Facebook Pixel
Skip to content

Pam bod llwch yn broblem?

Bob blwyddyn mae miloedd o weithwyr adeiladu yn cael neu'n marw o glefydau resbiradol oherwydd eu bod wedi anadlu llwch a mygdarth. Mae rheoli amlygiad i lwch yn her i'r diwydiant.

Daw llawer o weithwyr i gysylltiad â llwch bob dydd, ond yn aml byddant ond yn gweithio am gyfnodau byr ar safleoedd amrywiol a newidir cyflogwyr yn rheolaidd. Gall y swm o lwch y mae gweithwyr yn ei anadlu bob dydd wrth iddynt weithio o un safle i'r llall ymddangos yn fach neu'n ddibwys. Mewn rhai achosion, gall y sgil-effeithiau fod yn uniongyrchol ond, yn gyffredinol, gall gymryd blynyddoedd cyn i symptomau salwch ddod i'r amlwg.

O'r herwydd, anwybyddir risgiau anadlu yn aml, neu cânt eu camddeall neu eu bychanu. 

Gall anadlu llwch silica, llwch pren a mathau eraill o lwch (heb fawr ddim silica, os o gwbl) achosi clefydau'r ysgyfaint difrifol iawn. Gall clefydau o'r fath gael effaith andwyol a golygu na all unigolyn weithio mwyach neu fod yn rhaid iddo newid ei alwedigaeth.

 

Rhai o ystadegau'r diwydiant

Caiff salwch sy'n gysylltiedig â gwaith effaith ofnadwy ar unigolion a'u teuluoedd ond mae'n cael ei gamddeall neu ei danamcangyfrif yn fawr.

  • Oddeutu 13,000 o farwolaethau bob blwyddyn o ganser a chlefydau ysgyfaint galwedigaethol

  • Amcangyfrifir bod mwy na 40% o'r holl achosion o ganser/marwolaethau yn ymwneud â gweithwyr adeiladu

  • Amcangyfrifir bod mwy na 500 o weithwyr adeiladu yn marw am iddynt ddod i gysylltiad â llwch silica bob blwyddyn...dros 10 yr wythnos

  • Mae llawer mwy yn cael salwch difrifol iawn

  • Caiff 23.5 miliwn o ddiwrnodau gwaith eu colli yn y DU bob blwyddyn oherwydd salwch sy'n gysylltiedig â gwaith

I

Mae'r arolwg CDP / IOSH hwn yn rhoi cipolwg ar faterion sy'n gysylltiedig â risgiau llwch ar y safle a sut maent yn cael eu rheoli. Mae'r canfyddiadau'n tynnu sylw at y pethau y mae angen i'r diwydiant fynd i'r afael â nhw.

Darllenwch Llwch Adeiladu - Arolwg o'r Diwydiant (PDF 2.0MB).

I gael mwy o wybodaeth am lwch adeiladu darllenwch daflen wybodaeth yr HSE Construction Dust CIS36 (PDF 7.93MB