Facebook Pixel
Skip to content

“Cwad” Adeiladu, sy’n cael cymorth gan CITB, yn sicrhau swyddi i 90% o fyfyrwyr

Mae cyfleuster hyfforddiant mewn ysgol, a oedd yn rhoi pobl leol mewn cysylltiad â chyflogwyr a oedd yn cael trafferth recriwtio gweithwyr medrus, wedi sicrhau llwyddiant ysgubol.

Yn ôl yn 2020 pwysleisiodd adroddiad, a gyhoeddwyd gan CITB, yr angen i fynd i’r afael â’r bwlch sgiliau yn y diwydiant adeiladu, wrth i gyflogwyr gael trafferth recriwtio gweithwyr medrus a gweithwyr lefel mynediad.

Yn sgil y canfyddiadau hyn, ffurfiodd CITB bartneriaeth â Morgan Sindall Construction, Buckinghamshire College Group, ac ABC Assessment Centre i sicrhau hyfforddiant ar y safle yn ystod Awst a Gorffennaf 2021, ar gyfer unigolion a oedd am ddilyn gyrfa ym maes adeiladu.

Bu CITB yn cydweithio ag ABC Assessment Centre a Buckinghamshire College Group i ariannu cyrsiau mewn galwedigaethau lle mae perygl mawr o brinder gweithwyr yn yr ardal leol, fel gosod brics a leinio sych.

Bu dros 4,000 o bobl yn cymryd rhan yn y gweithdai, y sesiynau blas ar waith a’r ymweliadau ag ysgolion a gynhaliwyd gan CITB, a chynigiwyd dros 130 awr o weithdai cyflogadwyedd i unigolion a oedd yn derbyn hyfforddiant yn y Cwad.

Roedd y “Cwad” wedi’i leoli yn Ysgol Uwchradd Kingsbrook, fel rhan o ddatblygiad gwerth £35m gan Morgan Sindall Construction (MSC). Roedd yn creu cysylltiad rhwng dysgwyr a swyddi, a chafodd:

  • Dros £2 filiwn ei gwario gyda’r gadwyn gyflenwi leol
  • Tua 900 o oriau o ddarlithoedd a phrofiad gwaith eu darparu i fyfyrwyr
  • 23 Cymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol (NVQ) eu dyfarnu i fyfyrwyr
  • Pedwar achrediad a chymhwyster datblygu proffesiynol eu dyfarnu.

Cawsom sgwrs â Norma Odain-Hines, Rheolwr Gwerth Cymdeithasol Morgan Sindall Construction, i gael gwybod mwy am y prosiect cydweithredol hwn a gynhaliwyd ym mis Gorffennaf a mis Awst 2021.

Cymuned

“Mae’r Cwad Gwybodaeth wedi cael effaith enfawr ar ein busnes,” meddai Norma.

“Pan oedd y colegau ar gau dros yr haf, cynhaliwyd ein sesiwn hyfforddiant dwys dros bum diwrnod, sy’n rhan o’n Pecyn Cymorth i Reolwyr Safle. Roedd yn brofiad ymarferol i’n staff gyrfaoedd cynnar sydd â gwahanol sgiliau crefft.

“Ar ben hynny, rydym hefyd wedi cydweithio â’r gymuned ehangach yn Aylesbury, gan fynd i’r afael â’r prinder bricwyr medrus a welwyd yn yr ardal”.

Roedd MSC wedi lansio Cwad Gwybodaeth yn Lerpwl yn 2020.

Yn ogystal â chynnig hyfforddiant pwrpasol i bobl leol, roedd y bartneriaeth hon hefyd yn cynnig cyfle i fyfyrwyr gyflawni cerrig milltir personol.

Yn ystod 2021, gallai prentis yn y Cwad Gwybodaeth gael profiad ar y safle yn ogystal â mynychu darlithoedd (cyflwynwyd dros 900 awr o ddarlithoedd).

“Roedd ennill y prosiect Southern Construction Framework yma a sefydlu’r Cwad Gwybodaeth ar safle gweithredol yn ein galluogi i ddarparu llawer o brofiad gwaith ar y safle,” meddai Norma.

“Roedd gennym ddau ymgeisydd ar y prosiect yma, ac fe wnaeth wahaniaeth enfawr i’w bywyd; iddyn nhw, roedd gallu gweithio a gweld y gwerth roedden nhw’n ei gynnig i’r diwydiant wedi newid eu meddylfryd er mwyn meddwl “Dw i'n gwybod fy mod i’n gallu gwneud hyn”.

Cyflogaeth

“Roedd yr hyfforddiant ar safle ysgol uwchradd Kingsbrook yn anhygoel,” meddai Jamie Cremin, a gwblhaodd ei gymhwyster Lefel 2 mewn Gosod Brics yn y Cwad.

“Dw i'n ddiolchgar dros ben am y cyfle, oherwydd fe gefais i gipolwg gwych ar y profiad o weithio ar safle a beth sy’n ddisgwyliedig ohona i.

“Yn sgil yr hyfforddiant, mae gen i fwy o syniad o’r hyn sy’n digwydd ym mhob elfen. Mae wedi fy helpu i deimlo’n fwy hyderus am y tasgau sydd gen i yn fy mhrentisiaeth heddiw.”

Yn ogystal â darparu profiad ar y safle, roedd y Cwad wedi helpu i gynnal twf yn y gymuned.

“Roedd cyfleoedd hyfforddi i drigolion lleol wedi helpu i sicrhau twf yn yr ardal yma, ac wedi sefydlu economi gylchol,” meddai Norma.

“Roedd y busnesau a’r cyflogwyr wedi elwa o’r sgiliau a’r hyfforddiant a roddwyd i’r trigolion, a oedd o fudd i’r ardal leol.”

Effeithiol

“Mae’r ‘Cwad Gwybodaeth’ yn enghraifft dda o fynd i’r afael â’r galw am sgiliau adeiladu ar lefel leol,” meddai Sarah Peace, Cynghorydd Ymgysylltu CITB.

“Mae hyn yn rhan allweddol o Gynllun Busnes CITB, a gyhoeddwyd ym mis Mai.

“Gweld canran mor uchel o fyfyrwyr yn dod o hyd i swyddi adeiladu yn eu hardal leol yw hanfod hyfforddiant effeithiol.

“Roedd y prosiect yma’n darparu gwaith theori – a phrofiad ar y safle – i sicrhau bod y myfyrwyr yn barod ar gyfer byd gwaith wrth ddechrau ar eu swyddi.

“Fe hoffwn i longyfarch pawb sy’n ymwneud â’r prosiect. Rwy’n gobeithio y bydd y myfyrwyr sydd wedi cael hyfforddiant yn y ‘Cwad Gwybodaeth’ yn mwynhau gyrfaoedd adeiladu sy’n rhoi llawer o foddhad, a bod y prosiect yn ysbrydoli busnesau a darparwyr dysgu eraill.”

Cipolwg

Cwmni: Grŵp Morgan Sindall

Sector: Adeiladu

Yr Her: Mynd i’r afael â’r galw am sgiliau adeiladu yn y gymuned drwy wella sgiliau unigolion.

Yr Ateb: Partneriaeth – a ddarperir gan Gyngor Sir Swydd Buckingham gyda CITB, Buckinghamshire College Group ac ABC Assessment Centre – a oedd wedi creu cyfleuster hyfforddi a dysgu amlbwrpas yn Aylesbury.

Effaith: Llwyddodd 90% o’r myfyrwyr i gael swydd ym maes adeiladu. Yn gyffredinol, roedd y Cwad yn bont i fyd gwaith, yn gwneud y trigolion yn fwy cyflogadwy, ac yn cynnig hyfforddiant o ansawdd uchel ar y safle.