Facebook Pixel
Skip to content

R. Walker & Sons

“Roedd y broses o wneud cais am arian yn hawdd iawn ac yn syml”

Awydd i ddatblygu sgiliau staff a hyrwyddo'r diwydiant adeiladu yn y gymuned oedd wrth wraidd cais cwmni R. Walker and Sons (Preston) Ltd am gymorth ariannol gan CITB.

Mae gan gwmni R. Walker, a sefydlwyd yn 1896, draddodiad balch o hyfforddi staff a phrentisiaid a gweithio gyda phartneriaid yn y gadwyn gyflenwi.

Fodd bynnag, er mwyn cynnal y traddodiad a pharhau i gyflawni ei ymrwymiadau o ran ei staff a hyfforddiant, bu'n rhaid i'r busnes, sydd hefyd yn gweithgynhyrchu ffenestri a drysau PVCu, ddatblygu agweddau penodol ar ei waith.

Er mwyn helpu i gyflawni'r nod hwn, gwnaeth y cwmni gais am £5,000 drwy Gronfa Hyblyg Sgiliau a Hyfforddiant CITB.

Bydd y cymorth ariannol, a ddechreuodd ym mis Gorffennaf 2016, yn helpu'r busnes i wneud y canlynol:

  • Llunio ceisiadau gwell a chael gwaith.
  • Gwella prosesau cyfathrebu mewnol ac allanol.
  • Cyflawni prosiectau cynaliadwy drwy ddefnyddio proses rheoli carbon. 
  • Meithrin dealltwriaeth o Fodel Gwybodaeth Adeiladu (BIM) y diwydiant adeiladu.

“Roedd y broses o wneud cais am arian yn hawdd iawn,” meddai Julie Kinsey, Rheolwr Swyddfa R. Walker and Sons.

“Atebwyd fy ymholiadau yn brydlon gan ddefnyddio iaith syml, esboniwyd popeth yn fanwl. Roedd y staff cyllido o gymorth ac yn deall gofynion ein busnes.”

Mae R. Walker and Sons wedi bod yn cynnal cynllun hyfforddi prentisiaid sy'n cyflogi pobl ifanc ar gynlluniau hyfforddi ers y 50 mlynedd diwethaf. Nod ei waith yw sicrhau y caiff prentisiaid hyfforddiant manwl ac amrywiol yn y gweithlu ac yn y coleg.

“Bydd ein rhaglen a ariennir gan CITB yn helpu i ddarparu'r sgiliau a fydd yn ein galluogi i gynnal ein diwylliant o wella a chydweithio,” meddai Julie.

Dysgwch fwy am R. Walker & Sons