Facebook Pixel
Skip to content

Adnodd Rhagamcanu Llafur

Mae Adnodd Rhagamcanu Llafur CITB yn adnodd ar-lein a all ragfynegi'r galw am lafur ar gyfer amrywiaeth o brosiectau adeiladu, gan gynnwys:

  • Tai (gwaith pren a gwaith nad yw'n ymwneud â phren)
  • Seilwaith
  • Ysgolion (gwaith dur a gwaith nad yw'n ymwneud â dur)
  • Priffyrdd
  • Masnachol (swyddfa a manwerthu)
  • Adnewyddu, atgyweirio a chynnal a chadw tai
  • Gwaith adnewyddu, atgyweirio a chynnal a chadw nad yw'n ymwneud â thai

Mae'r Adnodd yn adeiladu ar ein gallu i ragfynegi'r galw am sgiliau a chyflogaeth. Caiff y galw hwn ei ragfynegi'n fisol drwy ystyried gwerth prosiectau unigol a dyddiadau dechrau/cwblhau.

Manteision

Bydd yr Adnodd yn rhoi tystiolaeth i'ch galluogi i gynllunio a negodi manteision realistig i'r gymuned sy'n deillio o ofynion sgiliau a hyfforddiant ar brosiectau adeiladu.

Bydd yn rhoi data go iawn i chi yn seiliedig ar fethodoleg gadarn a gefnogir gan wybodaeth wirioneddol am brosiectau er mwyn sicrhau bod eich gofynion sgiliau a hyfforddiant yn realistig.

Bydd y sawl sy'n tanysgrifio i'r Adnodd yn cael cymorth cynhwysfawr i'w helpu i fanteisio i'r eithaf ar y gwasanaeth, gan gynnwys:

  • Cyflwyniadau sy'n eich galluogi i roi cynnig ar yr Adnodd
  • Hyfforddiant ar y safle a hyfforddiant o bell
  • Adolygiadau o brosiectau gan arbenigwyr
  • Arweiniad ar-lein a thros y ffôn gan y Tîm Cymorth Cwsmeriaid

Nodweddion allweddol

Mae'r Adnodd wedi'i ddatblygu'n ofalus dros y ddwy flynedd ddiwethaf er mwyn sicrhau ei fod yn hygyrch ac yn hawdd i'w ddefnyddio, a'i fod yn darparu rhagolygon dibynadwy a chadarn.

Ymhlith ei nodweddion allweddol mae'r canlynol: 

  • Rhagolygon misol ar gyfer pob crefft, gan gynnwys y proffesiynau, yn seiliedig ar algorithmau lefel uwch
  • Rhagolygon yn seiliedig ar ddata hanesyddol o brosiectau blaenorol (felly mae'r cywirdeb, yn nodweddiadol, yn well na ±10%) a gaiff eu diweddaru wrth i ddata newydd ddod i law
  • Data sydd wedi'i ddilysu'n ystadegol ar gyfer cysondeb ac anghysondebau
  • Yr unig fewnbynnau sydd eu hangen yw gwerth y prosiect, ei leoliad a dyddiadau dechrau/cwblhau
  • Gellir newid y proffil llafur i ddiwallu anghenion unigol a chaiff ei ddiweddaru wrth i'r prosiect fynd rhagddo
  • Mae'r rhagolygon yn ystyried amser a lleoliad
  • Ar y we - mae hyn yn golygu bod gan ddefnyddwyr fynediad i'r data diweddaraf bob amser

Pwy ddylai ddefnyddio'r Adnodd?

Gall yr Adnodd fod o fudd i awdurdodau lleol a datblygwyr sy'n negodi cytundebau Adran 106 a manteision cymunedol eraill.

Gallai hefyd helpu: 

  • Contractwyr i drefnu gwaith sydd ar ddod
  • Asiantaethau Cynllunio i ystyried effaith prosiectau rhanbarthol cydamserol
  • Asiantaethau a sefydliadau sgiliau i lunio strategaethau i gael pobl i mewn i waith

Tystebau cleientiaid

"Defnyddiais yr Adnodd Rhagamcanu Llafur yn ddiweddar i ddarparu data yn ymwneud â phrosiect adeiladu mawr posibl. Roedd y gwasanaeth yn effeithlon ac yn broffesiynol a byddwn yn ei argymell i gontractwyr a chleientiaid fel ffordd gyflym ond manwl o asesu gofynion cyflogaeth a sgiliau yn ystod cam adeiladu prosiect."

Richard Chiverton, Cyfarwyddwr, Innovatus Ltd 

Cysylltu â ni

Mae'r Adnodd wedi'i ddatblygu gan CITB ac mae ar gael drwy'r Adran Ymchwil a Datblygu.

I gael rhagor o wybodaeth am sut y gallai'r Adnodd eich helpu chi, cysylltwch â:

Sandra Lilley, CITB
E: sandra.lilley@citb.co.uk

Doug Forbes,Whole Life Consultants Limited
E: doug.forbes@wlcuk.com