Facebook Pixel
Skip to content

Helpwch i drechu prinder sgiliau adeiladu trwy ysbrydoli pobl ifanc

Ydych chi'n angerddol am adeiladu ac eisiau dangos i eraill beth rydych chi'n ei wneud? Gallai eich brwdfrydedd a'ch cariad at eich swydd ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf i ymuno â'r sector. Yn wyneb prinder sgiliau, dyna’n union y mae ymgyrch newydd am ei gyflawni.

Yn ddiweddar, lansiodd CITB, mewn partneriaeth â Dysg STEM, gynllun llysgenhadon newydd sy’n benodol i’r diwydiant. Mae Cynllun Llysgennad STEM Am Adeiladu yn dod â’r defnydd o Wyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg yn fyw o fewn y sector. Er enghraifft, mae gweithiwr gosod brics sy'n gosod llinellau, onglau a meintiau o frics yn ymwneud â mathemateg, tra bod defnyddio deunyddiau a chemegau i gymysgu sment yn ymwneud â gwyddoniaeth.

Mae Llysgenhadon STEM Am Adeiladu’n weithwyr adeiladu proffesiynol, o brentisiaid hyd at gyfarwyddwyr cwmni, sy'n ysbrydoli pobl ifanc trwy rannu eu profiadau o sut mae eu hastudiaethau wedi arwain at yrfa amrywiol a gwerth chweil yn y diwydiant.

Dywedodd Anjali Pindoria, Llysgennad STEM Am Adeiladu: “Mae mor werth chweil; rydych yn gadael effaith barhaol ar bobl ifanc drwy eu hysbrydoli a’u cynnwys ym maes adeiladu a llunio’r hyn y maent yn ei wybod am ein diwydiant.”

Mae cynllun Llysgennad STEM Am Adeiladu’n cael ei gynnal gan CITB, ar ran STEM, a gyda tharged o 1,700 o lysgenhadon erbyn 2024, gallai’r cynllun fod yn allweddol i newid canfyddiadau o’r diwydiant drwy amlygu profiadau personol cadarnhaol. Daw’r llysgenhadon presennol o amrywiaeth o ddisgyblaethau adeiladu, maent yn 17 oed ac yn hŷn, ac ar gamau amrywiol yn eu gyrfaoedd, gyda 45% ohonynt yn fenywod.

Mae ymchwil diweddar yn dweud y bydd angen i adeiladu recriwtio 217,000 o weithwyr newydd ychwanegol erbyn 2025 dim ond i ateb y galw. Mae Llysgenhadon STEM Am Adeiladu yn rhan o raglen ehangach o fentrau CITB i fynd i’r afael â’r prinder sgiliau, gan gynnwys addysgu ymgynghorwyr gyrfaoedd ar yr amrywiaeth enfawr o alwedigaethau sydd ar gael, swyddi dan hyfforddiant, profiad gwaith, teithiau rhithwir o safleoedd, a mwy.

Dywedodd Stephen George, Rheolwr Cynnyrch Gyrfa CITB: “Heb wybod beth sydd ar gael, gallai pobl ifanc a fyddai wedi bod yn wych ym maes adeiladu lifo i sectorau eraill. Mae ein llysgenhadon yn helpu i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf. Nid oes gan bawb fodel rôl gartref neu yn yr ysgol sy’n eu hysbrydoli i wybod beth maent eisiau ei wneud â’u bywydau - gallai rhannu eich stori fod yr ysbardun hwnnw.”

Darganfyddwch mwy am Lysgenhadon STEM AM Adeiladu.