Cronfa Sgiliau a Hyfforddiant ar gyfer busnesau adeiladu canolig
Pwrpas y gronfa
Nod y gronfa Sgiliau a Hyfforddiant yw galluogi cwmnïau adeiladu canolig (sy'n cyflogi hyd at 250 aelod o staff yn uniongyrchol) i wella eu rhaglen hyfforddiant fel ei fod yn bodloni anghenion mwy cymhleth busnes sy’n datblygu. Gall hyn gynnwys hyfforddiant rheoli ac arwain, gan eich helpu i hybu twf drwy dechnoleg newydd neu drwy gyflwyno sgiliau newydd i wella cynhyrchiant yn eich busnes. Trowch at y Nodiadau Cyfarwyddyd (PDF 187KB) am fanylion pellach.
Sylwer: Er mwyn rheoli gostyngiad sylweddol yn y gyllideb sydd ar gael i gefnogi’r cronfeydd hyn yn 2020/21, dim ond y ceisiadau sy’n cael y sgoriau uchaf y bydd modd eu cefnogi bob mis. Er mwyn i chi gael gwell siawns o lwyddo, darllenwch y nodiadau cyfarwyddyd yn ofalus, gan ateb pob cwestiwn yn llawn a pheidiwch â mynd dros eich lwfans cyllido.
Pwy all wneud cais am gyllid?
Gallwch wneud cais os:
- ydych chi’n gyflogwr sydd wedi cofrestru gyda CITB
- oes rhwng 100 a 250 aelod o staff sy’n cael eu cyflogi’n uniongyrchol trwy'r system gyflogau
- oes unrhyw brosiect blaenorol y talwyd amdano gan y gronfa Sgiliau a Hyfforddiant wedi’i gymeradwyo fel prosiect sydd wedi’i gwblhau.
Gallwch wneud cais am gyllid unwaith bob 12 mis.
Faint o arian gallaf wneud cais amdano
Gall cyflogwyr sydd wedi cofrestru gyda CITB wneud cais am gyllid sy’n ymwneud â faint o weithwyr uniongyrchol sydd ganddynt.
- Gall cyflogwyr gyda rhwng 100 a 149 o staff sy’n cael eu cyflogi’n uniongyrchol gael hyd at £15,000.
- Gall cyflogwyr gyda rhwng 150 a 199 o staff sy’n cael eu cyflogi’n uniongyrchol gael hyd at £20,000.
- Gall cyflogwyr gyda rhwng 200 a 250 o staff sy’n cael eu cyflogi’n uniongyrchol gael hyd at £25,000.
Cyn i chi wneud cais
Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen a deall y dogfennau hyn
- Telerau cyllido ar gyfer y gronfa Sgiliau a Hyfforddiant
- Telerau bidio ar gyfer y gronfa Sgiliau a Hyfforddiant
- Nodiadau cyfarwyddyd (PDF 193KB)
Gallwch hefyd drafod eich cais gyda’ch Cynghorydd CITB lleol, a fydd yn hapus i helpu a sicrhau eich bod wedi llenwi eich ffurflen gais yn gywir a’ch bod wedi ateb pob cwestiwn yn glir e.e. Gwerth am Arian ac Ansawdd.
Sut mae gwneud cais
Cwblhewch y ffurflen gais Cronfa Sgiliau a hyfforddiant (Excel, 355KB)
Er mwyn cwblhau a chyflwyno’r ffurflen, dylech:
- Lawr lwytho’r ffurflen gais a’i harbed ar eich cyfrifiadur
- Cwblhau pob maes, a’i chadw’n rheolaidd rhag colli data
- Arbed y ffurflen a’i hanfon at skills.training@citb.co.uk
Beth fydd yn digwydd nesaf?
Bydd y tîm Sgiliau a Hyfforddiant yn adolygu ac yn sgorio pob cais ar ddiwedd pob ffenestr gyflwyno (fel arfer ar ddiwedd pob mis calendr).
Dylech gael penderfyniad gennym (drwy e-bost) tua’r 15fed o’r mis ar ôl i’ch cais gael ei gyflwyno e.e. os ydych yn cyflwyno cais yn ystod mis Gorffennaf, cewch benderfyniad gennym tua 15 Awst. Byddem yn gwerthfawrogi pe na baech yn holi am ymateb yn ystod y cyfnod hwn a byddwn yn rhoi gwybod i bawb cyn gynted â phosibl.
Bydd CITB yn adolygu ac yn sgorio pob cais yn erbyn meini prawf y gronfa (fel y nodir yn y Nodiadau Cyfarwyddyd). Bydd y ceisiadau sy’n cael y sgoriau uchaf bob mis yn cael eu cymeradwyo ar gyfer cyllid.
Wedi'i gymeradwyo: Mae eich cais yn bodloni meini prawf y gronfa Sgiliau a Hyfforddiant a bydd yn cael ei brosesu ar gyfer taliad.
Wedi'i wrthod: Ar sail yr wybodaeth a ddarparwyd, nid yw eich cais wedi sgorio’n ddigon uchel neu nid yw’n bodloni’r meini prawf ar gyfer y Gronfa Sgiliau a Hyfforddiant. Lle nad yw’n bodloni’r meini prawf, gallai hyn fod am amryw o resymau, fel:
- nid ydych wedi cyflwyno ffurflen lefi
- rydych chi ar ôl gyda'ch taliadau lefi
- nid ydych wedi cyflwyno digon o wybodaeth
- rydych yn gofyn am gyrsiau neu weithgareddau sydd y tu allan i feini prawf y gronfa.
Byddwn yn rhoi gwybod i chi pam ein bod wedi gwrthod eich cais neu’n rhoi gwybod drwy eich Cynghorydd CITB lleol. Gallwch ailgyflwyno cais gwell yn y misoedd nesaf, ond dim ond y ceisiadau sy'n cael y sgoriau uchaf bob mis fydd yn cael eu cymeradwyo ar gyfer cyllid.
Ar ôl i’r taliad gael ei gymeradwyo, gallwch ddechrau ar eich prosiect hyfforddi. Cofiwch gadw tystiolaeth o bob anfoneb a thystysgrif oherwydd bydd angen i chi eu cyflwyno i CITB i ddangos bod yr hyfforddiant wedi cael ei gynnal.
Ar ôl i’r holl hyfforddiant ddod i ben, bydd angen i chi ddychwelyd ffurflen gwblhau ynghyd â’r dystiolaeth angenrheidiol i CITB, ar: skills.training@citb.co.uk cyn pen 28 diwrnod o ddyddiad cwblhau eich prosiect. Os ydych chi’n cael anawsterau gyda’ch rhaglen hyfforddi, cysylltwch â ni i ofyn am estyniad o 6 mis.
Rydym ni’n deall y gall anghenion ac amgylchiadau busnes newid. Cysylltwch â ni cyn gynted ag y bo modd yn skills.training@citb.co.uk a gallwn drafod trefniadau amgen gyda chi. Gallai hyn arwain at ddychwelyd yr arian neu gytuno ar amserlen newydd ar gyfer yr hyfforddiant.
Efallai y byddwn yn dymuno cyhoeddi manylion eich prosiect ar ein gwefan unwaith y bydd y cyllid wedi’i gymeradwyo.
Efallai y byddwn yn gofyn am gael gweithio gyda chi i ddatblygu datganiadau i’r wasg, astudiaethau achos neu fideos hyrwyddo sy’n ymwneud â’ch prosiect naill ai yn ystod y cyfnod cyflawni, neu ar ôl ei gwblhau.