Facebook Pixel
Skip to content

Adborth gan gwsmeriaid

Mae eich adborth yn bwysig i ni ac rydym yn gwrando’n ofalus ar bob sylw, canmoliaeth a chwyn.

Anfonwch eich adborth mewn e-bost at feedback@citb.co.uk, gan nodi yn y llinell pwnc a ydych yn dymuno gwneud ‘Sylw’, ‘Canmoliaeth’ neu ‘Cwyn’. Cewch ymateb gennym cyn pen 10 diwrnod gwaith. Fel arall, os oes gennych ymholiad cyffredinol, defnyddiwch ein ffurflen cysylltu â ni.

Sut rydym yn defnyddio'r adborth hwn

Rydym yn defnyddio’r adborth hwn i ddatblygu a gwella ein cynnyrch a’n gwasanaethau yn ogystal â mesur sut rydym yn gweithio ac yn perfformio yn erbyn ein haddewidion i gwsmeriaid. Mae ein haddewidion i gwsmeriaid yn gwneud ymrwymiad clir gan y tîm cyfan yn CITB ynghylch y safonau y gallwch chi eu disgwyl gennym; defnyddiwyd eich adborth i’w datblygu er mwyn adlewyrchu’r hyn sy’n bwysig i chi, ein cwsmer.

Sut rydym yn diffinio adborth

Sylw – Awgrym neu syniad am gynnyrch, gwasanaeth neu brofiad, gwelliant y gellid ei wneud efallai.

Canmoliaeth Mynegiant o hapusrwydd. Adolygiad cadarnhaol o gynnyrch, gwasanaeth neu brofiad rydych chi wedi’i gael gyda CITB.

Cwyn Anfodlonrwydd gyda chynnyrch, gwasanaeth neu brofiad rydych chi wedi’i gael gyda CITB. Achlysur lle rydych yn teimlo nad ydym wedi cyflawni’r hyn roeddem wedi’i addo.

Yr Ombwdsmon

Os nad yw cwyn yn cael ei datrys nes bod y cwsmer yn gwbl fodlon, yna gall gysylltu â’r Ombwdsmon Seneddol a Gwasanaeth Iechyd a hynny drwy Aelod Seneddol.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan yr Ombwdsmon Seneddol a Gwasanaeth Iechyd