Facebook Pixel
Skip to content

Hyfforddiant a ariennir gan CITB “yn gam enfawr ymlaen” i Gymdeithas Llogi Ewrop

Nid oedd unrhyw gymwysterau ffurfiol ar gyfer pobl sy'n gweithio ag offer a ddelir â llaw cyn i CITB roi cymorth ariannol i Gymdeithas Llogi Ewrop (HAE).

Nes i HAE wneud cais i Gronfa Hyblyg CITB, roedd tua 70% o'r 850 o aelodau sydd gan HAE wedi cael trafferth i ddod o hyd i hyfforddiant penodol ar gyfer gosodwyr a mecanyddion peiriannau. 

Mae'r cymorth ariannol a gafodd y sector wedi gwneud tipyn i ddiwallu ei anghenion o ran hyfforddiant a chymwysterau.

Am y tro cyntaf mae gan gwmnïau llogi offer sy'n gweithio gyda pheiriannau bach lwybr hyfforddi:

  • sy'n bodloni eu gofynion penodol
  • a ddarperir ar y safle
  • a asesir yn y gweithle. 

Fel y noda Richard Whiting, Rheolwr Masnachol HAE, mae'r cyrsiau newydd a wnaed yn bosibl gan gyllid o gronfa Hyblyg CITB (£25,725) wedi cael effaith enfawr ar hyfforddiant a gwaith gosodwyr a mecanyddion peiriannau.

“Mae'r ffaith bod gennym raglen wedi'i chynllunio i gyflwyno hyfforddiant mewn ffordd gynaliadwy yn gam enfawr ymlaen, yn enwedig i'n cwmnïau annibynnol llai o faint a ofynnodd i ni am gymorth i ddatblygu hyfforddiant penodol, a ddarperir ar y safle neu'n agos ato,” meddai Richard.

Blaenoriaethau

Nod HAE oedd sicrhau bod mwy o'r hyfforddiant cywir ar gael i osodwyr a mecanyddion peiriannau yn y diwydiant llogi offer. Byddai hyfforddiant cywir yn golygu y byddai'r gweithlu yn dod yn gymwys wrth sicrhau bod offer llogi, yn enwedig offer bach a ddelir â llaw, yn cael eu gwasanaethu a'u hatgyweirio'n gywir.

Datblygu

Lluniwyd rhaglen fodiwlaidd i dechnegwyr gwasanaethu a staff cynnal a chadw sy'n gweithio gydag offer bach yn y diwydiant llogi.

Yn ystod y prosiect chwe mis datblygodd HAE y rhaglen hon mewn partneriaeth â Training for Hire, Robertson Training, Fforwm Hyfforddi HireTrain a Gweithgor Aelodau HAE.

“Drwy wneud cais am arian,” meddai Richard “roeddem yn gallu llunio'r modiwlau gofynnol a darparu'r hyfforddiant yn gynharach nag y bwriadwyd yn wreiddiol.”

Mae'r hyfforddiant yn arwain at Ddiploma NVQ Lefel 2 mewn Cynnal a Chadw Peiriannau Adeiladu.

Manteision

Mae'r naw modiwl hyfforddi yn y rhaglen yn ymdrin â phynciau gan gynnwys: trydanol, peiriannau bach ac iechyd a diogelwch.  Sicrhaodd arbenigwyr o'r diwydiant ac arbenigwyr technegol fod yr hyfforddiant yn cael ei ddarparu yn unol â Chodau Ymarfer Sector-Benodol, SafeHire ac arfer gorau, gan sicrhau bod modiwlau yn cael eu cydnabod ym mhob rhan o'r sector.

Lleol

“Mae a wnelo llawer o'r hyfforddiant â chanfod diffygion ond mae hefyd yn cynnwys asesu risg er mwyn i'r hyfforddeion allu deall egwyddorion gwasanaethu cywir ac anghenion atgyweirio,” meddai Richard.

“Mae hyfforddiant hefyd yn cael ei ddarparu ar y safle neu'n lleol er mwyn sicrhau na fydd staff yn absennol am gyfnod hir o amser.”

Mae sicrhau bod offer wedi'u llogi yn cael eu gwasanaethu a'u hatgyweirio'n gywir yn ymestyn oes y peiriannau, sy'n fuddiol i'r diwydiant cyfan.

I gael rhagor o wybodaeth am Gymdeithas Llogi Ewrop ewch i: http://www.hae.org.uk/

Richard Whiting o HAE: “Mae'r ffaith bod gennym raglen wedi'i chynllunio i gyflwyno hyfforddiant mewn ffordd gynaliadwy yn gam enfawr ymlaen.”

Crynodeb

Cwmni: Cymdeithas Llogi Ewrop (HAE)

Sector: Llogi

Lleoliad: Pencadlys: Parc Busnes Birmingham, Solihull

Her: Darparu'r hyfforddiant cywir i osodwyr a mecanyddion peiriannau. Nodau'r prosiect oedd:

• Datblygu a darparu hyfforddiant sector-benodol ar y safle neu'n lleol

• Sicrhau bod mwy o'r hyfforddiant cywir ar gael i osodwyr/mecanyddion peiriannau

• Darparu cymhwyster drwy hyfforddi ac asesu pobl ar y safle.

Ateb: Lluniwyd rhaglen fodiwlaidd yn benodol i dechnegwyr gwasanaethu a staff cynnal a chadw sy'n gweithio gydag offer a chyfarpar bach yn y diwydiant llogi. Hyd yma mae 46 o bobl o 14 o gwmnïau gwahanol wedi cael hyfforddiant.

Effaith: Am y tro cyntaf mae gan gwmnïau llogi offer sy'n gweithio gyda pheiriannau bach lwybr hyfforddi sy'n benodol i'w gofynion, a ddarperir ar y safle ac a asesir yn y gweithle.