Facebook Pixel
Skip to content

Wythnos Gwerthfawrogi Gwaith Tir: Dathlu arwyr tawel y diwydiant adeiladu

Fel arfer, gweithwyr tir yw’r rhai cyntaf a’r rhai olaf ar safle adeiladu – ond maen nhw’n dal i fod yn arwyr tawel y diwydiant adeiladu.

Felly, mae Bwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu (CITB) wedi ymuno â’r darparwr hyfforddiant AccXel i gynnal Wythnos Gwerthfawrogi Gwaith Tir, o 27 Mawrth ymlaen.

Yn ystod yr wythnos, gofynnir i weithwyr tir, prentisiaid a’u cyflogwyr rannu eu profiadau drwy bostio lluniau neu fideos i helpu i herio barn pobl am eu gyrfaoedd a’u diwydiant, gan ddefnyddio’r hashnod #WythnosGwaithTir.

Mae’r prentis gwaith tir, Bogdan Olteanu, yn ymuno â’r ymgyrch i ddysgu eraill am natur amrywiol y swydd.

Ar hyn o bryd, mae Bogdan yn gwneud ei brentisiaeth gwaith tir lefel dau, ac mae wedi bod gyda chontractwyr gwaith tir a pheirianneg sifil o Swydd Bedford, Aden Contracting Ltd ers mis Ionawr 2022. Mewn ychydig dros flwyddyn, mae Bogdan wedi dangos ei fod yn rhan annatod o’r tîm; gan weithio’n agos gyda’i gydweithwyr, cynrychioli’r cwmni mewn digwyddiadau, a chwblhau cyrsiau hyfforddi hanfodol wrth fynychu’r coleg bob wythnos. Mae’n dod â gwerth aruthrol i Aden drwy ei dalent a’i uchelgais.

“Rydw i wedi dewis prentisiaeth gan ei fod yn gyfle gwych i ennill y sgiliau a’r profiad iawn fel gweithiwr tir, yn ogystal â chael eich talu a chael dysgu gan y bobl orau.

“Mae gweithio i Aden yn rhoi’r cyfle i mi ddysgu gan y bobl fwyaf profiadol ar y safle, maen nhw’n fy helpu i ddatblygu fy sgiliau fel gweithiwr tir. Rydw i’n hoffi bod pawb yn esbonio popeth pan fyddwch chi’n gofyn am help neu os ydych chi’n ansicr am ambell beth.

“Mae Aden yn fy nghefnogi drwy ddarparu hyfforddiant sy’n rhoi’r cyfle i mi wella fy sgiliau a’m dealltwriaeth o’r swyddi rydw i’n eu gwneud. Mae cael staff mor gefnogol ar y safle ac yn y swyddfa sydd bob amser yno i helpu gydag unrhyw beth, yn gwneud y brentisiaeth gyfan yn brofiad gwell.

“Fy nghyngor i bobl eraill sy’n awyddus i ddilyn prentisiaeth fyddai chwilio am brentisiaeth yn y grefft / galwedigaeth rydych chi’n ei hoffi a dal ati. Os ydych chi’n cael prentisiaeth, byddwch yn hyderus wrth siarad â chyflogwr / person dynodedig. Mae bywyd ar ôl prentisiaeth yn eich paratoi ar gyfer dyfodol da a phrofiad da.”

Dywedodd Tim Heads, tiwtor gwaith tir CITB: “Gall gwaith tir amrywio’n fawr. Dydw i ddim yn meddwl y gall unrhyw un feddu ar yr holl sgiliau ym mhob agwedd ar waith tir oherwydd bod y pwnc yn amrywiol. Hyd yn oed a finnau’n 58 oed, rydw i’n dysgu’n gyson wrth i dechnolegau, prosesau a deunyddiau newydd gael eu cyflwyno i’r diwydiant.

Ond, er mwyn deall yr hanfodion gyda hyder, byddwn yn dweud ei bod yn cymryd rhwng 18 mis a dwy flynedd, yna mae angen rhagor o amser ar elfennau penodol fel gorffen concrid, palmantu modiwlaidd, draenio a gwaith pibellau, cloddio dwfn, ac ati.

“Nid yw gweithio y tu allan yn addas i bawb, ond mae creu rhywbeth gyda’ch dwylo yn rhoi llawer o foddhad. Dydych chi ddim yn gwybod ydych chi’n addas ar gyfer swydd nes i chi roi cynnig arni.”

Dywedodd Natalie King, Cyfarwyddwr Gweithrediadau AccXel: “Mae gweithwyr tir yn rhan hanfodol o’r diwydiant adeiladu. Fodd bynnag, nid oes hanner digon o bobl yn gwybod nac yn deall yn llawn beth mae’r rôl hon yn ei olygu.

“Y grefft yma yw’r un lle mae'r galw mwyaf amdani gan fod angen gweithwyr tir ym mhob prosiect adeiladu.

“Rydyn ni’n awyddus i ysbrydoli mwy o bobl i ymuno â’r diwydiant adeiladu yn y rôl hon, a bydd hynny ond yn digwydd os bydd gwell dealltwriaeth o’r rôl a mwy o amlygrwydd iddi.

“Dyma pam rydyn ni wedi creu Wythnos Gwerthfawrogi Gwaith Tir ar y cyd â CITB a Go Construct – i wneud union hynny.”

Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am fod yn weithiwr tir, ewch i Go Construct.