Canlyniadau Chwilio
Chwilio am newyddion a digwyddiadau
Math
Newyddion lleol a digwyddiadau
Canfuwyd 178 o erthyglau
Defnyddiwch yr hidlwyr chwilio ar yr ochr dde i leihau’r canlyniadau.
Cliciwch yma i ddychwelyd i'r dudalen penawdau newyddion.
Rhagolygon sgiliau adeiladu newydd yn adlewyrchu amseroedd cythryblus
Roedd 2022 yn flwyddyn anodd. Gellid dadlau mai goresgyniad Wcráin gan Rwsia oedd y gwrthdaro mwyaf ers yr Ail Ryfel Byd. Yn y cyfamser - gartref - gwelwyd cynnydd mewn chwyddiant, cyfraddau llog, ac argyfwng costau byw. Mae’r newidiadau yma, ac ar draws y byd, wedi effeithio ar lawer o ddiwydiannau, gan gynnwys y diwydiant adeiladu, un o brif sbardunau twf y Deyrnas Unedig. Mae’r cyfnod cythryblus hwn yn cael ei adlewyrchu yn ein hadroddiad Rhwydwaith Sgiliau Adeiladu (CSN) newydd.
Galw am weithwyr adeiladu yn uchel er gwaetha'r ansicrwydd economaidd
Yn erbyn cefndir o her economaidd, costau deunyddiau a llafur cynyddol, mae ffigurau newydd gan Fwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu (CITB) yn datgelu y bydd angen bron i 225,000 o weithwyr ychwanegol i fodloni galw adeiladu’r DU erbyn 2027.
Dyddiadur Cynghorydd Ymgysylltu CITB
Fy swydd i yw helpu cwmnïau i gael yr holl gyllid y maen nhw'n gymwys i'w gael, yn ôl Cynghorydd Ymgysylltu CITB, Abbie Langridge.
Mae CITB yn talu £5 miliwn yn fwy mewn grantiau yn y flwyddyn ariannol hon ac mae'n bwriadu cefnogi hyd yn oed mwy o fusnesau yn 2023
Eleni, mae CITB wedi talu dros £5m yn fwy mewn grantiau ac wedi cefnogi bron i 700 yn fwy o gyflogwyr i gymharu â’r un cyfnod yn 2021.
“Cwad” Adeiladu, sy’n cael cymorth gan CITB, yn sicrhau swyddi i 90% o fyfyrwyr
Mae cyfleuster hyfforddiant mewn ysgol, a oedd yn rhoi pobl leol mewn cysylltiad â chyflogwyr a oedd yn cael trafferth recriwtio gweithwyr medrus, wedi sicrhau llwyddiant ysgubol.
Mae Coleg Cambria, CITB a chwmnïau adeiladu gogledd Cymru yn dod at ei gilydd i roi cyngor cyflogadwyedd i ddysgwyr
Ymunodd dros 100 o ddysgwyr adeiladu â digwyddiad cyflogadwyedd CITB yn ddiweddar yng Ngholeg Cambria, Glannau Dyfrdwy. Nod y digwyddiadau hyn yw rhoi cipolwg i ddysgwyr yn y coleg ar yr hyn y mae cwmnïau yn chwilio amdano mewn prentis, pa lefel o ymddygiad y maent yn ei ddisgwyl a sut i fynd ati orau i gael rhywfaint o brofiad gwaith a phrentisiaeth. Mae'r dysgwyr hefyd yn clywed pwysigrwydd Iechyd a Diogelwch ar y safle.
Canolfan Profiad ar y Safle yn gweddnewid bywyd Daniel
“Dysgu sgil newydd bob dydd oedd un o’r teimladau gorau.” Dyna argraffiadau saer dan hyfforddiant o’r enw Daniel Skelly. Maent yn enghraifft dda iawn o sut gall hyfforddiant ar gyfer gyrfa newydd fod yn bleserus – a thrawsnewid bywyd.
Llenwyd bwlch hyfforddiant Rheoli ac Arwain gyda dros £10M o gyrsiau am ddim
Mae CITB wedi dyfarnu contractau gwerth £10.5m, i bedwar sefydliad hyfforddi ledled y DU a fydd yn darparu 10,500 o gyrsiau rheoli ac arwain ILM am ddim ar draws bob sector o'r diwydiant adeiladu.
Cyhoeddi enillwyr ‘Gemau Olympaidd sgiliau adeiladu’ SkillBuild
Mae enillwyr Rowndiau Terfynol Cenedlaethol SkillBuild 2022 wedi’u cyhoeddi, ar ôl i bron i 80 o hyfforddeion adeiladu fynd benben â’i gilydd dros dri diwrnod. Mae SkillBuild, a alwyd aml yn ‘Gemau Olympaidd sgiliau adeiladu’, yn cael ei gyflwyno gan Fwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu (CITB) mewn partneriaeth â WorldSkills UK ac mae’n cynnig cyfle i hyfforddeion gystadlu mewn ymgais i gael eu coroni’n enillydd y grefft o’u dewis.
Canolfannau Profiad ar y Safle yn helpu Willow i roi sgiliau ar waith
Pan gollodd darpar saer Willow Kehily ei swydd ym maes manwerthu, gwnaeth benderfyniad beiddgar. Penderfynodd y fam o Aberteifi ail-sgilio a dilyn ei diddordeb mewn gwaith coed. Roedd yn symudiad fentrus tu hwnt. Ond fe dalodd ar ei ganfed. O fewn dyddiau o ddechrau hyfforddiant adeiladu ar y safle roedd Willow yn gwybod ei bod wedi gwneud y dewis cywir.