Facebook Pixel
Skip to content

Angen dros 250,000 o weithwyr adeiladu ychwanegol erbyn 2028 i ateb y galw

  • Mae’r diwydiant yn wynebu angen parhaus i baru twf gyda’r gweithlu
  • Mae recriwtio a chadw yn gyfleoedd allweddol ar gyfer gwydnwch sector

Mae’r rhagolwg diwydiant blynyddol gan Fwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu (CITB) yn amlygu’r bwlch parhaus rhwng yr hyn sydd ei angen ar y DU i gadw i fyny â’r galw a’r gweithlu sydd ar gael i ateb yr her.

Mae adroddiad Rhwydwaith Sgiliau Adeiladu CITB (CSN) 2024-28 yn datgelu bod:

Allbwn adeiladu’r DU:

  • Wedi codi 2% yn 2023, y drydedd flwyddyn yn olynol o dwf
  • Yn tyfu 2.4% y flwyddyn ar gyfartaledd rhwng nawr a 2028

I gwrdd â’r twf hwn, mae angen cyfwerth â mwy na 251,000 o weithwyr adeiladu ychwanegol dros y pum mlynedd nesaf, gyda chyflogaeth adeiladu yn codi i 2.7m erbyn 2028.

Y prif gyfleoedd mewn:

  • Tai preifat
  • Seilwaith
  • Atgyweirio a Chynnal a Chadw (R&M)

Er bod y diwydiant yn llwyddo i recriwtio tua 200,000 o bobl bob blwyddyn, yn 2023, roedd cyfartaledd o 38,000 o swyddi gweigion yn cael eu hysbysebu bob mis. I bron i draean (31%) o gyflogwyr adeiladu, dod o hyd i staff â’r sgiliau addas yw eu her allweddol o hyd, yn enwedig gyda mwy o weithwyr hŷn yn ymddeol ac nad ydynt yn cael eu penodi yn eu lle.

Er i’r diwydiant adeiladu groesawu 200,000 o weithwyr newydd, collodd mwy (210,000 o weithwyr). Gyda’r gwahaniaeth parhaus rhwng yr angen a ragwelir am waith adeiladu a’r gweithlu sydd ar gael, mae rhagolwg CITB yn dangos pa mor bwysig yw hi i’r diwydiant fynd i’r afael â’r problemau gyda recriwtio a hyfforddi effeithiol i gymryd lle’r rhai sy’n gadael a pharatoi’n well ar gyfer y dyfodol, yn ogystal â manteisio ar gyfleoedd allweddol megis gwella cynhyrchiant a chyrraedd targedau ôl-osod Sero Net.

Mewn ymateb i’r heriau, mae CITB wedi buddsoddi £267m i helpu’r diwydiant i wella amrywiaeth, ansawdd a chynhyrchiant yn ogystal â gwneud adeiladu yn ddewis gyrfa mwy deniadol i genedlaethau’r dyfodol. Ymhlith y meysydd y bydd y buddsoddiad hwn yn eu cefnogi’n uniongyrchol mae tair menter estynedig i helpu cyflogwyr i ateb y galw yn uniongyrchol:

  • Tîm Cymorth i Newydd-Ddyfodiaid (NEST) – helpu cyflogwyr i lywio’r broses recriwtio yn well, cael mynediad at grantiau a hyfforddiant addas, pan a lle bo angen
  • Cronfa Effaith ar Ddiwydiant – sicrhau bod cyllid uniongyrchol ar gael i gyflogwyr ddylunio a phrofi atebion newydd ar gyfer heriau recriwtio a chadw talent
  • Rhwydwaith Cyflogwyr – yn cael ei chyflwyno ledled Prydain Fawr, i alluogi cyflogwyr lleol i osod eu blaenoriaethau ariannu eu hunain a diwallu anghenion sgiliau ardal-benodol.

Dywedodd Tim Balcon, Prif Weithredwr CITB: “Bydd diwydiant adeiladu’r DU yn parhau i dyfu, ond mae angen mwy o bobl yn y gweithlu sydd â’r sgiliau cywir. Bu galw am weithwyr erioed, ac mae adroddiad CSN CITB yn nodi faint sy’n gadael y sector o gymharu â’r rhai sy’n ymuno, a’r cyfleoedd i gyflogwyr fynd i’r afael â’r her hon drwy recriwtio a datblygu gweithlu medrus, cymwys ac amrywiol sy’n gallu i ddiwallu anghenion y presennol a’r dyfodol.

“Mae’r ‘piblinell pobl’ yn hanfodol i dwf y sector, ond mae gwelliannau eraill hefyd yn bwysig, gan gynnwys cynhyrchiant ac arloesedd technolegol. Dyna pam mae ein hymrwymiad i fuddsoddi dros £267m i sicrhau bod y system sgiliau yn addas i’r diben – nawr ac yn y dyfodol- mor bwysig.

“Mae’r ychydig flynyddoedd diwethaf wedi creu llawer o heriau i’r diwydiant ac fel sector rydym wedi dangos gwydnwch sylweddol. Mae 2024 a thu hwnt yn cynnig agwedd fwy cadarnhaol a thrwy ddull cydgysylltiedig o recriwtio, hyfforddi, datblygu ac uwchsgilio talent, bydd CITB yn parhau i chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi diwydiant sy’n un o brif yrwyr economi’r DU.”