Negeseuon brys
Diweddariad: 29 Mai 2025
Mater technegol
Mae'r mater technegol sy'n effeithio ar gyflawniadau swmp a lanlwythwyd rhwng dydd Gwener 2 Mai a dydd Iau 22 Mai bellach wedi'i ddatrys yn llawn.
Sefydliadau Hyfforddi Cymeradwy (ATO) - Mae cyflawniadau a lanlwythwyd trwy’r llwybr Cyflawniadau ATO mewn Swmp rhwng 2 Mai a 22 Mai bellach ar gael ar y Gofrestr Hyfforddiant Adeiladu (CTR).
Os cewch unrhyw broblemau pellach neu os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â hyn, anfonwch e-bost at ctdservices@citb.co.uk neu ffoniwch ni ar 0844 994 4047.
Grant - Bydd unrhyw gyflawniadau cwrs byr a lanlwythir trwy lwybr lanlwythiad mewn swmp gan ATO neu lwybr lanlwythiad mewn swmp gan Gyflogwr rhwng 2 Mai a 22 Mai, sy’n gymwys i gael taliad grant, yn cael eu prosesu yn ystod rhediad talu’r wythnos hon. Bydd y rhai a effeithiwyd yn derbyn eu gwaith papur arferol yr wythnos yn dechrau 2 Mehefin 2025. Os cewch unrhyw faterion pellach neu os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â hyn, anfonwch e-bost at levy.grant@citb.co.uk neu ffoniwch ni ar 0344 994 4455.
Diolch i chi am eich amynedd parhaus wrth i ni weithio drwy'r mater hwn.