Facebook Pixel
Skip to content

Grantiau cymwysterau cyfnod byr

Cynnydd grant o 1 Ebrill 2023

Mae’r Cynllun Tystysgrif Sgiliau Adeiladu (CSCS) yn symud pob deiliad cerdyn Achrediad Diwydiant (IA) i gymhwyster cydnabyddedig. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am dynnu’r Achrediad Diwydiant yn ôl drwy fynd i wefan CSCS (Dolen allanol – yn agor mewn tab neu ffenest newydd)

Er mwyn cefnogi gweithwyr adeiladu i bontio o gerdyn IA i gymhwyster, rydym wedi cynyddu’r grant ar gyfer Diplomâu NVQ/SVQs Goruchwylio penodol i £1,250 a Diplomâu NVQ/SVQs Rheoli penodol i £1,500 ar gyfer cyflawniadau o 1 Ebrill 2023 fel y rhestrir yma.

Rydym yn talu grantiau ar gyfer cyflawni cymwysterau cyfnod byr cymeradwy (sy'n cymryd llai na blwyddyn i'w cwblhau) sy'n canolbwyntio ar y sgiliau adeiladu craidd sydd eu hangen ar draws y diwydiant.

Ar y dudalen hon:

Trosolwg

Mae'r grant hwn yn talu am gyflawni cymwysterau cyfnod byr cymeradwy mewn sgiliau adeiladu craidd. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • NVQ ar Lefelau 2 ac uwch a SCQF ar Lefelau 5 ac uwch
  • Tystysgrif Genedlaethol y Bwrdd Arholi Cenedlaethol mewn Diogelwch Galwedigaethol ac Iechyd (NEBOSH)
  • Tystysgrif Cenedlaethol mewn Iechyd a Diogelwch Adeiladu
  • Cyflawni cymhwyster galwedigaethol cysylltiedig â pheiriannau (VQ)
  • Unedau VQ penodol sy'n gysylltiedig â pheiriannau

Gellir darparu cymwysterau mewn sawl ffordd fel y'u diffinnir o fewn y safon gymeradwy, gan gynnwys:

  • i ffwrdd o'r gwaith
  • trwy asesiad ar y safle (OSAT)
  • trwy asesiad ymarferol gweithiwr profiadol (EWPA)
  • yn ôl pellter ac e-ddysgu
  • y tu allan i oriau gwaith confensiynol (gyda'r nos neu ar benwythnosau)

Nid oes grantiau cymhwyster cyfnod byr ar gael i gefnogi cyflawniadau unigol sy'n rhan o gymwysterau hirach eraill. Gweler grant cymhwyster cyfnod hir neu grantiau prentisiaeth am fanylion.

Pwy all wneud cais am y grant hwn?

Gallwch wneud cais os ydych chi wedi cofrestru â ni ac yn bodloni ein amodau a thelerau cyffredinol y Cynllun Grant a gofynion penodol y grant hwn.

Mae'r grant hwn ar gael i'r holl staff sydd wedi'u cyflogi'n uniongyrchol ar y system gyflogau a phob isgontractiwr.

Pa gyrsiau sy'n gymwys am grant? 

Gweler rhestr lawn o gymwysterau rydym yn talu grant ar eu cyfer.

Rydym yn defnyddio meini prawf penodol i farnu pa gymwysterau y gellir eu cefnogi â grantiau. I weld sut rydym yn penderfynu pa gymwysterau sy’n gymwys, cliciwch yma.

Faint yw'r grant?

Y gyfradd safonol ar gyfer cymwysterau cyfnod byr llawn yw £600. Mae nifer o gymwysterau penodol sy’n denu cyfraddau gwahanol, fel y rhestrir yn y tabl isod.

Cymhwyster Dyddiad cyflawni ar neu ar ôl 1 Ebrill 2023

Cyfradd safonol i gymwysterau cyfnod byr

£600

Cymwysterau Rheoli Penodol

£1500

Cymwysterau Goruchwyliaeth Penodol

£1250

Cymwysterau Cladin Sgrîn Glaw Penodol

£1000

VQ Gweithrediadau Peiriannau Lefel 2 – Uned ychwanegol

£300

Ewch i’r rhestr o gymwysterau rydym yn talu grantiau ar eu cyfer i weld pa gyfradd grant sydd ar gael ar gyfer eich cyflawniad penodol.

Mae grant cymhwyster cyfnod byr yn daladwy hyd at uchafswm o bedwar grant ar bob lefel fesul unigolyn. Dim ond unwaith y gallwch wneud cais ar gyfer unigolyn am yr un cyflawniad.

Mae Unedau VQ Peiriannau Lefel 2 yn daladwy hyd at uchafswm o dri fesul unigolyn, Mae cyflawniadau uned VQ Peiriannau hefyd wedi’u cynnwys yn y cap o bedwar cyflawniad Lefel 2 fesul unigolyn.

Lle mae grant blaenorol ar gyfer VQ Gweithrediadau Peiriannau llawn, dim ond ar gyfer y grant uned VQ sy’n ymwneud â pheiriannau y bydd cyflawniadau gweithrediadau peiriannau yn y dyfodol yn cael eu hystyried.

Lle mae grant blaenorol ar gyfer VQ gweithrediadau peiriannau, dim ond ar gyfer y grant uned VQ sy'n gysylltiedig â pheiriannau y bydd cyflawniadau yn y dyfodol yn cael eu hystyried.

Sut i wneud cais

Rhaid i chi gyflwyno'ch cais am grant cyflawniad o fewn 52 wythnos i'r dyddiad cyflawni, lawrlwythwch a chwblhewch y ffurflen gais (PDF, 133KB) a’i hanfon atom trwy ddefnyddio’r cyfeiriad e-bost isod.

Os dymunwch wneud cais am fwy nag un dysgwr ar unwaith, lawrlwythwch a chwblhewch y ffurflen gais Excel (Excel, 156KB).

  • Arbedwch ac e-bostiwch eich ffurflen gais wedi'i chwblhau i grant.claimforms@citb.co.uk 
  • Atodwch gopi o'r dystysgrif cyflawniad neu’r e-bost hysbysu cyflawniad gan y corff dyfarnu. Ni ellir prosesu eich cais heb y dystiolaeth hon

I gael cymorth wrth wneud cais am y grant hwn gallwch gysylltu â'ch Cynghorydd CITB neu ein tîm Gwasanaethau Cwsmeriaid ar 0344 994 4455.

A ydych chi wedi anfon eich manylion banc? 

Mae grantiau'n cael eu talu drwy drosglwyddiad banc. Os nad oes gennym eich manylion banc cyfredol, cwblhewch y  Ffurflen Awdurdodi Credyd Uniongyrchol diogel ar-lein i gael taliadau grant

A ydych chi wedi cofrestru â Grantiau CITB Ar-lein?