Cyhoeddi rhestr fer ar gyfer Gwobrau 100 o Fenywod Mwyaf Dylanwadol mewn Adeiladu 2025
Heddiw, mae Bwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu (CITB) yn cyhoeddi’r rhestr fer ar gyfer Gwobrau 100 o Fenywod Mwyaf Dylanwadol mewn Adeiladu 2025.
Gan ddychwelyd am y bedwaredd flwyddyn, mae’r gwobrau’n parhau i dynnu sylw at gyfraniadau sylweddol menywod o bob rhan o'r diwydiant adeiladu ac yn arddangos menywod yn y sector er mwyn gwneud modelau rôl yn fwy gweladwy a hygyrch.
Mae’r rhestr fer yn cynnwys menywod ar draws 17 categori, gyda’r 100 o Fenywod Mwyaf Dylanwadol mewn Adeiladu terfynol yn cael eu datgelu yn y Seremoni Wobrwyo ym mis Medi. Mae’r seremoni wobrwyo a’r rhestr fer o’r 100 Uchaf yn dathlu’r menywod sy’n gweithio ar bob lefel o fewn y sector a’u cyflawniadau rhyfeddol, tra hefyd yn tynnu sylw at sut mae’r diwydiant yn cefnogi ac yn gwerthfawrogi cydraddoldeb.
Yn 2018-19, dechreuodd 1,450 o fenywod brentisiaeth adeiladu, ond mae hyn wedi neidio i 2,420 yn 2023-24. Er bod y niferoedd yn parhau i fod yn fach, mae’r cynnydd yn nifer y menywod sy’n dechrau prentisiaethau adeiladu yn awgrymu bod y diwydiant yn gwneud cynnydd tuag at ddyfodol gyda mwy o amrywiaeth rhywedd.
Dywedodd Deborah Madden, Cyfarwyddwr Gweithredol, Ymgysylltu Gwledydd CITB:
“mae’n hanfodol ein bod yn meithrin lle cynhwysol a chroesawgar sy’n cydnabod ac yn dathlu cyflawniadau menywod yn y diwydiant adeiladu, gan gydnabod y profiadau, y cyfraniadau a’r arweinyddiaeth amrywiol sy’n llunio ein sector. Dyna’n union beth yw diben Gwobrau 100 o Fenywod Mwyaf Dylanwadol mewn Adeiladu.
“Hoffem longyfarch y rhai sydd wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobrau 100 o Fenywod Mwyaf Dylanwadol mewn Adeiladu eleni. Mae gennym yr un nod o ddathlu a dod â menywod anhygoel – a’u cynghreiriaid – sy’n gwneud pethau gwych ar draws y diwydiant ynghyd. Gobeithiwn y bydd y gwobrau hyn, ynghyd â’n rhaglen o weithdai cynghreiriaid, yn annog mwy o fenywod i ystyried gyrfa mewn adeiladu.”
Datgelir yr enillwyr yn seremoni wobrwyo swyddogol Gwobrau 100 o Fenywod Mwyaf Dylanwadol mewn Adeiladu ar ddydd Iau 18fed o Fedi 2025 yng Ngwesty’r Cloc, Kimpton, Manceinion. Bydd y rhai sy’n cyrraedd y rhestr fer a’r rhai y mae eu henwebiad yn arwain at le ar y rhestr fer yn gymwys i gael tocyn am ddim i fynychu’r noson wobrwyo.
Categorïau’r 100 Uchaf a’r ymgeiswyr ar y rhestr fer yw:
Arwr lleol
Mae'r categori hwn yn dathlu menywod sy'n cael effaith sylweddol ar lefel leol neu ranbarthol. Boed drwy brosiectau cymunedol, twf busnesau bach a chanolig, neu eiriolaeth, mae'r unigolion hyn yn llunio'r diwydiant o'r gwaelod i fyny.
Dwyrain Lloegr
- Kerry Murphy
- Louise Tingley
- Hannah Swires
Canolbarth Lloegr
- Nadine Hammond
- Molly Shaw
- Helen Lewis
Gogledd Ddwyrain Lloegr
- Leanne Land
- Katy Robinson
- Freya De Lisle
Gogledd Orllewin Lloegr
- Rachael Gilbert
- Jennie Harrison
- Fiona Hull
De Ddwyrain Lloegr
- Georgie Gaynor
- Lisa-Jayne Cook
- Tayla Corr
De Orllewin Lloegr
- Sam O’Connell & Carla Bennett
- Fallon Hart
- Nicola Bird
- Jenna Smith
Yr Alban
- Amy Dougan
- Rachel O'Donnell
- Astrid Prado
Gogledd Iwerddon
- Sarah Primrose
- Ciara Doherty
Cymru
- Nicola Simmons
- Amanda Lawson
- Tesni James
- Lesley Hughes
Un i’w wylio
Seren y dyfodol sy’n dangos potensial, arweinyddiaeth ac arloesedd eithriadol yn gynnar yn eu gyrfa. Mae angen iddynt fod wedi bod yn y diwydiant am dair blynedd neu lai.
- Katie Doyle
- Morgan O'Sullivan
- Molly Shaw
- Dawn Georgeson
- Marina Strotz
Menyw ar yr offer
Yn dathlu rhagoriaeth ymhlith crefftwyr, gan gydnabod sgiliau, arweinyddiaeth, a chyfraniad i'r diwydiant.
- Amy Barratt Singh
- Katie Quinlivan
- Megan Ellicott
Grŵp o gynghreiriaid mwyaf dylanwadol
Yn cydnabod grŵp (yn hytrach nag unigolyn) sy'n hyrwyddo ac yn cefnogi menywod yn weithredol mewn adeiladu. Mae'r categori hwn ar agor i fenywod a dynion.
- KH Training
- Construction for Women
- Operator Skills Hub Team
Arweinydd contractwyr mwyaf dylanwadol
Yn cydnabod arweinyddiaeth yn y sector contractio, o gontractwyr mawr i grefftau arbenigol.
- Emma Fletcher
- Evette Devine
- Pemely Rowe
Y dylunydd mwyaf dylanwadol
Yn dathlu arweinyddiaeth mewn disgyblaethau pensaernïaeth, peirianneg neu ddylunio.
- Adeline McCartney
- Lucy Wildsmith
- Harriet Webb
Y cleient mwyaf dylanwadol
Yn cydnabod menyw ar ochr y cleient sydd wedi sbarduno newid trawsnewidiol mewn adeiladu.
- Setareh Neshati
- Claire Michelle Evans
- Christine Dryden
Addysgwr mwyaf dylanwadol mewn adeiladu
Yn dathlu'r rhai sy'n llunio'r genhedlaeth nesaf trwy addysg, hyfforddiant neu fentora.
- Vickie Mather
- Julia Stevens
- Teresa Swift
Arweinydd busnesau bach a chanolig/crefft mwyaf dylanwadol
Yn cydnabod menywod sy'n arwain mentrau bach a chanolig, crefftau arbenigol neu fusnesau annibynnol.
- Sophie Horgan
- Liz Gilligan
- Jane Potter
- Maria Coulter
- Julie White