Facebook Pixel
Skip to content

Toeau bregus

Dysgwch ragor am fynd i'r afael â'r broblem o syrthio trwy arwynebau bregus a gwyliwch ein ffilm.

Toeau Bregus, Bywydau Bregus 

Gwyliwch y fideo hwn lle mae pedwar unigolyn yn rhannu eu profiadau am effeithiau dinistriol y mae syrthio trwy doeau bregus wedi eu cael arnynt hwy eu hunain a'u teuluoedd.

Gwnaed y ffilm gan CITB â chymorth yr Awdurdod Iechyd a Diogelwch (HSE) a chydweithrediad Working Well Together [Gweithio'n Dda Gyda'n Gilydd] (WWT).

Mae CITB, HSE a WWT yn annog pawb sy'n ymwneud â chynllunio, rheoli a gweithio ar doeau bregus i wylio a rhannu'r ffilm hon.

Mae syrthio trwy doeau bregus a goleuadau to bregus yn achosi marwolaethau ac anafiadau difrifol. Maent yn gyfrifol am bron i bumed ran o'r holl ddamweiniau angheuol sy'n digwydd o ganlyniad i syrthio o uchder yn y diwydiant adeiladu.

Mae bron pob un o'r marwolaethau hyn yn deillio o waith adeiladu mewn rhyw ffordd neu'r llall, er nad yw bob amser ar yr hyn y gellid ei ystyried yn safle adeiladu, ac mae llawer o'r gwaith hwn yn fân ac ar gyfer hyd byr. Mae'r damweiniau hyn fel arfer yn digwydd tra'n:

  • Arolygu'r to neu'n archwilio gwaith to
  • Glanhau gwteri a ffenestri to
  • Gosod cyfarpar
  • Cynnal offer ar y to
  • Cynnal trwsiadau i'r to, ffenestri to neu gwteri
  • Gosod to newydd
  • Dymchwel 

Dylai pawb sy'n ymwneud â'r math hwn o waith, gan gynnwys cleientiaid, dylunwyr a chontractwyr, drin cwympau trwy wynebau bregus fel perygl blaenoriaethol. 

Os oes angen i chi weithio ar do neu wyneb bregus neu ei gyrchu, waeth pa mor fyr yw'r hyd, rhaid i chi gynllunio a rheoli'r gwaith er mwyn sicrhau ei fod yn cael ei wneud yn ddiogel.

Rhaid i chi ddarparu'r cyfarpar cywir i atal codymau a sicrhau bod gan y rhai sy'n ei ddefnyddio y sgiliau a'r profiad cywir i weithio'n ddiogel.

Dylid dilyn y camau hyn wrth ystyried gweithio ar neu ger toeau ac arwynebau bregus:

  • Osgoi: Cynllunio a threfnu gwaith i gadw pobl i ffwrdd o arwynebau bregus cyn belled ag y bo modd, e.e. trwy weithio oddi ar safle o dan yr wyneb ar blatfform gwaith symudol sy'n dyrchafu neu blatfform addas arall.
  • Rheoli: Mae gwaith ar neu ger arwynebau bregus yn galw am gyfuniad o lefelau, rheiliau gwarchod, modd atal cwympau, rhwydi lleddfu cwympau a rhwydi diogelwch yn ymledu o dan ac yn agos i’r to.
  • Cyfathrebu. Rhaid i'r rhai hynny sy'n gwneud y gwaith gael eu hyfforddi, fod yn gymwys a chael eu cyfarwyddo i ddefnyddio'r rhagofalon sy'n ofynnol. Rhaid gosod hysbysiadau rhybudd ar y ffordd tuag at unrhyw wyneb bregus.
  • Cydweithredu: Ar safleoedd busnes, dylai contractwyr weithio'n agos gyda'r cleient a chytuno ar drefniadau ar gyfer rheoli'r gwaith.

Edrychwch ar benodau Blasu o'n llyfrau cwrs Iechyd a Diogelwch

  • GE700 Diogelwch ar safle adeiladu – D02 Gweithio'n ddiogel ar uchder 
  • GE706 Goruchwyliaeth safle wedi'i symleiddio – D24 Gweithio ar uchder
  • GT700 Anerchiadau pecyn offer – D02 toeau bregus 

I edrych ar y penodau:

  • Ewch ar: Gateway to Online Learning and Development (GOLD)
  • Cliciwch ar, ‘Login as a guest’ 
  • Cliciwch ar y ddolen, 'Taster publications' 

Dysgwch fwy:

Ewch at wefan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch i weld rhagor o wybodaeth ynghylch Gweithio ar uchder ac i lawr lwytho cyhoeddiadau.