Facebook Pixel
Skip to content

Rhoi mwy o lais i gyflogwyr ar sgiliau

Ni all un sefydliad ddatrys holl heriau sgiliau adeiladu.

Er mwyn denu gweithwyr newydd, mae angen i randdeiliaid fod yn bartner ar gyfer sgiliau a mabwysiadu ymagwedd gyson at hyfforddiant.

Dyna’r ffordd orau o gefnogi pobl i gael swyddi adeiladu sy’n talu’n dda.

Rwy’n falch o ddweud bod agwedd newydd, gydgysylltiedig at sgiliau ar y gweill: Cynlluniau Gwella Sgiliau Lleol (CGSLl).

Sgiliau

Nod CGSLl, menter a arweinir gan gyflogwyr gan yr Adran Addysg (DfE), yw rhoi mwy o lais i gyflogwyr yn Lloegr ar ddarpariaeth sgiliau.

Mae ymchwil yn dangos pam fod angen CGSLl.

Dim ond 26% o gyflogwyr adeiladu sy'n gweithio gyda cholegau i gefnogi eu hanghenion hyfforddi.

Dim ond 22% o gyflogwyr sy'n ymgysylltu gyda cholegau i gefnogi eu hanghenion recriwtio.

Disgwylir i CGSLl gael eu cytuno gan yr Ysgrifennydd Gwladol yr haf nesaf a’u rhedeg tan fis Mawrth 2025, i dechrau.

Mae CITB newydd gyhoeddi dogfen ganllaw ar CGSLl: Ysgogi sgiliau adeiladu, twf a swyddi drwy Gynlluniau Gwella Sgiliau Lleol (tudalen wê Saesneg yn unig).

Dyma ddisgrifiad byr o sut bydd CGSLl yn gweithio a sut y gall CITB eich cefnogi.

Cefnogaeth

Mae'r DfE wedi dynodi 38 o Gyrff Cynrychiolwyr Cyflogwyr (ERBs) yn Lloegr. Byddant yn datblygu CGSLl tair blynedd yn eu hardal.

Bydd yr ERBs yn ystyried, ynghyd â Siambrau Masnach lleol a sefydliadau eraill, anghenion sgiliau presennol ac yn y dyfodol a nodwyd gan gyflogwyr adeiladu.

Bydd eu cynlluniau terfynol yn dangos sut y gall cyflogwyr, rhwydweithiau hyfforddi a rhanddeiliaid gefnogi hyfforddiant sy'n cyfateb i ofynion sgiliau.

Bydd CGSLl yn gwneud llawer i gywiro'r diffyg cyfatebiaeth bresennol rhwng darpariaeth hyfforddiant a'r sgiliau y mae cyflogwyr eu heisiau mewn gwirionedd gan eu recriwtiaid newydd.

Manteision

Bydd rhoi mwy o lais i gyflogwyr ar sgiliau a hyfforddiant yn dod â manteision lluosog.

Bydd diwydiant yn cael mwy o weithwyr medrus. Bydd cyflymder y gwaith ar brosiectau yn cynyddu. Bydd pobl leol yn cael cyfleoedd gyrfa. Bydd yr economi leol yn tyfu.

Er enghraifft, gall y rhai sy’n gadael yr ysgol, myfyrwyr Addysg Bellach, y di-waith a grwpiau anodd eu cyrraedd gael eu cyfeirio at Hybiau Profiad Ar y Safle CITB.

Yno, gallant ddatblygu sgiliau gwerthfawr parod ar gyfer y safle yn gyflym.

Ac ar ôl hyfforddiant gallant chwilio am swyddi adeiladu sy'n talu'n dda trwy adnoddau fel Talentview.

Mae'n sefyllfa lle mae pawb ar eu hennill.

Ni fydd yn rhaid i bobl leol fynd yn bell i ennill sgiliau a phrofiad adeiladu ymarferol, gall cyflogwyr fanteisio ar dalent leol.

Partneriaethau

Roedd Papur Gwyn Sgiliau ar gyfer Swyddi 2021 yn nodi’r athroniaeth a arweinir gan gyflogwyr y tu ôl i CGSLl.

Mae CITB wedi gweithio ochr yn ochr â CGSLl arloesol ers iddynt ddechrau yn 2021/22. Rhoesom wybodaeth iddynt am y farchnad lafur, rhwydweithiau cyflogwyr ac amrywiaeth o gyllid, cynhyrchion a gwasanaethau.

Bydd y ffordd y maent yn darparu prentisiaethau yn hanfodol i lwyddiant CGSLl, sef yr opsiwn hyfforddi a ffefrir gan gyflogwyr.

Gweminarau

Mae CITB yn ei gwneud yn haws i gyflogwyr bach gael mynediad at grantiau i logi prentisiaid.

Ymhlith y grantiau CITB presennol sydd ar gael, mae:

  • Grant dysgu: hyd at £2,500 y prentis y flwyddyn tra byddant yn dysgu
  • Grant cyflawniad: hyd at £3,500 pan fydd prentis yn cwblhau hyfforddiant
  • Grant presenoldeb: hyd at £2,500 y prentis y flwyddyn
  • Grant leinin sych: mae £2,000 ychwanegol yn daladwy ar gyfer prentisiaid leinin sych
  • Grant Teithio i Hyfforddi/Llety: Rydym yn ad-dalu 80% o gostau llety ar gyfer prentisiaid lle mae angen aros dros nos a theithio i/o westy.

Os ydych chi'n gyflogwr sy'n ystyried cyflogi prentis, cysylltwch â ni. Bydd ein Cynghorwyr wrth eu bodd yn eich helpu.

Yn y cyfamser, bydd CITB yn cynnal, yn ddiweddarach y mis hwn, gweminarau rhanbarthol i gynnig cefnogaeth a chymorth ychwanegol ar CGSLl.

Rydym hefyd wedi sefydlu e-bost dynodedig lsips@citb.co.uk ar gyfer ERBs i gysylltu â ni os oes ganddynt gwestiynau neu os hoffent gefnogaeth.

Twf

I mi, mae CGSLl yn cynnig cyfle parhaol i ddatblygu systemau sy’n gwneud darpariaeth sgiliau yn fwy ymatebol.

Rwy’n wirioneddol obeithiol am eu potensial i greu swyddi adeiladu a thwf mewn cymunedau ledled Lloegr.

Hoffwn ddiolch i’n partneriaid a’n cefnogodd ar y canllawiau newydd: y DfE, y Cyngor Arweinyddiaeth Adeiladu a Siambrau Masnach Prydain.

Edrychaf ymlaen at weithio gyda chi, y diwydiant adeiladu a’n cymunedau lleol.

Gadewch i ni wneud i CGSLl weithio.

Os hoffech chi rannu eich barn, cysylltwch â ceo@citb.co.uk.