Facebook Pixel
Skip to content

Y Gweinidog Sgiliau’n cwrdd â hyfforddeion a phrentisiaid Kickstart yng nghanolfan hyfforddi CITB ar safle Perry Barr

Galwodd y gweinidog Burghart heibio canolfan hyfforddi CITB ar safle Lendlease yn Perry Barr yr wythnos diwethaf. Bydd y ganolfan hyfforddi’n dysgu sgiliau angenrheidiol i gannoedd o bobl leol i adeiladu mwy na 1,400 o gartrefi ac i gychwyn ar yrfa foddhaus yn y diwydiant adeiladu ar un o safleoedd adeiladu mwyaf Birmingham.

Mae Perry Barr, lle mae dros hanner y boblogaeth o dan 30 oed yn rhan o raglen adfywio sy’n werth £700 miliwn ac sy’n rhoi pwyslais ar wella’r seilwaith, adeiladu cartrefi newydd a chreu gofod cymunedol newydd. Disgwylir y bydd y buddsoddiad yn gwneud yr ardal yn un fwy aml-ddiwylliant a bywiog nag erioed gyda digonedd o gyfleoedd i’r gymuned dalentog lle croesewir ymwelwyr â Gemau’r Gymanwlad a fydd yn cael eu cynnal yn fuan.

Lendlease yw prif gontractwr y cynllun preswyl. Mae’r cynllun wedi cyrraedd ei gam terfynol gyda’r rhan fwyaf o’r gwaith adeiladu wedi’i gwblhau. Mae nifer o gontractwyr wedi bod yn gweithio ar y datblygiad, gan gynnwys Kier, Vinci a Willmott Dixon, ynghyd â nifer fawr o fentrau bach a chanolig.

Ymunodd y Gweinidog Alex Burghart AS ag Andrew Bridge a Jackie Ducker o CITB i weld sut mae’r ganolfan hyfforddi’n cael pobl i swyddi a phrentisiaethau yn y diwydiant.

Mae llawer o brentisiaethau mewn nifer o grefftau a galwedigaethau wedi’u creu yn sgil y prosiect. Mae cynlluniau sy’n rhan o fentrau’r Llywodraeth fel Kickstart a Skills Bootcamps hefyd ymhlith buddiolwyr y prosiect.

Cawsant eu tywys o amgylch y safle a’r cyfleusterau hyfforddi a chafwyd cyfle i gwrdd â phrentisiaid, rhai sy’n cymryd rhan yn Kickstart, a phobl ddi-waith a oedd yn disgrifio sut maent wedi elwa ar y prosiect.

Meddai’r Gweinidog Sgiliau Alex Burghart:

“Roedd yn bleser ymweld â’r ganolfan hyfforddi ar safle CITB yn Perry Bar a gweld â fy llygaid fy hun sut mae’r cynllun yn helpu pobl yr ardal i ddysgu’r sgiliau sydd eu hangen arnynt i gael gwaith yn lleol, drwy weithio ar brosiectau adeiladu cyffrous a fydd yn arwain at filoedd o gartrefi yn Birmingham.

“Mae cyfleoedd i godi’r gwastad yn flaenoriaeth a mentrau fel hyn sy’n cael ei arwain gan gyflogwyr ac sy’n lleol fydd yn rhoi hwb i sgiliau a swyddi ledled y wlad.”

Mae CITB wedi helpu i sefydlu’r ganolfan hyfforddi ar y safle, ac i ddarparu’r hyfforddiant. Mae Tîm Ymgysylltu CITB wedi cydweithio’n glos â’r South and City College i sefydlu Canolfan Brofi HS&E CITB ar y safle, ac mae wedi helpu RMF, darparwyr hyfforddiant peiriannau a Sefydliad Hyfforddi a Gymeradwywyd gan CITB i ddarparu hyfforddiant penodol ar y safle.

Roedd Cyfarwyddwr Gweithredol CITB ar gyfer Cwsmeriaid a Chynnyrch, Jackie Ducker, yn rhan o’r ymweliad.

Meddai: “Mi oedd yn braf gweld y canlyniadau positif sy’n cael eu cyflawni yn Perry Barr.

“Mae effaith y canolfannau profiad ar safleoedd, yr help i brentisiaid a chydweithredu rhwng diwydiannau’n talu ar ei ganfed ac yn helpu i greu cyfleoedd gwell i fwy o bobl i ymuno â’r diwydiant adeiladu.

“Mae CITB yn ymfalchïo yn y rhan rydym yn ei chwarae i helpu cyflogwyr bach a mawr i baratoi gweithlu medrus, parod ar gyfer safleoedd i gyflawni prosiectau adeiladu o safon uchel ledled Prydain.”

Mae bod yn bartner yn y Pwyllgor Llywio Gwerth Cymdeithasol wedi galluogi CITB i ddatblygu perthnasoedd gweithio cryf â phartneriaid a rhanddeiliaid allweddol yn yr ardal Awdurdod Cyfun, ac mae hynny wedi arwain at ragor o gyfleoedd i gydweithio mewn ffordd ystyrlon.