Facebook Pixel
Skip to content

Sut i ddod o hyd i brentis a'i recriwtio

Mae prentisiaeth yn cyfuno dysgu mewn coleg/darparwr hyfforddiant gyda phrofiad ar y safle i roi’r cymysgedd cywir o sgiliau technegol ac ymarferol i brentisiaid.

Pam ddylech chi gyflogi Prentis?

Prentisiaethau yw sylfaen y diwydiant adeiladu. Maent yn paratoi'r genhedlaeth nesaf o weithwyr adeiladu ac yn opsiwn cyffrous i'r prentis a'r cyflogwr.

Gallwch gyflogi prentisiaid ar wahanol lefelau, o'r rhai sy'n gadael yr ysgol a graddedigion prifysgol, i bobl sydd eisiau datblygu eu gyrfaoedd neu newid cyfeiriad gyrfa yn gyfan gwbl.

Nid yn unig y mae'r prentis yn elwa o'r profiad, rydych chi fel cyflogwr hefyd. Mae’n berthynas sydd o fudd i’r ddwy ochr sy’n helpu’r prentis i ddysgu a datblygu sgiliau newydd sy’n gwella’ch busnes yn uniongyrchol; helpu'r ddau i dyfu.

Gall prentisiaid fod o fudd i’ch busnes mewn sawl ffordd:

  • Rhoi chwa o awyr iach i’r busnes
  • Datblygu sgiliau penodol y mae ar eich busnes ei angen
  • Ffordd fwy cost effeithiol i recriwtio staff newydd
  • Ennill mwy o arian: Dywed 78% o gyflogwyr bod prentisiaid yn gwella eu cynhyrchiant
  • Mae pâr arall o ddwylo’n eich galluogi i gymryd mwy o waith
  • Diogelu dyfodol eich busnes
  • Gall prentisiaethau gael eu teilwra’n hyblyg i anghenion y busnes
  • Gall cyflogi Prentis ddysgu sgiliau newydd i’ch gweithlu cyfan
  • Egni, brwdfrydedd a chymhelliant – mae prentisiaid yn dod â’r tri
  • Dennu talent y dyfodol gorau posibl

Gall y prentis cywir fod o fudd i'ch busnes heddiw. Os oes arnoch angen cymorth i recriwtio prentis, gall un o’n Cynghorwyr Ymgysylltu â Chwsmeriaid eich arwain drwy’r broses gyfan.

Anfonwch e-bost at customerengagement@citb.co.uk gan roi enw eich cwmni, lleoliad a manylion cyswllt eich cwmni, a bydd aelod o’r tîm yn cysylltu â chi.