Facebook Pixel
Skip to content

Galw am weithwyr adeiladu yn uchel er gwaetha'r ansicrwydd economaidd

Yn erbyn cefndir o her economaidd, costau deunyddiau a llafur cynyddol, mae ffigurau newydd gan Fwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu (CITB) yn datgelu y bydd angen bron i 225,000 o weithwyr ychwanegol i fodloni galw adeiladu’r DU erbyn 2027.

Mae adroddiad blynyddol CITB ar y Rhwydwaith Sgiliau Adeiladu (CSN) yn dangos:

  • Bydd angen 224,900 o weithwyr ychwanegol (44,980 y flwyddyn) i gwrdd â galw adeiladu’r DU rhwng nawr a 2027

  • Bydd allbwn adeiladu yn tyfu ar gyfer pob cenedl a rhanbarth, fodd bynnag, mae disgwyl dirwasgiad yn 2023 gyda thwf araf yn dychwelyd yn 2024

  • Y prif sectorau ar gyfer y galw yw:
    • tai preifat
    • seilwaith
    • atgyweirio a chynnal a chadw

  • Os bodlonir y twf a ragwelir, erbyn 2027 bydd nifer y bobl sy'n gweithio yn y diwydiant adeiladu yn 2.67m

Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at y ffaith bod disgwyl i'r diwydiant adeiladu barhau i fod yn sector lle mae galw am weithwyr er gwaethaf yr ansicrwydd economaidd presennol. O ganlyniad, mae recriwtio, hyfforddi, datblygu a uwchsgilio yn parhau i fod yn flaenoriaethau mawr i'r diwydiant ar gyfer 2023 a thu hwnt.

Mae CITB yn ymateb trwy fuddsoddi mewn prentisiaethau, lansio ystod o fentrau wedi'u targedu a gweithio ar y cyd â diwydiant, i helpu'r sector adeiladu i gael gweithlu medrus, cymwys, a chynhwysol.

Dywedodd Tim Balcon, Prif Weithredwr CITB: "Mae adroddiad diweddaraf CSN yn dangos yn glir, er gwaethaf ansicrwydd economaidd cyfredol, bod recriwtio a datblygu'r gweithlu yn parhau i fod yn hanfodol er mwyn sicrhau bod y diwydiant yn gallu cyfrannu at dwf economaidd.

"Rydyn ni'n gwybod na fydd y 18 mis nesaf yn hawdd, fodd bynnag, rwy'n parhau i gael fy ysbrydoli gan wydnwch y diwydiant adeiladu a ddangoswyd yn y pandemig a thrwy gydol 2022.

"Yn fyr, mae'n egluro nad yw'r angen i recriwtio a chadw talent yn y sector erioed wedi bod yn fwy. P'un a yw hynny ar gyfer adeiladu'r cartrefi sydd eu hangen ar y wlad, adeiladu seilwaith ynni a thrafnidiaeth neu ôl-osod yr amgylchedd adeiledig i helpu i ostwng biliau ynni a chyrraedd targedau sero net.

“I hybu gwydnwch diwydiant, bydd CITB yn ymdrechu i ddenu a hyfforddi ystod amrywiol o recriwtiaid ar gyfer diwydiant, gan roi iddynt sgiliau modern ar gyfer gyrfaoedd adeiladu gwerth chweil. Rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda'r diwydiant a'r rhanddeiliaid a'u cefnogi yn y cyfnod heriol sydd o'n blaenau ac i ddod yn gryfach pan ddaw'r dirwasgiad i ben."

Er mwyn helpu i fynd i'r afael yn uniongyrchol â'r heriau hyn a gwneud y mwyaf o'r cyfleoedd a fydd yn codi, mae CITB wedi buddsoddi bron i £50m o Lefi i gefnogi dros 22,000 o brentisiaid i'w helpu i ymuno â'r diwydiant; tra bod grantiau wedi helpu i gefnogi dros 16,000 o ddysgwyr i gwblhau eu cymwysterau.

Mae cyllid uniongyrchol wedi darparu grantiau dros 269,000 o gyrsiau hyfforddi ac mae cyfanswm o £97m wedi'i fuddsoddi mewn cyllid grant gan CITB, i'w gwneud mor hawdd â phosibl i gyflogwyr recriwtio a chadw eu gweithlu medrus.

Mae CITB yn parhau i ddarparu cefnogaeth wedi'i thargedu i fusnesau bach a chanolig drwy grant a chyllid a thrwy gymorth i gael mynediad at hyfforddiant a chyllid. Ers mis Ebrill 2022, mae tîm ymgysylltu CITB wedi cefnogi busnesau bach a chanolig ar 26,976 o weithiau, gan eu cefnogi i barhau i hyfforddi yn ystod yr ansicrwydd economaidd presennol.

Mae CITB hefyd yn cynnig arian sydd wedi'i anelu'n benodol at gwmnïau llai fel y Gronfa Sgiliau a Hyfforddiant. Gall cwmnïau sydd â llai na 250 o weithwyr PAYE gael mynediad at hyd at £25,000 bob blwyddyn (gan ddibynnu ar eu maint). Erbyn diwedd chwarter dau 2022, roedd £3.9m wedi'i fuddsoddi mewn cwmnïau trwy'r gronfa yma.

Mae comisiwn Academi Albanaidd CITB ar gyfer Cyfleoedd Adeiladu (SACO) wedi dyfarnu £1.3m ar draws yr Ucheldiroedd a'r Ynysoedd; tra bod Comisiwn Cyfleoedd Adeiladu Lloegr (ECO) wedi dyfarnu cyfanswm o ychydig dros £1.8m. Bydd y buddsoddiad hwn yn helpu'n uniongyrchol i fynd i'r afael â bwlch sgiliau'r diwydiant adeiladu, cynyddu lefelau cadw cyflogaeth, a darparu cefnogaeth hanfodol i ddechreuwyr newydd ar ddechrau eu gyrfaoedd adeiladu, drwy hyrwyddo profiad gwaith i newydd-ddyfodiaid i'r diwydiant.

Mae Hybiau Profiad ledled Cymru a Lloegr yn creu piblinell dalent i ddiwallu anghenion cyflogwyr adeiladu lleol ac i gefnogi cyfleoedd gyrfa adeiladu i bobl o gymunedau lleol.

Mae rhagor o fentrau CITB yn amrywio o atebion lleol ar gyfer cyllid a hyfforddiant fel ein prosiect peilot rhwydwaith cyflogwyr, sydd ar gael i fwy na 3,800 o fusnesau adeiladu sydd wedi eu cofrestru ar gyfer lefi ar draws pum lleoliad yng Nghymru, Lloegr a'r Alban; ynghyd â chomisiwn Rheoli ac Arwain gwerth £10.5m a fydd yn cynnig cyrsiau wedi'u hariannu i fusnesau o bob maint er mwyn rhoi cymhwyster Rheoli ac Arwain cydnabyddedig i oruchwylwyr a rheolwyr.

Mae hyfforddiant yn parhau i fod yn ffocws allweddol, a dyna pam mae CITB wedi buddsoddi mewn safleoedd y Coleg Adeiladu Cenedlaethol (NCC), i ddiwallu anghenion hyfforddi arbenigol y diwydiant. Drwy ganolbwyntio'r cwricwlwm ar alw sydd heb ei ddiwallu, rydym yn gobeithio meithrin capasiti ar gyfer y diwydiant, sydd wedi arwain at gynnydd o 25% yn nifer y bobl sydd wedi'u hyfforddi hyd yma. Mae ein data'n dangos bod 96% o brentisiaid CITB wedi sicrhau cyflogaeth neu wedi symud ymlaen ym maes addysg, gyda dros 90% yn aros yn y sector.

Daeth Tim Balcon i'r casgliad: "Mae'r dull cydlynus a chynhwysfawr hwn o helpu recriwtio, hyfforddi, datblygu ac uwchsgilio talent, tra'n parhau i weithio ar y cyd â'r diwydiant a rhanddeiliaid yn golygu y bydd CITB yn parhau i chwarae rhan ganolog wrth gefnogi diwydiant sy'n sbardun allweddol i economi'r DU drwy'r cyfnod heriol hwn. "

Rhagolygon y Diwydiant CSN - 2023-2027