Facebook Pixel
Skip to content

Gallwch wneud unrhyw beth pan fyddwch yn hyfforddi

Roedd Sky Scaffolding (Whitby) eisiau cadw'n gyfredol â datblygiadau mewn technoleg sgaffaldwaith ac roedd angen iddyn nhw uwchsgilio eu gweithlu - nid yn unig i ddiwallu galw cynyddol, ond i gynyddu capasiti.

Ystyrir bod system Plettac yn un o'r systemau sgaffaldwaith mwyaf amlbwrpas ac effeithlon a ddefnyddir ar hyn o bryd ym maes adeiladu. Mae ei ddyluniad arloesol yn caniatáu hyblygrwydd diddiwedd ar gyfer anghenion ac adeiladau gwahanol, ac yn galluogi adeiladu strwythurau helaeth yn ddiogel â chyflymder mawr - gan leihau costau a hybu cynhyrchiant.

Diwallu'r galw

Canfu Amanda Coates, Rheolwraig Gyfarwyddwraig Sky Scaffolding (Whitby) fod nifer cynyddol o ddatblygwyr a chontractwyr am ddefnyddio Plettac, yn arbennig ar gyfer gwaith adeiladu newydd, ond dim ond un cyflogai oedd yn gymwys i weithio gydag ef.

Roedd yr ateb yn glir - hyfforddi'r tîm.  

"O na fyddai gosod dyddiadau'r cwrs mor hawdd. Roedd problemau ynghylch trefnu'r cwrs yn golygu bod rhaid i ni ohirio'r dyddiad terfynol. Felly yn y diwedd fe wnaethom ddewis i'n cyflogeion wneud Sgaffaldwaith CISRS Rhannau 1 a 2, a ddilynnid gan gwrs pontio Plettac byr.” 

O ganlyniad i'r hyfforddiant, mae'r busnes wedi cynyddu ei gapasiti. Mae sgiliau wedi gwella ac mae cleientiaid yn cydnabod proffesiynoldeb y cwmni a'i ddymuniad i ddiwallu eu hanghenion.

Ciplun

Cwmni:  Sky Scaffolding (Whitby)
Sector:  Gwasanaethau sgaffaldwaith masnachol, diwydiannol a domestig
Yr Her:  Creu tîm o sgaffaldwyr sy'n gymwys yn y system Plettac
Math o gronfa: Cronfa sgiliau a hyfforddiant CITB
Swm a ddyfarnwyd: £4,300 
Effaith:  Gweithlu mwy medrus a mwy cymwys sy'n gallu ymgymryd ag ystod ehangach o dasgau.

"O na fyddai gosod dyddiadau'r cwrs mor hawdd. Roedd problemau ynghylch trefnu'r cwrs yn golygu bod rhaid i ni ohirio'r dyddiad terfynol. Felly yn y diwedd fe wnaethom ddewis i'n cyflogeion wneud Sgaffaldwaith CISRS Rhannau 1 a 2, a ddilynnid gan gwrs pontio Plettac byr.” 

O ganlyniad i'r hyfforddiant, mae'r busnes wedi cynyddu ei gapasiti. Mae sgiliau wedi gwella ac mae cleientiaid yn cydnabod proffesiynoldeb y cwmni a'i ddymuniad i ddiwallu eu hanghenion.

"Gyda'r arian hwn, gallaf uwchsgilio rhagor o gyflogeion. Fyddwn i ddim wedi gallu cynnig hyfforddiant i gymaint o'm tîm heb gymorth CITB. "

Amanda Coates, Sky Scaffolding

Gwerth hyfforddiant

"Cyn hyn, doedden ni ddim erioed wedi gwneud cais am gyllid. Ond nawr ein bod yn gwybod beth i'w wneud, bwriadwn ymgeisio bob blwyddyn, "meddai Amanda." Mae pawb yma'n mwynhau cael hyfforddiant. Rydyn ni'n wir ei werthfawrogi ac mae gymaint o fudd i'r cwmniag ydyw i'r cyflogeion. Mae pawb yn hapus.”

"Dw i erioed wedi credu mewn hyfforddi ein gweithlu, ond mae'n fusnes drud. "Gyda'r cyllid hwn, gallaf uwchsgilio rhagor o gyflogeion. Fyddwn i ddim wedi gallu cynnig hyfforddiant i gymaint o'm tîm heb gymorth CITB. Mae'n wych!”

"Erbyn hyn mae gennym fwy o gangiau sgaffaldiau, felly gallwn ni gymryd mwy o waith. Mae'r cyfle i hyfforddi wedi rhoi cymwysterau gwell arian gwell a rhagolygon gwell i'n cyflogeion. "