Beth yw'r Rhwydwaith Darparwyr Hyfforddiant?
Pwrpas CITB yw cefnogi’r diwydiant adeiladu i gael gweithlu medrus, cymwys a chynhwysol, nawr ac yn y dyfodol. Mae’r Rhwydwaith Darparwyr Hyfforddiant (TPN) yn ein galluogi i weithio gyda’n gilydd i wneud hyfforddiant yn fwy hygyrch ac i wella ansawdd.
Yn gydweithrediad rhwng CITB a darparwyr hyfforddiant ledled Prydain Fawr, mae’r Rhwydwaith Darparwyr Hyfforddiant (TPN) yn dod ynghyd â darparwyr cymeradwy, wedi’u sicrhau o ran ansawdd, o Loegr, yr Alban a Chymru, gan greu rhwydwaith unedig o aelodau dibyandwy, wedi’i lunio gan grŵp arweinyddiaeth. Mae’r rhwydwaith yn ei gwneud hi’n haws i gyflogwyr yn y diwydiant adeiladu gael mynediad hyderus at yr hyfforddiant o safon ble bynnag a phryd bynnag y mae ei angen arnynt.
Yn seiliedig ar fewnwelediad a rennir, bydd y rhwydwaith yn parhau i esblygu, gan fynd i’r afael â’r heriau a thynnu sylw at gyfleoedd o fewn darpariaeth hyfforddi adeiladu. Bydd yn cefnogi cynaliadwyedd a thwf busnes i ddarparwyr, gyda'r holl hyfforddiant a gefnogir gan CITB yn cael ei gyflwyno yn y pen draw trwy aelodau o'r TPN.
Beth yw’r manteision?
Fel aelod o’r Rhwydwaith Darparwyr Hyfforddiant (TPN) byddwch yn:
- Cysylltu'n uniongyrchol â chyflogwyr drwy Rwydweithiau Cyflogwyr, gan gefnogi twf busnes
- Cael eich cydnabod gan y diwydiant adeiladu Prydeinig fel darparwr hyfforddiant sy'n darparu hyfforddiant o ansawdd sicr
- Cael mynediad at fewnwelediadau gwerthfawr yn y diwydiant ar gyfer cynllunio darpariaeth hyfforddiant ar lefelau cenedlaethol a lleol
- Cael llais cyfunol i hysbysu CITB a rhanddeiliaid allweddol eraill
- Cael cefnogaeth tîm ymroddedig o reolwyr perthynas ac arbenigwyr sicrhau ansawdd
- Meithrin perthnasoedd cryfach gyda chyflogwyr, gan greu lleoliadau gwaith a chyfleoedd cyflogaeth gwell i newydd-ddyfodiaid
- Bydd gennych fynediad i'r Cyfeiriadur Hyfforddiant Adeiladu os ydych chi'n cynnig cyrsiau byr-dymor. Offeryn marchnata pwerus sydd ar agored i bawb sydd â diddordeb mewn hyfforddiant adeiladu, ac a ddefnyddir gan gyflogwyr sy'n chwilio am gyrsiau hyfforddi a ariennir gan grant CITB.
Bydd aelodau o ansawdd sicr TPN yn dod yn ffynhonnell hyfforddiant ddibynadwy ac effeithiol ar gyfer y diwydiant adeiladu, gan fynd i'r afael yn uniongyrchol â bylchau sgiliau critigol.
Bydd Cyflogwyr sy’n defnyddio’r rhwydwaith yn:
- Cael mynediad haws at hyfforddiant o ansawdd sicr
- Cael hyfforddiant sy’n diwallu eu hanghenion penodol, pryd a ble bynnag y dymunant
- Cael hyder yn ansawdd a hygyrchedd yr hyfforddiant
- Gwynebu llai o rwystrau wrth ddarparu hyfforddiant
Pwy all ddod yn aelod
Dyfernir aelodaeth Rhwydwaith Darparwyr Hyfforddiant (TPN) i ddarparwyr hyfforddiant sy’n darparu hyfforddiant i’r diwydiant adeiladu ym Mhrydain Fawr ac sy’n bodloni meini prawf cymeradwyo’r TPN.
Gall aelod o’r TPN fod yn ddarparwr hyfforddiant masnachol, yn adran hyfforddi fewnol cyflogwr ym maes adeiladu, neu’n sefydliad addysgol.
Gall Sefydliadau Hyfforddiant Cymeradwy (ATO) presennol – hynny yw, darparwyr hyfforddiant sydd eisoes wedi’u cymeradwyo i ddarparu hyfforddiant tymor byr a sicrhawyd gan CITB, darparwyr Site Safety Plus (SSP), a Chanolfannau Prawf Ar-lein (ITC) – hefyd wneud cais.
Sylwch nad yw’n bosibl bellach gwneud cais i ddod yn Sefydliad Hyfforddiant Cymeradwy (ATO), fodd bynnag fel aelod o’r TPN gallwch wneud cais i ddarparu hyfforddiant tymor byr.
Am ragor o wybodaeth, ewch i Sut i ddod yn aelod o’r Rhwydwaith Darparwyr Hyfforddiant (TPN)
Fel arall, cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r ffurflen hon a byddwn mewn cysylltiad â chi.
Barod i wneud cais
Cyn gwneud cais, darllenwch Rhwymedigaethau cytundebol Aelod TPN
Ymgeisiwch nawr i ddod yn aelod o’r Rhwydwaith Darparwyr Hyfforddiant (TPN)
Gwerthoedd craidd y Rhwydwaith Darparwyr Hyfforddiant (TPN)
Mae gwerthoedd craidd y Rhwydwaith Darparwyr Hyfforddiant, lle mae’r aelodau wedi ymrwymo iddynt, yn sicrhau bod pob aelod a CITB yn parhau i weithio ar y cyd, gan barhau i ddarparu hyfforddiant o safon.
- Rhagoriaeth – Rydym yn darparu hyfforddiant sy’n berthnasol ac o ansawdd uchel sy'n diwallu anghenion esblygol y diwydiant adeiladu a dysgwyr
- Uniondeb – Rydym yn gweithredu’n onest, yn foesegol, yn broffesiynol ac er budd gorau’r diwydiant adeiladu a dysgwyr
- Tryloywder – Rydym yn cyfathrebu’n glir ac yn agored am ein gwasanaethau, ein harferion a’n canlyniadau
- Cydweithio – Rydym yn gweithio gyda’n gilydd, yn rhannu arbenigedd, ac yn cefnogi ein gilydd i gryfhau effaith y rhwydwaith.
- Atebolrwydd – Rydym yn cymryd cyfrifoldeb am ein gweithredoedd ac yn ymrwymo i welliant parhaus
- Arfer têg – Rydym yn gwrthod gosod prisiau a gweithredoedd anfoesegol ac yn hyrwyddo amgylchedd masnach deg
- Cynhwysiant – Rydym yn cefnogi mynediad cyfartal a chanlyniadau cadarnhaol i bob dysgwr.
Efallai y bydd gennych ddiddordeb hefyd yn…
Ein Hegwyddorion Aelodaeth Rhwydwaith Darparwyr Hyfforddiant (TPN) (PDF, 117KB)