Facebook Pixel
Skip to content

Rôl Cyfarwyddwr ar gyfer Iechyd a Diogelwch

Dyluniwyd y cwrs rhyngweithiol un diwrnod hwn ar gyfer cyfarwyddwyr cwmnïau gyda'r nod o gydnabod goblygiadau dynol ac ariannol diffyg cydymffurfio â deddfwriaeth iechyd a diogelwch.

Trosolwg

Bydd y cwrs yn darparu crynodeb o sut i hybu diwylliant sefydliadol cadarnhaol ar gyfer iechyd a diogelwch. Bydd ymarferion gweithdy trwy gydol y dydd yn rhoi cyfle i gynrychiolwyr drafod eu meddyliau am iechyd a diogelwch a'u cyfrifoldebau mewn fforwm agored.

Ar ddiwedd y cwrs bydd cynrychiolwyr yn gallu:

  • cydnabod costau / goblygiadau moesol, economaidd a chyfreithiol penderfyniadau a wneir yn yr ystafell fwrdd sy'n gwneud eu busnes yn atebol
  • deall pwysigrwydd rheoli risg yn strategol
  • gwerthfawrogi canlyniadau methu â rheoli iechyd a diogelwch yn effeithiol
  • deall pwysigrwydd deiliaid dyletswydd cymwys yn cydweithredu, cyfathrebu a chyydlynu iechyd a diogelwch trwy gydol y prosiect cyfan
  • cydnabod yr angen i benodi cymorth iechyd a diogelwch cymwys a chyfyngiadau penodiad o'r fath
  • dynnodi'r adnodd sylfaenol ar gyfer cyflwyno diwylliant iechyd a diogelwch rhagweithiol yn eu sefydliad

Mae'r ardystiad ar gyfer y cwrs hwn yn ddilys am 5 mlynedd. I barhau'n ardystiedig yn y maes hwn, bydd angen i chi ail-sefyll y cwrs cyn y dyddiad dod i ben.

Darganfyddwch fwy am gael eich cymeradwyo i ddarparu'r cwrs hwn

Mae mwy o wybodaeth am y cwrs hwn ar gael yn Rheolau'r Cynllun

Canfod cwrs

Defnyddiwch ein adnodd chwilio am leoliad cwrs i ddod o hyd i ddarparwr cwrs yn agos atoch chi.