Beth sy’n newydd ar gyfer Cynllun Grantiau
Haen grant cymhwyster byr newydd
Wrth i Fwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu (CITB) barhau i adolygu hyfforddiant ar draws y diwydiant, rydym wedi penderfynu gwneud rhai newidiadau i’r grant cyflawniad ar gyfer cymwysterau byr.
O fis Medi 2025 ymlaen, byddwn yn cyflwyno haen grant newydd ar gyfer rhai cymwysterau cyfnod byr i sicrhau bod cyllid CITB yn cael ei ddefnyddio’n effeithiol i wneud y mwyaf o’r effaith.
Ar gyfer cyflawniadau o fis Medi 2025 ymlaen, bydd unrhyw gymhwyster a gyflawnir ar lefel ‘Dyfarniad’ yn derbyn gwerth grant o £240 (yn hytrach na £600).
Mae gan gymwysterau lefel ‘Dyfarniad’, fel arfer, gyfnod byrrach gyda llai o fodiwlau i’w chwblhau, ac mae’r gost i ymgymryd â’r lefel hon fel arfer yn is, felly mae hyn yn cael ei adlewyrchu yn y taliad grant newydd.
Grant Cymhwyster Cyfnod Byr: Codiad ar gyfer Achrediad Diwydiant
Rydym wedi cefnogi dros 11,500 o unigolion gyda’r codiad grant Achrediad Diwydiant ar gyfer cymwysterau Rheoli a Goruchwylio. Roeddem yn bwriadu cadw’r codiad hwn tan ddiwedd Mawrth 2026, ond er mwyn sicrhau’r defnydd mwyaf priodol o arian y diwydiant, bydd y codiad hwn yn dod i ben ddiwedd Rhagfyr 2025. Ar ôl i’r codiad ddod i ben, bydd y grantiau i gefnogi’r cymwysterau hyn yn dychwelyd i £600.
Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am y codiad a’r grantiau cymhwyster cyfnod byr yma.
Cynllun peilot grant I Mewn i Waith yn dod i ben
Cyflwynwyd cynllun peilot grant I Mewn i Waith yn 2023 i gefnogi cyflogwyr i ddarparu’r elfen profiad gwaith o gyrsiau addysg bellach ôl-16, er mwyn galluogi unigolion i symud ymlaen i’r diwydiant adeiladu. Bydd y cynllun peilot hwn yn dod i ben ar 30 Tachwedd 2025.
Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am y grant I Mewn i Waith yma.
Safonau hyfforddiant peiriannau newydd
Ar 18 Mehefin 2025, lansiwyd cam 2 o'r safonau hyfforddiant cwrs byr ar gyfer categorïau peiriannau sy'n adlewyrchu'r gofynion a'r cyfrifoldebau cynyddol ar gyfer gweithredwyr peiriannau. Mae grant o £250 i £880 ar gael ar gyfer cyflawni'r safonau hyn pan gânt eu darparu gan Sefydliad Hyfforddi Cymeradwy (ATO).
Nid yw grantiau hyfforddiant a phrofi blaenorol ar gyfer categorïau o beiriannau yr effeithir arnynt ar gael ar gyfer cyflawniadau a ddyfarnwyd ar neu ar ôl 18 Mehefin 2025.
Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am y safonau newydd a’r cyfraddau grant yma.