Facebook Pixel
Skip to content

Datgloi dyfodol digidol y diwydiant adeiladu: Cynllun sgiliau ar gyfer y diwydiant

Mae gan dechnoleg ddigidol y potensial i drawsnewid adeiladu - ond dim ond os yw'r sector yn meddu ar y sgiliau a'r wybodaeth gywir.

Mae'r adroddiad hwn yn dangos sut y gall technolegau modern godi cynhyrchiant, cynyddu effeithlonrwydd a helpu i ddenu pobl i'r sector. Heb fabwysiadu'r byd digidol ar lefel eang, mae'r diwydiant adeiladu mewn perygl o gael ei ymyleiddio a cholli cenhedlaeth o dalent newydd i sectorau eraill.

Canfu'r adroddiad:

  • Mae adeiladu digidol yn derm cymhwysfawr a ddeallir i olygu pethau gwahanol gan bobl wahanol. Mae'r diffyg consensws hwn yn rhan o'r broblem: dylai diwydiant fod yn glir ar beth mae adeiladu digidol yn ei olygu, y ffordd orau i'w ddefnyddio a pha sgiliau sydd gan gyflogeion - a pha rai y bydd arnynt eu hangen.
  • Nid yw llawer o'r dechnoleg sy'n cael ei defnyddio ar flaen y gad o ran yr hyn sydd ar gael. Mae technoleg arloesol - os yw'n cael ei defnyddio o gwbl - wedi'i gyfyngu'n gyffredinol i beilotiaid neu dreialon bach. Bydd rhannu arfer gorau yn helpu diwydiant i ddatblygu dealltwriaeth o werth digidol a'r sgiliau a'r hyfforddiant sydd eu hangen.
  • Mae data a dulliau ei gasglu, cyfathrebu a rheoli'n effeithiol yn ganolog i drawsnewid digidol.
  • Nid yw'r sgiliau sy'n benodol i dechnoleg yn broblem - mae angen mynd i'r afael â'r sgiliau a'r cymwyseddau ehangach ar lefelau gwahanol.

Yn dilyn canfyddiadau'r papur gwyrdd, mae CITB yn ymrwymo i raglen o gymorth, gan gynnwys cyllid wedi'i dargedu, i helpu i ddiwallu'r her sgiliau i alluogi digidoleiddio'r sector.

Gwyliwch y fideo hwn sy'n amlygu'r arfer gorau digidol yn y diwydiant.