Facebook Pixel
Skip to content

Canlyniadau Chwilio

Chwilio am newyddion a digwyddiadau

Math

Newyddion lleol a digwyddiadau

Canfuwyd 157 o erthyglau

Defnyddiwch yr hidlwyr chwilio ar yr ochr dde i leihau’r canlyniadau.

Cliciwch yma i ddychwelyd i'r dudalen penawdau newyddion.

Consensws CITB yn symud i fis Mawrth 2025

Mae Bwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu (CITB) wedi cyhoeddi heddiw ddyddiadau newydd ar gyfer ei broses Consensws: bydd y weithdrefn nawr yn dechrau ar 17 Mawrth 2025 ac yn parhau tan 9 Mai.

Ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf: rhagolwg o Open Doors 2025

Grŵp Canary Wharf, Build UK a CITB yn cydweithio i arddangos cyfleoedd gyrfa ym maes adeiladu. Fel rhan o’n hymrwymiad i fynd i’r afael â’r prinder sgiliau yn y sector adeiladu, cefnogodd CITB Build UK i gynnal digwyddiad rhagolwg cyffrous o Open Doors 2025 yn natblygiad Wood Wharf Grŵp Canary Wharf (CWG) yn Llundain.

Digwyddiadau hyfforddiant a chymhwysedd peiriannau yn dod yn fuan

Mae CITB a Sefydliad Cynrychiolwyr y Sector Peiriannau (PSRO) yn cyd-gynnal cyfres o ddigwyddiadau i hyrwyddo hyfforddiant a chymhwysedd ar gyfer galwedigaethau peiriannau. Bydd y fforymau, yn benodol ar gyfer cyflogwyr cofrestredig CITB, yn trafod sut mae hyfforddiant priodol ac effeithiol yn cefnogi gofynion cymhwysedd y diwydiant ar gyfer sicrhau sector diogel ac effeithlon.

Grantiau CITB i gefnogi pontio Achrediad y Diwydiant tan fis Mawrth 2026

Mae Bwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu (CITB) wedi cyhoeddi estyniad blwyddyn o gyllid i gefnogi'r Cynllun Tystysgrif Sgiliau Adeiladu (CSCS) wrth drosglwyddo holl ddeiliaid cardiau Achrediad Diwydiant (IA) i gymwysterau cydnabyddedig. Bydd pob cerdyn IA a gyhoeddwyd o 1 Ionawr 2020 yn dod i ben ar 31 Rhagfyr 2024 ac ni ellir eu disodli gan ddefnyddio IA.

Partneriaeth y Llywodraeth â diwydiant yn datgloi £140m ar gyfer hyfforddiant sgiliau adeiladu cartrefi carlam

Gan weithio gyda’r Llywodraeth, mae Bwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu (CITB) a’r Cyngor Cenedlaethol Adeiladu Tai (NHBC) wedi cyhoeddi buddsoddiad o £140m mewn Canolfannau Sgiliau Adeiladu Cartrefi i ddarparu prentisiaethau llwybr carlam a hyfforddiant o ansawdd uchel.

Open Doors 2025: CITB yn annog cyflogwyr adeiladu i gofrestru eu digwyddiadau

Mae gan gyflogwyr adeiladu ledled y wlad y cyfle i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o weithwyr adeiladu trwy ddangos cyffro gyrfa ym maes adeiladu a mynd â phobl ifanc i un o’u safleoedd. Mae Open Doors yn dychwelyd ym mis Mawrth 2025 ac yn cael ei ddarparu gan Build UK mewn partneriaeth â CITB a CSCS, gyda chefnogaeth partneriaid cyfryngau, cymunedol a diwydiant, sy’n annog cyflogwyr adeiladu i gofrestru eu digwyddiadau i gymryd rhan.

Cyhoeddi enillwyr Rownd Derfynol Genedlaethol SkillBuild 2024

Ymgasglodd prif dalent hyfforddeion adeiladu gorau'r DU ynghyd yn Milton Keynes yr wythnos hon i gystadlu yn Rownd Derfynol Genedlaethol SkillBuild 2024, a gyflwynir gan Fwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu (CITB). Aeth y 75 o hyfforddeion adeiladu a gymerodd ran yn benben â’i gilydd dros dri diwrnod, a chyhoeddwyd enillydd o bob un o'r deg crefft ar y diwrnod.

CITB yn ymestyn y Comisiwn Hyfforddiant Arwain a Rheoli i fis Mawrth 2026

Mae CITB yn buddsoddi £10.5 miliwn i gynnig cyrsiau a chymwysterau hyfforddiant arwain a rheoli adeiladu penodol wedi’u hariannu’n llawn ledled y DU, fel rhan o’r anghenion cymorth a nodwyd gan y diwydiant.

Y dalent gorau ym maes adeiladu: Pythefnos ar ôl i gofrestru i fynychu Rownd Derfynol Genedlaethol SkillBuild 2024

Peidiwch â cholli’ch cyfle i wylio’r dalent gorau adeiladu o bob cwr o’r wlad yn mynd benben â’i gilydd yn Rownd Derfynol Genedlaethol SkillBuild 2024, y gystadleuaeth sgiliau aml-grefft fwyaf a hiraf yn DU.

Cynhadledd Sgiliau a Hyfforddiant CITB yn dod i Gymru

Mae’n bleser gan Fwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu (CITB) gynnal ei Gynhadledd Sgiliau a Hyfforddiant nesaf yng Nghymru ar Ionawr 23ain.

Sut wnaethon ni heddiw? Rhoi adborth