._Page_Views_Partials_grid_editors_Base_cshtml.Execute() in C:\home\site\wwwroot\Views\Partials\grid\editors\Base.cshtml:line 20