Facebook Pixel
Skip to content

Sut y llwyddodd Maple Aion i sicrhau cyllid i ddatblygu sgiliau ar gyfer prosiect mawr 

Pan enillodd y cwmni adeiladu a pheirianneg sifil Maple Aion Ltd gontract mawr i gynnal a chadw pibellau stêm ar safle 180 erw, chwiliodd am ffyrdd o ddatblygu sgiliau staff ar gyfer y prosiect. 

Nodi anghenion hyfforddi

Roedd y contract yn gofyn am sgiliau arbenigol ym maes cynnal a chadw pibellwaith a ffitiadau.

Gan weld bod bwlch mewn sgiliau, daeth Dave Pearce, Peiriannydd Mecanyddol Maple Aion, o hyd i gwrs City and Guilds ar gynnal a chadw peiriannau stêm – sy'n gwrs arbenigol gan arwain at gymhwyster a gydnabyddir gan y diwydiant.

Dechreuodd Karen Whitehouse, Rheolwr Swyddfa, ymchwilio i gyfleoedd cyllido ar gyfer yr hyfforddiant. Dywed: “Cefais neges e-bost gan Emily Tilling o CITB yn nodi'r opsiynau a oedd ar gael yn ei gyfnod Cyllido Hyblyg.”

Sicrhau cyllid

Roedd neges e-bost Emily wedi'i hamseru'n berffaith a chyflwynodd Karen gais am hanner y £5,000 a oedd ar gael drwy'r llwybr cyllido hwn.

Ar ôl gweithio ar ambell dendr, doeddwn i ddim yn gweld y broses o wneud cais yn rhy anodd nac yn llafurus. Roedd y canllawiau yn hawdd eu dilyn”, meddai Karen.

Bu cais Karen yn llwyddiannus a chafodd y cyllid, a gyrhaeddodd ymhell cyn dyddiad y cwrs.

Cael effaith

Ar ôl cwblhau'r cwrs hyfforddi yn llwyddiannus, enillodd Dave gymhwyster modiwl 13 Cynnal a Chadw Peiriannau Stêm City and Guilds yr oedd ei angen arno er mwyn gweithio ar y safle.

Dywed Karen y bydd Maple Aion Ltd yn ceisio cael rhagor o gyllid gan CITB yn y dyfodol. “Mae'r ffrwd ariannu yn gweithio'n dda iawn er mwyn helpu i ddiwallu'r anghenion hyfforddi sydd gennym y tu allan i'r crefftau mwy traddodiadol.”

Ciplun


Cwmni: Maple Aion Ltd
Sector: Adeiladu a Pheirianneg Sifil
Lleoliad:  Swydd Gaerwrangon

Her:  Datblygu sgiliau staff ar gyfer contract mawr i gynnal a chadw pibellau stêm a ffitiadau.

Ateb: £2,500 o gyllid o gronfa hyblyg CITB

Effaith:

  • Enillodd staff y cymhwyster arbenigol yr oedd ei angen arnynt er mwyn gweithio'n llwyddiannus ar y prosiect.
  • Atgyfnerthodd enw da'r cwmni am gynnig gwerth a ffurfio partneriaethau ymhlith cleientiaid.