Facebook Pixel
Skip to content

Ymateb CITB i Ddatganiad Cyllidol y Canghellor ar 23 Medi

Dywedodd Prif Weithredwr CITB, Tim Balcon:

“Mae’r cyhoeddiad heddiw i gyflymu’r gwaith o ddarparu seilwaith a chyflwyno parthau buddsoddi ynghyd â newidiadau treth stamp i gyd yn ffactorau a fydd yn rhoi hwb i’r diwydiant adeiladu. Fodd bynnag, gyda rhagolwg y bydd angen chwarter miliwn o weithwyr erbyn 2026, mae’n bwysicach nag erioed i weld buddsoddiad mewn sgiliau a hyfforddiant a chydweithio parhaus rhwng CITB, diwydiant, a’r llywodraeth i fodloni anghenion sgiliau adeiladu.”