Need alert text adding
Need alert text adding
Need alert text adding
Need alert text adding
Cyflogi Prentis yng Nghymru
Ar y dudalen hon:
- Trosolwg
- Beth yw prentisiaethau
- Cymorth ariannol sydd ar gael i helpu
- Dewis y pobl gorau i'ch busnes
- Sur i gyflogi prentis
- Sut i ddod o hyd i'r darparwr hyfforddiant cywir
- Sut i gael cefnogaeth drwy gydol prentisiaeth
- Mae prentisiaethau Cymru yn newid
Trosolwg
Ni fu erioed amser gwell i gyflogi prentis gyda chymorth gan CITB a’r Llywodraeth. Bydd y wybodaeth isod yn rhoi gwybod i chi am bopeth sydd angen i chi ei wybod am y broses o gyflogi prentis, a sut y gall CITB eich helpu ar hyd y ffordd.
Mae prentisiaeth yn cyfuno dysgu gyda darparwr hyfforddiant neu yn y coleg gyda phrofiad ar y safle i roi’r cymysgedd cywir o sgiliau technegol ac ymarferol i brentisiaid ddod yn aelod gwerthfawr a chynhyrchiol o’r tîm mewn unrhyw fusnes adeiladu.
Mae prentisiaethau’n helpu i ddiogelu’r diwydiant ar gyfer y dyfodol ac maent yn darparu ffordd wych o sicrhau gweithlu medrus ac amrywiol yn y dyfodol.
“Mae prentisiaethau’n hanfodol i lwyddiant ein diwydiant yn y dyfodol gan eu bod yn rhoi’r sgiliau a’r cymwysterau sydd eu hangen ar bobl ifanc i ddatblygu.
Mae gan y cyfuniad o hyfforddiant yn y gwaith a dysgu yn yr ystafell ddosbarth hanes o lwyddiant.”
Anwyl Homes
Beth yw prentisiaethau?
Mae prentisiaeth, sy'n gorfod para am o leiaf 12 mis, yn cyfuno gwaith ymarferol gyda'r cyfle i hyfforddi a chael cymwysterau. Mae amser prentisiaid fel arfer yn cael ei rannu gydag 20% gyda darparwr hyfforddiant – fel coleg – a’r 80% sy’n weddill yn cael ei dreulio gyda’r cyflogwr.
Ar ddiwedd y brentisiaeth, mae'r prentis yn cael ardystiad swyddogol, a fydd yn cyfateb i gymwysterau traddodiadol. Mae’r cyflogwr yn cael gweithiwr ymroddedig, brwdfrydig am ffracsiwn o gost aelod arferol o staff – ac mae’n debygol y bydd gweithiwr newydd hefyd gan fod mwyafrif y prentisiaid yn aros gyda’u cyflogwr ar ôl eu prentisiaeth.
Beth yw'r gwahanol fathau o brentisiaethau a hyfforddiant? (NEW title and new senetence(s) needed)
1
2
3
4
Gallwch ddarganfod mwy am brentisiaethau ar Am Adeiladu
Cymorth ariannol ar gael i helpu
Mae prentisiaethau yn fuddsoddiad ariannol gwych. Mae gweithiwr sydd wedi cwblhau prentisiaeth yn ddiweddar yn cynyddu cynhyrchiant yn ei fusnes £214 yr wythnos.
Gall busnesau micro, bach a chanolig elwa o gyllid o 95% tuag at gostau hyfforddiant prentisiaeth trwy grantiau’r Llywodraeth.
Rydym yma i gefnogi busnesau adeiladu o bob maint gyda hyfforddiant, recriwtio a chyllid - gan sicrhau bod prentisiaethau yn parhau i gynrychioli gwerth da am arian i gyflogwyr.
Cymorth ariannol CITB
I gael cymorth ariannol gan CITB, mae'n rhaid i chi ddefnyddio darparwr hyfforddiant prentisiaeth gymeradwy sydd â chontract uniongyrchol â Llywodraeth Cymru.
Canfod darparwr hyfforddiant prentisiaeth gymeradwy.
Mae pob cwmni adeiladu sydd wedi cofrestru gyda CITB, hyd yn oed y rhai nad ydynt yn talu’r Lefi, yn gymwys i gael:
- Grant presenoldeb CITB o £2,500 y prentis y flwyddyn
- Grant cyflawniad CITB o £3,500 y prentis, sy'n cael ei ddyfarnu ar ôl i brentisiaeth gael ei chwblhau'n llwyddiannus.
Os yw prentis yn cwblhau rhaglen brentisiaeth 3 blynedd gallech gael £11,000 mewn grantiau CITB yn unig.
Sut i hawlio grantiau
Os mai ni yw eich darparwr prentisiaeth, bydd eich Swyddog Prentisiaeth benodol yn eich helpu i gwblhau eich cais yn gywir.
Os nad ni yw eich darparwr hyfforddiant, cwblhewch y ffurflen gais am grant prentisiaeth a’i e-bostio i customer.servicesYNET@citb.co.uk.
Os byddwn yn cael y gwaith papur cywir cyn pen 20 wythnos o ddechrau'r brentisiaeth, byddwn yn dechrau gwneud eich taliadau grant, wedi'u hôl-ddyddio i'r dyddiad dechrau hwn.
Telir eich grant presenoldeb yn awtomatig bob 13 wythnos.
Gallwch wneud cais am grantiau ar gyfer unigolion a gyflogir yn uniongyrchol yn unig.
Teithio i Hyfforddi
Mae cyllid ychwanegol ar gael hefyd os oes angen i'ch prentis deithio i gwblhau ei gymhwyster. Byddwn yn ariannu 80% o gostau llety ar gyfer prentisiaid sy’n mynd i golegau neu at ddarparwyr hyfforddiant lle mae angen aros dros nos a theithio yn ôl ac ymlaen o westy i fan hyfforddi.
Yn ogystal, gall cyflogwyr hawlio costau ychwanegol ar gyfer teithiau prentis os yw’r gost yn fwy na £30 yr wythnos.
- Telir grant teithio ar gyfer teithio i'r coleg neu at ddarparwr hyfforddiant ac oddi yno. Mae teithio i ac o weithle prentis wedi’i eithrio
- Mae prentisiaid sydd mewn llety yn gymwys ar gyfer costau teithio dwyffordd i'r llety o'u cartref ar gyfer pob cyfnod o hyfforddiant.
Gallwch wneud cais am y cyllid hwn os ydych wedi cofrestru gyda ni a bod eich prentis yn gymwys ar gyfer grant presenoldeb prentis neu grantiau
Cymorth ariannol gan y Llywodraeth
Gall cymorth ariannol gan y Llywodraeth helpu:
- I gefnogi hyfforddiant ac asesu prentisiaeth
- Fel tâl anogaeth ar gyfer costau eraill.
Tâl anogaeth ar gyfer cyflogi pobl anabl
(NEEDS REJIGGING)
- £1,500 ar gyfer pob prentis newydd a gaiff ei recriwtio
- Gallwch hawlio hwn yn ychwanegol at y taliadau anogaeth uchod.
Cyfyngir taliadau i 10 dysgwr i bob busnes. Nid yw taliadau anogaeth yn berthnasol i brentisiaethau gradd.
Bydd y taliadau’n cael eu talu i’ch darparwr hyfforddiant, a byddwch yn ei gael ganddynt hwy.
Prentisiaethau yw’r ffordd ddelfrydol o ddod o hyd i staff a’u mowldio ar sail eich anghenion busnes – ond mae angen i chi ddewis y prentis iawn i chi.
Fel busnes, chi sydd wrth y llyw. Rydych chi'n gwybod y gofynion o ran hyfforddiant a sgiliau i ganiatáu i'ch busnes dyfu, lle mae'r blaenoriaethau recriwtio uchaf a gwerth dod o hyd i'r bobl iawn ar gyfer eich busnes a'ch tîm. Rydyn ni yma i'ch helpu chi i ddod o hyd i'r ymgeiswyr delfrydol, eu recriwtio a'u hyfforddi.
Llwybr i gyflogi prentis - Cymru (PDF, 433KB)
Pan fyddwch chi'n chwilio am yr ymgeisydd delfrydol hwnnw, cofiwch y tri phrif fantais y gall prentisiaeth eu cynnig i chi:
- Denu a datblygu'r dalent leol orau
- Cefnogi staff cyfredol i gael y sgiliau sydd eu hangen i symud drwy eich sefydliad
- Dod ag arbenigwyr i mewn i'ch cwmni i dyfu ac archwilio marchnadoedd newydd.
“Trwy gynnig hyfforddiant a datblygiad i’n prentis, roeddem yn gallu rhoi’r cyfle i weithiwr presennol ddatblygu yn ei yrfa, gan y gwyddom ei fod yn ddibynadwy ac â’r sgiliau a’r profiad angenrheidiol ar gyfer y rôl i.”
Pave Aways Ltd
Sut i gyflogi prentis
Gall dod o hyd i brentis a’i recriwtio fod yn syml – mae chwe cham allweddol: creu cyfrif Gwasanaeth Prentisiaethau, dewis rhaglen, dod o hyd i ddarparwr hyfforddiant, hysbysebu, cyfweld a chyflogi eich prentis.
Os oes arnoch angen cymorth pellach, mae ein tîm Ymgysylltu â Chwsmeriaid wrth law i'ch helpu bob cam o'r ffordd.
Y Gwasanaeth Prentisiaethau yw’r ganolfan ddigidol i’ch helpu chi i hysbysebu, rheoli ac olrhain eich swyddi gwag, yn ogystal â’ch helpu i recriwtio prentis.
Bydd pob prentis yng Nghymru yn dilyn Fframwaith Prentisiaethau cymeradwy. Maent yn sicrhau bod gan brentis y wybodaeth, y sgiliau a'r cymwysterau perthnasol.
Mae fframweithiau’n nodi’r gofynion mynediad, y lefelau sydd ar gael a chyfleoedd i ddatblygu, enghreifftiau o rolau, cymwysterau a geir ar ôl cwblhau’r brentisiaeth yn llwyddiannus, faint o amser y bydd yn ei gymryd i’w chwblhau ac unrhyw ddysg ychwanegol sydd ar gael.
I ddewis Fframwaith, meddyliwch am ba sgiliau a hyfforddiant a fyddai o fudd i'ch busnes, neu feysydd penodol yr hoffech eu hehangu.
Mae gan Lywodraeth Cymru fwy o wybodaeth am Fframweithiau Prentisiaeth.
Unwaith y byddwch wedi dewis cwrs, mae angen sefydliad arnoch i'w ddarparu.
Mae porth ar-lein y llywodraeth yn dangos y gwahanol ddarparwyr hyfforddiant sydd ar gael ar gyfer eich cwrs.
Mae ein hadran sut i ddod o hyd i’r darparwr hyfforddiant iawn yn rhoi’r holl wybodaeth sydd arnoch ei hangen.
Nesaf, bydd angen i chi ddod o hyd i'r ymgeisydd delfrydol ar gyfer eich swydd wag.
Sut i ysgrifennu hysbyseb swydd prentisiaeth
Cyn llunio hysbyseb prentis, dyma rai pethau allweddol y bydd angen i chi wybod:
- Enw’r hysbyseb – rhaid i hwn ymwneud â’r hyfforddiant prentisiaeth a dylech ddefnyddio’r gair ‘prentis’ neu ‘prentisiaeth’.
- Yr hyfforddiant y bydd y prentis yn ei gwblhau
- Darparwr hyfforddiant a fydd yn darparu'r hyfforddiant
- Nifer y swyddi sydd ar gael
- Enw, cyfeiriad a lleoliad eich sefydliad
- Y dyddiad dechrau, dyddiad cau'r cais ac a yw'r swydd yn hyderus o ran anabledd
- Sgiliau a dyletswyddau sy'n ofynnol gan y prentis
- Hyd y brentisiaeth a manylion wythnos waith arferol
- Cyflog y byddwch yn ei gynnig.
Bydd hysbyseb wych yn hyrwyddo'ch cwmni ac yn annog y bobl orau sydd â'r sgiliau a'r rhinweddau cywir i wneud cais.
Yn ogystal â’r uchod, rhannau allweddol hysbyseb prentisiaeth yw’r fanyleb bersonol a’r disgrifiad swydd:
- Dylai manyleb bersonol gynnwys meini prawf gwybodaeth hanfodol a dymunol, profiad blaenorol a'r sgiliau penodol yr ydych yn chwilio amdanynt yn yr ymgeisydd llwyddiannus
- Dylai disgrifiad swydd gynnwys teitl y swydd, prif ddyletswyddau a phwrpas y rôl, gwybodaeth am y cwmni a lleoliad y swydd.
Lawr lwythwch ein templed hysbyseb prentisiaeth fel man cychwyn
Sut i hysbysebu eich prentisiaeth wag
Mae pob prentisiaeth wag yng Nghymru yn cael ei rheoli drwy’r Gwasanaeth Prentisiaethau Gwag. Mae wedi'i gynllunio i:
- Eich helpu i hysbysebu, rheoli ac olrhain eich swyddi gwag
- Eich helpu i recriwtio prentis
- Caniatáu i brentisiaid y dyfodol chwilio am swyddi gwag.
Mae'n cynnwys dangosfwrdd rhyngweithiol sy'n eich galluogi i gadw golwg ar swyddi gwag a cheisiadau, yn ogystal â phroffiliau cyflogwyr i roi cipolwg o'ch busnes i ddarpar ymgeiswyr.
Gallwch naill ai ddefnyddio ffurflenni’r gwasanaeth neu ein templed i hysbysebu eich swyddi prentisiaeth gwag.
Mae'r gwasanaeth yn gwbl ddwyieithog, sy'n eich galluogi i lwytho cyfleoedd yn Gymraeg neu Saesneg.
Er y gall cyflogi prentis fod yn broses gymharol debyg i recriwtio unrhyw aelod arall o staff – gall y cyfweliadau fod yn dra gwahanol.
Mae cyfweliadau swyddi traddodiadol yn ymwneud â gwerthuso profiad, sgiliau a gwybodaeth y rhai sy'n cael eu cyfweld sydd eisoes yn bodoli, tra bod cyfweld â phrentis yn ymwneud â deall eu potensial.
Wrth recriwtio ar gyfer prentis, mae’n bwysig cofio y gallai hwn fod yn gyfweliad cyntaf un ymgeisydd. Bydd angen i chi fabwysiadu agwedd hyblyg – canolbwyntio ar eu brwdfrydedd a’u hawydd i ddysgu, ac a yw eu cymhellion a’u hagwedd yn cyd-fynd â’ch busnes.
Gyda hyn mewn golwg, dyma rai cwestiynau cyfweliad enghraifft y gallech chi eu gofyn:
- Pam rydych chi wedi dewis y llwybr prentisiaeth?
- Pam rydych chi'n angerddol am y swydd hon?
- Ble ydych chi'n gweld eich hun ymhen pum mlynedd?
- Pa gyflawniad ydych chi fwyaf balch ohono a pham?
- Mae prentisiaethau yn swydd ac yn golygu cyfnod o astudio, sut fyddech chi'n rheoli'ch amser?
- Pam rydych chi eisiau gweithio yma?
- A oes gennych chi unrhyw brofiad – naill ai yn y gwaith neu’r ysgol – yn y math hwn o rôl?
- Disgrifiwch broblem neu her rydych chi wedi gorfod delio â nhw
- Beth ydych chi'n ei ddeall am yr hyn rydym ni'n ei wneud yma?
I gael rhagor o gyngor ar gyfweld a recriwtio prentisiaid yn y ffordd gywir, mae modiwl yr Ysgol Cynaliadwyedd y Gadwyn Gyflenwi ar yn dweud popeth sydd angen i chi ei wybod.
Unwaith y byddwch wedi dewis yr unigolyn gorau ar gyfer eich busnes, bydd angen i chi lofnodi cytundeb dysgu prentisiaeth gyda nhw – sy’n gweithredu fel contract rhwng y cyflogwr, y darparwr hyfforddiant a’r prentis.
Cyfrifoldeb y darparwr hyfforddiant yw trefnu’r cytundeb dysgu prentisiaeth.
Mae hyn yn cynnwys hyd y gyflogaeth, yr hyfforddiant a ddarperir, eu hamodau gwaith a'r cymwysterau y byddant yn gweithio tuag atynt.
Llongyfarchiadau, mae gennych chi brentis newydd!
Gall dechrau prentisiaeth fod yn gyffrous ac yn frawychus, yn enwedig os mai dyma yw eu profiad cyntaf yn y byd gwaith. Helpwch nhw i deimlo’n rhan o’r tîm a gwnewch yn siŵr eu bod yn gyfarwydd â’u cwrs hyfforddiant a’r hyn a ddisgwylir ganddynt.
Mae Ysgol Cynaliadwyedd y Gadwyn Gyflenwi (SCSS) yn darparu cyfres o adnoddau Tegwch, Cynhwysiant a Pharch (FIR) yn rhad ac am ddim sy'n anelu at wneud y gweithle'n well i bawb.
Maent yn helpu cyflogwyr i ymgorffori amrywiaeth mewn busnesau adeiladu a recriwtio'r ffordd deg. Mae’r adnoddau, yr hyfforddiant a’r canllawiau rhad ac am ddim nid yn unig yn helpu cwmnïau i ddod yn fwy arloesol drwy fynd i’r afael â heriau yn y gweithle, ond hefyd yn cynyddu eu proffidioldeb trwy helpu i ddenu a gweithwyr o gronfa ehangach o dalent a'u cadw.
“Mae’n bwysig i B Price ein bod yn recriwtio’r bobl iawn i’n busnes, ein bod yn eu cefnogi ym mhob ffordd y gallwn, yn cynnig hyfforddiant o’r radd flaenaf ar y safle i’n holl weithwyr ac yn sicrhau ein bod yn cadw ar y blaen â’r gofynion iechyd a diogelwch sy’n newid yn barhaus.
Drwy gyflogi prentisiaid rydym yn cadw staff da ac mae’r busnes yn elwa o gael staff dibynadwy ac ymroddedig y mae eu gwaith bob amser o'r safonau uchaf.”
B Price Ltd
Sut i ddod o hyd i'r darparwr hyfforddiant cywir
Mae angen tri pharti ar hyfforddiant prentisiaeth: yr unigolyn sy'n cwblhau'r brentisiaeth, y cyflogwr a darparwr hyfforddiant prentisiaeth a gymeradwyir gan y Llywodraeth.
Yr allwedd i brentisiaethau llwyddiannus yw dod o hyd i'r darparwr/darparwyr hyfforddiant cywir.
Mae rhwydwaith o ddarparwyr hyfforddiant Dysgu'n Seiliedig ar Waith (DSW) wedi’u cymeradwyo gan y Llywodraeth ledled Cymru.
Mae’n hollbwysig eich bod yn dewis darparwr sy’n deall eich uchelgeisiau ar gyfer y busnes ac sy’n gwybod sut i sicrhau eich bod yn cyrraedd lle rydych chi eisiau bod.
I ddewis darparwr hyfforddiant WBL, defnyddiwch wasanaeth hyfforddiant prentisiaeth SkillsGateway.
Mae'r gwasanaeth yn eich galluogi i:
- Dewis cwrs hyfforddiant prentisiaeth
- Dewis cwrs ar y lefel a'r sgiliau cywir
- Gwirio argaeledd darparwyr hyfforddiant WBL yn y lleoliad prentisiaeth
- Edrych ar adolygiadau cyflogwyr
- Rhannu eich diddordeb mewn cwrs hyfforddiant prentisiaeth gyda'r holl ddarparwyr hyfforddiant WBL..
Nid oes rhaid i'ch darparwr hyfforddiant WBL fod wedi'u lleoli gerllaw gan fod llawer ohonynt yn genedlaethol ac yn cynnig hyfforddiant yn eich gweithle ac
ar-lein.
Pethau i'w hystyried
Mae dewis darparwr hyfforddiant sy’n addas ar gyfer eich busnes yn bwysig iawn.
Ystyriwch bethau fel:
- Pa mor dda y maent yn cyfathrebu â chi am yr hyfforddiant
- Beth mae cyflogwyr eraill yn ei ddweud amdanynt
- Mae gan eu hyfforddwyr yr arbenigedd perthnasol i hyfforddi eich staff
- Byddant yn teilwra'r hyfforddiant i weddu i'ch busnes ac aelodau unigol o staff
- Cydnabyddiaeth o'u hansawdd trwy wobrau allanol
- Adroddiad Estyn diwethaf y darparwr WBL
- Maent yn glir ynghylch yr hyn a ddisgwylir gennych chi fel cyflogwr.
Gofynnwch gwestiynau i'r darparwr hyfforddiant - gofynnwch iddynt helpu!
Gweithio gyda'ch darparwr hyfforddiant
Gall eich darparwr hyfforddiant roi cymaint o help a chefnogaeth ag sydd ei angen arnoch pan fyddwch yn cyflogi prentis.
Chi sydd i benderfynu sut rydych chi'n cydweithio. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, gofynnwch iddynt.
Os ydych yn ansicr, o hyd gallwch gysylltu â ni.
Gall eich darparwr hyfforddiant eich helpu i:
- Ddod o hyd i'r hyfforddiant cywir
- Cyfweld a recriwtio prentisiaid
- Helpu i baratoi eich prentis ar gyfer y gweithle
- Gwneud yn siŵr bod eich prentis yn dysgu'r sgiliau perthnasol ar gyfer eich busnes.
Yn y pen draw, eu busnes nhw yw hyfforddiant - mae eu henw da yn y fantol. Bydd y darparwr cywir yn eich arwain drwy'r broses ac yn archwilio pwy fydd yn cyflwyno pob agwedd ar yr hyfforddiant. Yna byddant yn creu ac yn darparu rhaglen hyfforddiant sy'n bodloni anghenion eich sefydliad a'ch staff.
Mae'n bwysig cadw mewn cysylltiad â'r darparwr hyfforddiant i sicrhau bod eich prentis yn datblygu'n dda. Byddant wrth law i gynnig cymorth a chyngor drwy gydol y broses.
Rydym yn darparu'r cymorth ymarferol gorau i wneud popeth mor syml â phosibl i chi a'ch prentis.
Gallwn helpu gyda chostau, cyngor a chymorth drwy neilltuo un o'n hymgynghorwyr i wneud eich profiad yn un llwyddiannus.
Rydym yn cydnabod mai un o’r rhwystrau mwyaf sy’n atal SME rhag cyflogi prentisiaid yn aml yw diffyg amser – dyna pam mae ein Tîm Ymgysylltu â Chwsmeriaid wrth law i’ch helpu chi i ddod o hyd i ymgeiswyr dawnus, cynorthwyo gyda threfnu hyfforddiant a gofalu am y gwaith papur.
Mae peth o’r cymorth y gallwn ei gynnig i chi yn cynnwys:
- Rhoi cyngor ar ofynion mynediad prentisiaeth
- Cynghori a chyfeirio at y safon brentisiaeth briodol sydd fwyaf addas i anghenion eich busnes
- Helpu gyda'r gofyniad i greu cronfa wrth gefn trwy eich cyfrif Gwasanaeth Prentisiaeth
- Rhoi cyngor ar ba grantiau prentisiaeth sydd ar gael gan gynnwys taliadau anogaeth y Llywodraeth, yn ogystal ag unrhyw fentrau lleol
- Rhoi arweiniad a chymorth ar gwblhau ffurflenni hawlio grant, gan gynnwys sut i gyflwyno a hawlio grant
- Eich cynorthwyo gyda dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ffurflenni hawlio grant er mwyn osgoi gwrthodiadau, ac os oes angen, darparu gwybodaeth am y broses apelio
- Dod o hyd i'r darparwyr hyfforddiant yn eich ardal leol a'ch cyflwyno iddynt
- Eich cefnogi gyda hawlio grant cyflawniad ar ôl cwblhau'r brentisiaeth.
Cysylltwch â’r tîm Ymgysylltu â Chwsmeriaid a byddwn yn eich rhoi mewn cysylltiad ag ymgynghorydd lleol. Rydym ni yma i'ch cefnogi chi ac i helpu'ch busnes dyfu customerengagement@citb.co.uk
Fel arall, dewch o hyd i'ch ymgynghorydd lleol isod:
“Rydym yn credu’n gryf mewn prentisiaethau yn V&C. Prentisiaid yw ein dyfodol a byddant yn helpu'r busnes i dyfu a dod yn gryfach.
Mae wedi bod yn broses syml. Mae’r wefan yn gyflym ac yn hawdd i’w defnyddio a gallaf gael ateb gan rhywun ar y llinell gymorth ar unwaith.”
V&C Ltd
Mae prentisiaethau Cymru yn newid
O fis Medi 2022 ymlaen, bydd prentisiaethau adeiladu yng Nghymru yn wahanol a bydd gan gyflogwyr yng Nghymru rôl ehangach o ran eu darparu.
Bydd cyflogwyr yn cael eu hannog i recriwtio prentisiaid yn uniongyrchol o ddarpariaeth amser llawn a byddant hefyd yn chwarae mwy o ran yn y broses o gymeradwyo eu cymhwysedd ar ddiwedd eu cwrs.
Mae CITB yn gweithio gyda phartneriaid gan gynnwys City and Guilds i baratoi cyflogwyr yng Nghymru ar gyfer y newidiadau hyn a sicrhau bod ganddynt yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnynt.
Rhagor o wybodaeth
Beth yw prentisiaeth?
- Mae prentisiaethau yn swyddi sy’n cynnwys cymwysterau cydnabyddedig a sgiliau sy’n benodol i swydd
- Maent yn cyfuno dysgu mewn coleg neu ddarparwr hyfforddiant gyda phrofiad ar y safle, er mwyn rhoi’r cymysgedd iawn o sgiliau technegol ac ymarferol i brentisiaid
- Mae prentisiaid yn ennill cyflog wrth weithio ac yn cael eu cyflogi i wneud swydd wrth astudio am gymhwyster ffurfiol - mae nifer o gymwysterau yn rhan o'r fframwaith prentisiaeth
- Mae prentisiaid ym mhob rôl yn dilyn rhaglen astudio gymeradwy, sy’n golygu y byddant yn ennill cymhwyster sy’n cael ei gydnabod yn genedlaethol
- Mae gwahanol fathau a lefelau o brentisiaethau yn amrywio o Lefel 2 i Lefel 6
Pa newidiadau sy’n cael eu gwneud i fframweithiau prentisiaeth yng Nghymru?
- Aeth Cymwysterau Cymru ati i a chanfu y dylid gwneud nifer o newidiadau, er mwyn diwallu anghenion sgiliau cyflogwyr yng Nghymru yn well.
- Mae cyfres newydd o gymwysterau y gellir eu hariannu wedi cael ei datblygu, a fydd yn helpu i ddiogelu’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen yn y diwydiant yn y dyfodol.
- Bydd y cymwysterau newydd hyn, sydd wedi’u cynllunio gyda chyflogwyr, yn llai cymhleth, yn gwella canlyniadau dysgu ac yn sicrhau bod dysgwyr yn addas i symud ymlaen i’r gweithle modern.
- Mae CITB yn cefnogi’r newidiadau hyn yn llwyr ac wedi bod yn rhan o’r broses ddatblygu.
Pryd fydd y newidiadau hyn yn cael eu gwneud?
Mae’r cymwysterau amser llawn Sylfaen a Dilyniant newydd wedi cael eu dysgu mewn colegau o 01 Medi 2021 ymlaen. Bydd y cymwysterau Prentisiaeth Lefel 3 newydd yn dechrau o fis Medi 2022 ymlaen. Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi’r fframweithiau prentisiaeth newydd ddydd Llun 01 Awst 2022.
Fel cyflogwr yng Nghymru, beth yw fy nghyfrifoldebau yn y fframwaith prentisiaeth newydd?
- Mae gan gyflogwyr fwy o rôl yn y gwaith o ddarparu’r cymwysterau newydd, i weithio gyda phrentisiaid a’u cefnogi drwy gydol eu prentisiaeth. Bydd angen i chi wneud y canlynol:
- Gweithio gyda darparwyr hyfforddiant i arwain a chefnogi’r prentis ar hyd y daith
- Darparu cyfleoedd i’r prentis gyflawni gweithgareddau
- Cwrdd â darparwyr hyfforddiant i adolygu a chofnodi cynnydd prentisiaid
- Cefnogi’r prentis i lunio portffolio tystiolaeth
- Cadarnhau pan fydd y prentis wedi cyrraedd y safon ofynnol ar gyfer y grefft
- Cefnogi’r prentis i wneud cais am gerdyn cymhwysedd perthnasol y diwydiant
Fel cyflogwr, a allaf hawlio grant o hyd os byddaf yn cymryd prentis?
Mae CITB yn parhau i ddarparu cyllid grant i gyflogwyr cymwys. Mae’r cyllid grant yn seiliedig ar hyd y brentisiaeth, a fydd yn amrywio yn dibynnu ar yr alwedigaeth ynghyd â grant cyflawniad a delir ar ôl cwblhau’r brentisiaeth yn llwyddiannus.
Pa gardiau CSCS y bydd prentisiaid yn gymwys i'w cael ar ddiwedd eu prentisiaethau?
Gellir cael manylion pa gardiau CSCS y bydd y crefftau yr effeithir arnynt yn eu hennill ar wefan Cymwysterau Cymru.
Deall y Cymwysterau a'r Fframweithiau Prentisiaeth newydd
Mae prentisiaethau’n darparu’r gweithwyr medrus sydd eu hangen ar gyflogwyr ar gyfer y dyfodol. Mae prentisiaethau yng Nghymru yn swyddi sy'n cynnwys cymwysterau cydnabyddedig a sgiliau sy’n benodol i swydd. Mae City & Guilds a EAL wedi bod yn gweithio gyda chyflogwyr yn y sector amgylchedd adeiledig ledled Cymru i ddatblygu cymwysterau newydd fel bod dysgwyr yn fwy hyderus ac yn barod am y gweithle.
Mae hyfforddi a datblygu prentisiaid ar draws y sector adeiladu yn cael ei gymryd o ddifrif ac mae hyn wedi’i gynllunio i sicrhau eich bod yn deall y newidiadau i’r fframweithiau prentisiaeth a chymwysterau a rolau a chyfrifoldebau’r partneriaid sy’n ymwneud â’r newidiadau hynny.
- Llywodraeth Cymru – Cyfrifoldeb cyffredinol am addysg a hyfforddiant yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cyfeiriad strategol cyffredinol ar gyfer addysg a hyfforddiant safonau prentisiaeth. Maent yn gyfrifol am gymeradwyo, cyhoeddi ac ariannu fframweithiau prentisiaethau.
- – mae’n rheoleiddio cymwysterau sy’n cael eu datblygu a’u darparu gan y cyrff dyfarnu cydnabyddedig sy’n cynnwys City & Guilds a EAL. Mae Cymwysterau Cymru yn gorff statudol annibynnol, a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Mae hyn yn golygu bod unrhyw benderfyniad a phob penderfyniad a chyfeiriad ynghylch cymwysterau newydd (yng Nghymru) yn cael eu gwneud gan Cymwysterau Cymru gan gynnwys y Cymwysterau Prentisiaeth Adeiladu newydd. Mae hefyd yn golygu eu bod yn goruchwylio'r safonau y dyfernir cymwysterau iddynt. Mae dileu’r cymwysterau fframwaith prentisiaeth lefel 2 (NVQ a Diploma) ar gyfer prentisiaethau yn benderfyniad gan Cymwysterau Cymru yn dilyn adolygiad 2018 o Gymwysterau Adeiladu a gynhaliwyd gan Cymwysterau Cymru.
- City & Guilds & EAL - yw'r ddau gorff dyfarnu a benodwyd gan Cymwysterau Cymru ac sydd wedi dod at ei gilydd i gydweithio ar ddatblygu a chynnwys y cymwysterau peirianneg adeiladu a gwasanaethau adeiladu newydd i Gymru. Cynlluniodd y ddau gorff dyfarnu'r gyfres o gymwysterau yn erbyn y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol. Mae'r ddau gorff dyfarnu cydnabyddedig yn cael eu monitro gan Cymwysterau Cymru i wirio eu bod yn cynnal y safonau gofynnol ac yn darparu cymwysterau'n effeithiol.
- Darparwr Dysgu’n Seiliedig ar Waith – Sefydliadau sydd wedi’u cymeradwyo gan Lywodraeth Cymru i ddarparu prentisiaethau yng Nghymru. Dyma’r sefydliad sy’n gyfrifol am gefnogi cyflogwyr gyda’u gwaith recriwtio a monitro prentisiaethau. Mae’n cynnwys cysylltu â'r coleg/canolfan hyfforddi i sicrhau cynnydd y prentis. Maent yn gyfrifol am holl ofynion fframwaith y brentisiaeth.
- Coleg/Canolfan Hyfforddi – sefydliad a fydd yn addysgu ac yn asesu prentisiaid ar gydrannau unigol fframweithiau’r brentisiaeth. Hwy yw'r sefydliad sy'n gyfrifol am gymeradwyo cymhwysedd y prentisiaid yn erbyn y safonau a osodwyd gan y corff dyfarnu.
- CITB – Corff arweiniol y diwydiant a gefnogodd Lywodraeth Cymru a Cymwysterau Cymru i ymgysylltu â diwydiant a rhanddeiliaid a chynnal ymgynghoriad ar y cymwysterau a’r fframweithiau newydd trwy’r Grŵp Cynghori ar Ddatblygu Fframwaith. Mae’r grŵp hwn sy’n cael ei hwyluso gan CITB yn cynnwys Cwmnïau Adeiladu, cyrff a ffederasiynau sy’n cynrychioli’r diwydiant, cynrychiolwyr a enwebwyd gan NTFW a Cholegau Cymru a Darparwyr Colegau, cynrychiolwyr Llywodraeth Cymru, CADW, Cynrychiolaeth Undebau a chyrff Dyfarnu. Mae CITB hefyd yn cefnogi’r sector i ddeall effaith y cymwysterau newydd.
Ble mae cael rhagor o wybodaeth a chymorth?
Mae gwefan Sgiliau i Gymru wedi cael ei datblygu fel un ffynhonnell wybodaeth ar gyfer cyflogwyr, dysgwyr a darparwyr hyfforddiant yng Nghymru. Mae’r adran Cyflogwyr yn cynnwys Canllaw Cadarnhad y Cyflogwr gyda manylion i’ch cefnogi drwy’r broses gyfan.