Cynlluniau Cenedl
Ar y dudalen hon:
Trosolwg
Yn dilyn ein Cynllun Busnes, mae ein Cynlluniau Cenedl yn nodi pa weithgareddau y bydd CITB yn canolbwyntio arnynt yng Nghymru, Lloegr a’r Alban i gefnogi’r diwydiant adeiladu i gael gweithlu medrus, cymwys a chynhwysol, yn awr ac yn y dyfodol.
Ac fel ein Cynllun Busnes, mae’r Cynlluniau Cenedl yn canolbwyntio ar fynd i’r afael â thri maes blaenoriaeth allweddol:
- Hysbysu a galluogi pobl amrywiol a medrus i mewn i adeiladu
- Datblygu system hyfforddiant a sgiliau i ddiwallu anghenion y presennol a’r dyfodol
- Cefnogi'r diwydiant i hyfforddi a datblygu ei weithlu
Gallwch ddod o hyd i ragor o fanylion am yr heriau hyn trwy ymweld â’n Cynllun Busnes.
Byddwn yn hysbysu ac yn galluogi pobl amrywiol a medrus i adeiladu drwy:
- Parhau i gefnogi a hyrwyddo'r nifer sy'n manteisio ar TGAU a Safon Uwch Adeiladu yng Nghymru
- Ehangu ein rhwydwaith o lysgenhadon STEM i 80 yng Nghymru, gan gynnwys 8 siaradwr Cymraeg i gefnogi gweithgareddau gyrfa a hyrwyddo'r cyfleoedd ym maes Adeiladu
- Denu a rhoi cyfle i dros 800 o ddysgwyr i ddysgu am sut mae adeiladu'n gweithio trwy ein digwyddiadau mewnwelediad diwydiant a gyflwynir gan bartneriaid fel Open Doors a Gweld eich Safle.
Byddwn yn datblygu system hyfforddi a sgiliau i ddiwallu anghenion y presennol a'r dyfodol drwy:
- Cefnogi lansiad Prentisiaethau Gradd Adeiladu newydd yng Nghymru
- Gweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru i ddylanwadu ar strategaeth ariannu i gyd-fynd ag anghenion sgiliau'r diwydiant
- Gweithio gyda'n partneriaid coleg AB i archwilio a chyflwyno darpariaeth arbenigol newydd yng Nghymru ar gyfer prentisiaethau sydd ar gael yn Lloegr yn unig ar hyn o bryd.
Byddwn yn cefnogi'r diwydiant i hyfforddi a datblygu ei weithlu drwy:
- Ehangu'r ddarpariaeth o'n Rhwydweithiau Cyflogwyr lleol ledled Cymru
- Datblygu a gweithredu ymyriadau sy'n helpu i fynd i'r afael â phrinder tiwtoriaid ac aseswyr yn y diwydiant
- Dechrau adeiladu rhwydwaith o ddarparwyr hyfforddiant i ddarparu cymorth hyfforddiant CITB i gyflogwyr.
Sut wnaethon ni heddiw? Rhoi adborth