Cronfa Rheoli ac Arwain ar gyfer busnesau mawr
Ar y dudalen hon
Trosolwg
Gall CITB eich helpu i gael hyd at £50,000 o gyllid ar gyfer hyfforddiant i wella eich busnes. Rydym wedi ehangu ein cynnig cyllid ar gyfer busnesau mawr sy’n ceisio darparu hyfforddiant i’w staff.
Mae'r Gronfa Datblygu Rheoli ac Arwain ar gyfer busnesau mawr yn gronfa anghystadleuol. Bydd yn galluogi cwmnïau adeiladu mawr (gyda dros 250 o gyflogeion uniongyrchol) i fuddsoddi mewn datblygu sgiliau arwain, rheoli neu oruchwylio eu gweithlu.
Os ydych yn gyflogwr mawr sydd am ddarparu hyfforddiant rheoli ac arwain pwrpasol ar gyfer eich tîm, gallwch wneud cais i’n Cronfa Rheoli ac Arwain
Pwy all wneud cais i'r Gronfa Datblygu Rheoli ac Arwain?
I wneud cais, rhaid i chi fodloni'r meini prawf canlynol:
- Mae angen i'ch busnes gael o leiaf 250 o weithwyr uniongyrchol
- Bydd angen i chi fod wedi cyflwyno eich Ffurflen Lefi 2022
- Rhaid i daliadau lefi y flwyddyn gyfan fod yn gyfredol
- Un cais yn unig fesul busnes cysylltiedig (gweler y Nodiadau canllaw (PDF, 191KB) am esboniad pellach)
Beth yw manteision y Gronfa Datblygu Rheoli ac Arwain ar gyfer fy musnes?
Mae’r Gronfa Rheoli ac Arwain yn gynnig hyblyg a all helpu i gyfrannu at eich costau hyfforddiant rheoli ac arwain, gall eich helpu i wella rhaglen sy’n bodoli eisoes, datblygu un newydd, rhoi cynnig ar ddull darparu newydd neu ailadrodd rhaglen hyfforddi bresennol i garfannau newydd.
Bydd y cyfle ariannu hwn yn eich galluogi i gyflwyno hyfforddiant i'ch tîm, yn seiliedig ar eich anghenion busnes yn unig.
Faint y gallwch chi ymgeisio amdano?
Gallwch wneud cais am hyd at £50,000. Bydd y gronfa'n cefnogi ystod eang o weithgareddau datblygu rheoli ac arwain, gan gynnwys rhaglenni hyfforddi allanol neu fewnol, cymwysterau arweinyddiaeth cydnabyddedig, a datblygu adnoddau hyfforddi arweinyddiaeth pwrpasol newydd neu welliannau i'r rhai presennol.
Rhaid i bob hyfforddiant neu weithgaredd cysylltiedig ganolbwyntio ar ddatblygu sgiliau rheoli, arwain neu oruchwylio. Dylid anelu hwn at gynrychiolwyr lle mae eu prif rôl yw rheolwr, arweinydd, neu oruchwyliwr, neu rywun sy'n cael ei ddatblygu i gamu i fewn i’r rôl honno yn y dyfodol agos.
Pryd allwn ni wneud cais?
Agorodd y gronfa ar 1af Rhagfyr 2022.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 31ain Gorffennaf 2023.
Sylwer: os byddwch yn llwyddiannus rhaid defnyddio'r cyllid o fewn 18 mis o ddyddiad dechrau'r cytundeb ariannu. Rhaid i raglenni hyfforddi Rheoli ac Arwain fod yn y dyfodol, ni fydd rhaglenni hyfforddi'r gorffennol yn cael eu hariannu'n ôl-weithredol.
Gwyddom mai gweithlu eich busnes yw’r ased pwysicaf ar gyfer llwyddiant. Gall ein Cronfa Rheoli ac Arwain baratoi eich busnes i gwrdd â heriau yfory. Gwnewch gais heddiw.
Beth sy’n digwydd nesaf?
Asesu ceisiadau
- Dylech dderbyn penderfyniad gennym ni (drwy e-bost) ar ôl i bob rownd asesu ddod i ben
- Bydd tîm CITB yn adolygu ac yn asesu pob cais. Mae'r meini prawf a'r broses wedi'u nodi yn y nodiadau canllaw.
Penderfyniadau cais
Cynhelir asesiadau ar ddiwedd pob mis a chaiff penderfyniadau ariannu eu cyfleu cyn gynted ag y bydd pob rownd asesu wedi'i chwblhau. Os nad ydym wedi gallu cymeradwyo eich cais, byddwch yn cael eich hysbysu ac yn cael y cyfle i adolygu eich rhaglen i gyd-fynd ag amcanion y gronfa.
Monitro a chwblhau
Ar ôl i'r cytundeb ariannu gael ei lofnodi gallwch ddechrau eich prosiect hyfforddi. Rydym yn deall y gall amgylchiadau newid. Dylid cyflwyno cynigion i newid eich gweithgaredd a ariennir yn ysgrifenedig i L&MFund@citb.co.uk a chânt eu hystyried fesul achos (lle mae newid eithriadol mewn amgylchiadau).
Byddwn yn cytuno ar drefniadau monitro a gofynion tystiolaeth gyda chi. Cofiwch gadw tystiolaeth o'r holl anfonebau a thystysgrifau gan y bydd angen i chi gyflwyno'r rhain i CITB i ddangos bod y gweithgaredd a ariannwyd wedi digwydd.
Cyhoeddusrwydd a Chyfathrebu
Efallai y byddwn am gyhoeddi manylion eich prosiect ar ein gwefan unwaith y bydd cyllid wedi'i gymeradwyo.
Mae’n bosibl y byddwn yn gofyn am gael gweithio gyda chi i ddatblygu datganiadau i’r wasg, astudiaethau achos neu fideos hyrwyddo yn ymwneud â’ch prosiect naill ai yn ystod cyflwyno’r ddarpariaeth, neu ar ôl ei gwblhau.
Gwerthusiad
Mae gwerthuso yn rhan orfodol o'r gronfa hon. Bydd gofyn i chi gynnwys sgorau perfformiad busnes cyfredol a tharged yn eich cais. Byddwn yn cysylltu â chi unwaith y bydd eich rhaglen wedi'i chwblhau i werthuso a yw eich sgorau targed wedi'u cyflawni. Bydd cyfranogwyr hefyd yn cael eu dewis ar hap a gofynnir iddynt roi adborth e.e. trafodaethau grŵp, holiaduron ariannu neu gyfweliadau adborth.