Gronfa Effaith ar Ddiwydiant
Ar y dudalen hon:
- Beth yw’r Gronfa Effaith ar Ddiwydiant?
- Pam fod cynhyrchiant, cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant wedi'u nodi fel meysydd ffocws ar gyfer y gronfa hon??
- Mae gen i syniad mawr; sut mae gwneud cais?
- Beth fyddai’n gwneud caid llwyddiannus?
- Dyna pam rydym yn eich annog i:
- Dogfennau Cyllid
- Beth sy’n digwydd nesaf?
Beth yw’r Gronfa Effaith ar Ddiwydiant?
Mae’r Gronfa Effaith ar y Diwydiant wedi’i hanelu at gyflogwyr adeiladu sydd am wneud gwahaniaeth cadarnhaol i’r diwydiant adeiladu drwy ddatblygu atebion i’r heriau allweddol a wynebir gan y gweithlu ledled y DU.
Lansiwyd y gronfa ym mis Ebrill 2023 a dyma’r gronfa gyntaf o’i fath ar gyfer CITB. Bydd yn treialu ffordd newydd o gefnogi anghenion diwydiant. Mae'r gronfa'n rhoi cyflogwyr ar flaen y gad o ran cynllunio a datblygu atebion hyfforddiant a sgiliau.
Rhaid i'r syniad fod yn newydd ac arloesol, nad yw wedi'i gefnogi'n flaenorol gan CITB a rhaid iddo fod yn un y gellir ei raddio. Mae'r gronfa yn agored i syniadau darlun mawr sy'n galluogi rhannu gwybodaeth ac adnoddau ar draws y diwydiant ac sy'n gynaliadwy y tu hwnt i'r cyfnod ariannu.
I wneud cais am y gronfa, mae angen i fusnesau gynnig a datblygu atebion ar sut i wella cynhyrchiant, cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn y diwydiant adeiladu. Os bydd yn llwyddiannus gall CITB ddarparu hyd at £500,000 o gyllid fesul cynnig i wireddu'r syniad arloesol.
Pam fod cynhyrchiant, cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant wedi'u nodi fel meysydd ffocws ar gyfer y gronfa hon?
Mae’r meysydd ffocws ar gyfer y Gronfa Effaith ar Ddiwydiant yn heriau sy’n cael effaith ar draws y diwydiant adeiladu ar y piblinell pobl. Mae ymchwil gyfredol yn disgwyl y bydd angen 225,000 o weithwyr ychwanegol i fodloni galw adeiladu’r DU erbyn 2027.
Drwy wella cynhyrchiant, a thrwy hyn rydym yn golygu effeithlonrwydd sut mae person yn cwblhau tasg, bydd y diwydiant yn gallu cyflawni’r galw disgwyliedig am adeiladu yn well dros y blynyddoedd i ddod.
Cadarnhaodd ymchwil fod gan bobl y tu allan i'r diwydiant ragdybiaeth bod adeiladu yn bennaf yn wrywaidd, llafur llaw ac yn fwdlyd. Trwy ganolbwyntio cyllid ar atebion sy'n annog mwy o gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, ein nod yw gwneud y gwaith adeiladu yn fwy deniadol i fwy o bobl o amrywiaeth o gefndiroedd - cronfa dalent ehangach i'r diwydiant ei defnyddio.
Mae gen i syniad mawr; sut mae gwneud cais?
Gall pob cyflogwr sydd wedi cofrestru gyda CITB wneud cais i'r Gronfa Effaith ar Ddiwydiant.
Os cewch eich asesu i dalu lefi, yna mae angen i'ch taliadau lefi fod yn gyfredol a rhaid i'ch ffurflen lefi 2022 gael ei chyflwyno.
Os nad yw'n ofynnol i chi dalu lefi o dan yr eithriad Busnesau Bach, yna nid yw'r maen prawf hwn yn berthnasol i chi. Os credwch y gall eich cynnig fynd i'r afael ag unrhyw un o'r heriau yn y meysydd a grybwyllwyd uchod, yna cysylltwch â'ch cynghorydd lleol i drafod eich syniad ymhellach. Bydd eich cynghorydd lleol yn cael sgwrs gychwynnol gyda chi, i wneud yn siŵr eich bod yn bodloni’r meini prawf cymhwysedd a nodau’r gronfa hon. Yna, gofynnir i chi lenwi ffurflen gais a'i hanfon at IndustryImpactFund@citb.co.uk.
Os oes gennych chi syniad mawr ond nad ydych chi’n gyflogwr cofrestredig, gallwch chi fynd â’ch syniad at gyflogwr i’w roi ar y blaen cyn belled â’ch bod chi’n glir pwy sy’n ymwneud â sicrhau’r budd i ddiwydiant.
Cofiwch, rhaid i'ch syniad ddarparu datrysiad sgiliau a hyfforddiant arloesol i wella o leiaf un o'r meysydd canlynol:
Cynhyrchiant: Gwella effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd ar draws y gadwyn gyflenwi. Gallai hyn olygu rhoi dulliau hyfforddi newydd ar waith, gwella cyfathrebu a chydweithio ymhlith timau, neu symleiddio llifoedd gwaith i gynyddu allbynnau.
Cydraddoldeb: Sicrhau bod pob gweithiwr yn cael ei drin yn deg a chyda pharch, waeth beth fo'i hil, rhyw, oedran, ethnigrwydd, crefydd neu gyfeiriadedd rhywiol.
Amrywiaeth: Sicrhau presenoldeb gwahanol safbwyntiau, profiadau a chefndiroedd ymhlith y gweithlu adeiladu.
Cynhwysiant: Creu amgylchedd gwaith sy'n gefnogol ac yn groesawgar i bob gweithiwr trwy hyrwyddo cyfathrebu agored rhwng cydweithwyr, meithrin ymdeimlad o berthyn a chreu polisïau ac arferion da sy'n sicrhau bod gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u parchu.
Os yw’ch cais yn bodloni’r meini prawf, efallai y cewch eich gwahodd i fynychu cyfarfod panel CITB a thrafod eich syniadau’n fanylach. Os yw eich cais am gyllid yn fwy na £250,000, caiff y penderfyniad ei ohirio i’r panel allanol a enwebwyd gan Bwyllgor Ariannu’r Diwydiant a Chynghorau’r Cenhedloedd CITB.
Beth fyddai'n gwneud cais llwyddiannus?
Rydym yn chwilio am gynigion a all ddarparu atebion a arweinir gan adeiladu ar draws y diwydiant. Mae'r rhain yn atebion hirdymor sy'n mynd y tu hwnt i hyfforddiant o ddydd i ddydd a gwmpesir gan ein Cynllun Grant neu syniadau a gefnogir trwy ein sianeli ariannu eraill.
Wrth ystyried eich cais, cofiwch yr hoffem ariannu prosiectau a all:
- Gwella effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd busnesau adeiladu drwy roi dulliau hyfforddi newydd ar waith, gwella cyfathrebu a chydweithio ymhlith timau a symleiddio llifoedd gwaith i gynyddu allbynnau.
- Sicrhau bod pob gweithiwr yn cael ei drin yn deg a gyda pharch.
- Sicrhau presenoldeb gwahanol safbwyntiau, profiadau, a chefndiroedd ymhlith y gweithlu adeiladu.
- Creu amgylchedd gwaith sy'n gefnogol ac yn groesawgar i bob gweithiwr.
- Bod yn raddadwy, trwy rannu gwybodaeth ac adnoddau ar draws y diwydiant.
- Bod yn gynaliadwy ar ôl y cyfnod ariannu.
Dyna pam rydym yn eich annog i:
Gweld y darlun ehangach: Beth yw'r heriau y mae'r diwydiant adeiladu yn eu hwynebu a sut gallwch chi helpu i ddod o hyd i ateb hirdymor?
Ystyriwch eich cryfder a'ch arbenigedd: A ydych wedi delio ag unrhyw faterion yn eich busnes eich hun a dod o hyd i ateb effeithiol a all fod o fudd i eraill yn y diwydiant adeiladu?
Ystyried ateb cynaliadwy: Er bod gan CITB gymorth ariannol i gwmpasu anghenion hyfforddi bob dydd, rydym yn chwilio am gynigion sy’n darparu ateb cyraeddadwy a all ddechrau gwneud ateb gwahanol ond sydd â hirhoedledd i barhau i ddarparu buddion ac a fydd yn cael ei gynnal ar draws diwydiant ymhell i mewn i’r dyfodol. Mae hyn yn golygu ei bod yn bwysig eich bod yn rhoi manylion i’ch cynghorydd lleol sut y bydd eich cynnig yn mynd i’r afael â phroblem neu her mewn ffordd gynaliadwy a pharhaol.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech dderbyn mwy o wybodaeth, cysylltwch â'ch cynghorydd lleol.
Beth sy'n digwydd nesaf?
Assessing Asesu ceisiadau
Bydd tîm CITB yn adolygu ac yn asesu pob cais. Mae’r meini prawf a’r broses wedi’u nodi yn y nodiadau canllaw ar gyfer Cais (PDF, 169kb).
Er y gellir cyflwyno ceisiadau unrhyw bryd, cynhelir asesiadau bob chwarter, er enghraifft:
- Cyfnod asesu cyntaf Gorffennaf 2023 (i adolygu ceisiadau a dderbyniwyd 03 Ebrill - 30 Mehefin 2023)
- 2ail gyfnod asesu Hydref 2023 (i adolygu ceisiadau a dderbyniwyd 01 Gorff-30 Medi 2023)
- 3ydd cyfnod asesu Ionawr 2024 (i adolygu ceisiadau a dderbyniwyd 01 Hydref – 31 Rhagfyr 2023) ac ati.
Penderfyniadau’r ceisiadau
Cynhelir asesiadau bob chwarter a bydd penderfyniadau ariannu'n cael eu cyfleu cyn gynted ag y bydd pob rownd asesu wedi'i chwblhau. Efallai y byddwn yn cysylltu â chi yn ystod y cyfnod asesu i gael gwybodaeth ychwanegol.
Monitro a gwerthuso
Ar ôl i'r cytundeb ariannu gael ei lofnodi, gallwch ddechrau eich prosiect a ariennir.
Cofiwch gadw'r holl gofnodion a thystiolaeth o wariant gan y bydd angen i chi gyflwyno'r rhain i CITB er mwyn rhyddhau taliadau carreg filltir.
Cyhoeddusrwydd a Chyfathrebu
Efallai y byddwn am gyhoeddi manylion eich rhaglen ar ein gwefan unwaith y bydd cyllid wedi'i gymeradwyo.
Mae’n bosibl y byddwn yn gofyn am gael gweithio gyda chi i ddatblygu datganiadau i’r wasg, astudiaethau achos neu fideos hyrwyddo yn ymwneud â’ch rhaglen naill ai yn ystod y cyflwyniad, neu ar ôl ei chwblhau.