Telerau ac amodau'r wefan
Y telerau ac amodau sy'n rheoli'r wefan CITB
Mae telerau ac amodau gwefan CITB yn weithredol o 31 Ionawr 2018 (cyf: V2.1 T&Cs y Wefan).
Mae Bwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu a elwir fel arall yn CITB yn elusen sydd wedi'i chofrestru yng Nghymru a Lloegr (Rhif Elusen 264289) ac yn yr Alban (Rhif Elusen SC044875) â'i phrif le busnes yn Sand Martin House, Bittern Way, Peterborough, PE2 8TY (“CITB”).
Mae unrhyw gyfeiriad at 'chi' ac 'eich' yn cyfeirio at y sawl sy'n cyrchu'r Wefan. Mae cyfeiriadau at 'ni' ac 'ein' yn cyfeirio at Fwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu.
Cynhelir www.citb.co.uk ac unrhyw wefan arall sy'n eiddo i neu a weithredir gan CITB (a elwir wedi hyn yn 'y Wefan' er mwyn eich defnydd a'ch darllen personol. Trwy gyrchu a defnyddio'r Wefan hon, rydych yn derbyn y Telerau ac Amodau hyn sydd mewn grym o'r dyddiad y byddwch yn defnyddio'r Wefan. Os nad ydych yn derbyn y Telerau ac Amodau hyn, ni chaniateir i chi barhau i ddefnyddio'r Wefan.
Gallwn ddiwygio'r Telerau ac Amodau hyn ar unrhyw adeg, yn gyfan gwbl neu'n rhannol, a hynny heb rybudd. Byddwch cystal â'u darllen bob tro byddwch yn defnyddio'r Wefan. Rydych yn cytuno i adolygu'r Telerau ac Amodau'n rheolaidd a thrwy barhau i ddefnyddio'r Wefan hon ar ôl cyhoeddi unrhyw newid, byddwch yn dynodi eich bod yn derbyn y newidiadau hyn.
Caniateir mynediad i'r Wefan ar sail dros dro ac rydym yn cadw'r hawl i newid neu ddileu'r cynnig yn ddirybudd. Ni fyddwn yn atebol os na fydd y Wefan ar gael ar unrhyw adeg ac am unrhyw hyd.
Dylech ddarllen y Telerau ac Amodau hyn ynghyd ag unrhyw delerau, amodau ac ymwadiadau a ddarperir yn nhudalennau'r Wefan. Os bydd unrhyw wrthdaro, y telerau ac amodau a'r ymwadiadau a ddarperir yn nhudalennau'r Wefan yn drech na'r Telerau ac Amodau hyn.
Ni chaniatier i chi greu dolenni i'r Wefan o'ch gwefannau eich hunan (boed trwy gfyrwng dolen hyperdestun, cysylltu dwfn, fframio, tagio nac unrhyw ddull arall) heb ganiatâd ysgrifenedig ymlaen llaw gan CITB, ac ni chewch gynorthwyo eraill i wneud hynny a gallwn, yn ôl ein disgresiwn absoliwt, a heb roi rheswm, roi neu atal'r caniatâd hwn.
Lle mae Gwefan yn cynnwys dolenni i wefannau ac adnoddau eraill a ddarperir gan drydydd partïon, darperir y dolenni hyn er eich gwybodaeth yn unig. Nid oes gennym unrhyw reolaeth ar gynnwys y safleoedd neu adnoddau hynny, ac nid ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb amdanynt nac am unrhyw golled neu ddifrod a allai ddeillio o'ch defnydd ohonynt.
Diogelir cynnwys y Wefan gan hawlfraint, hawliau nodau masnach, hawliau cronfeydd data, hawliau patent, hawliau dylunio ac unrhyw destun, graffeg, sain, fideo neu luniau, cynnwys, meddalwedd, data a gwybodaeth. Cewch brintio, copïo, lawrlwytho, neu gadw dros dro echdyniadau o'r Wefan er eich gwybodaeth bersonol yn unig.
Byddwn yn caniatáu i chi ddefnyddio'r Wefan hon yn gyfnewid am eich cytundeb chi i beidio ag addasu, newid neu greu unrhyw waith deilliannol o unrhyw wybodaeth a gynhwysir ar y Wefan.
Mae'r enwau, delweddau a logos sy'n nodi CITB yn nodau masnach cofrestredig. Ni chaniateir copïo a defnyddio, mewn unrhyw ffordd, logo, enw neu ddelweddau CITB heb ganiatâd ysgrifenedig ymlaen llaw gan CITB. Gallwch ofyn am ganiatâd trwy ysgrifennu at: Communications & Marketing, CITB, Sand Martin House, Bittern Way, Peterborough, PE2 8TY neu trwy e-bostio marketing@citb.co.uk.
Defnyddir pob nod masnach, enw brand, enw cynnyrch a theitl a hawlfraint a ddefnyddir ar y Wefan hon dan drwydded a ddyroddwyd gan eu deiliaid. Ni roddir caniatâd gan CITB mewn perthynas â defnyddio unrhyw rai ohonynt a gall y cyfryw ddefnydd fod yn dresmas ar hawliau'r deiliad.
Os byddwch yn argraffu, yn copïo neu'n islwytho unrhyw ran o'r Wefan neu'n torri'r Telerau ac Amodau hyn, bydd eich hawl i ddefnyddio'r Wefan yn darfod yn syth a rhaid i chi, yn ôl ein dewis, ddychwelyd neu ddinistrio unrhyw gopïau o'r deunyddiau a wnaethoch.
Fodd bynnag, mae'n bosibl y gellir lawrlwytho adroddiadau ymchwil ac/neu ddeunyddiau o'r Wefan, yn amodol ar delerau ac amodau penodol. Cyfeiriwch at eiriad yr hawlfraint a'r telerau a nodir sy'n berthnasol i bob adroddiad neu set o ddeunyddiau penodol.
Rydych yn defnyddio'r Wefan ar eich cyfrifoldeb eich hun yn unig. Darperir yr wybodaeth a ddangosir ar y Wefan heb unrhyw sicrwydd, amod neu warant ynglŷn â'i chywirdeb. Ni fydd CITB yn atebol am unrhyw golled neu ddifrod uniongyrchol, anuniongyrchol neu ganlyniadol o gwbl, sut bynnag y'i hachosir, a all ddeillio o'ch anallu i ddefnyddio, neu ddibynnu ar yr wybodaeth ar y Wefan neu unrhyw wefan mae'n cysylltu â hi, hyd eithaf y gyfraith.
Ni fydd CITB ychwaith yn atebol am:
- Gywirdeb neu ddibynadwyedd yr wybodaeth neu gynnwys y Wefan;
- Problemau gan gynnwys cydnawsedd a difrod neu lygredd i'ch caledwedd, meddalwedd neu osodiad;
- Diogelwch y Wefan;
- Toriadau yn argaeledd y Wefan neu wallau;
- Methiant y wefan i ddiwallu'ch anghenion; na
- Cywirdeb, ymarferoldeb neu berfformiad unrhyw feddalwedd trydydd parti a ddefnyddir mewn cysylltiad â'r Wefan.
Mae'r Wefan wedi'i bwriadu ar gyfer y rhai hynny sy'n ei chyrchu yn y Deyrnas Unedig. Felly ni allwn warantu bod y Wefan a'i chynnwys yn cydymffurfio â neu yn addas i'w defnyddio mewn mannau eraill. Bydd y sawl sy'n dewis cyrchu'r Wefan o wledydd eraill yn gwneud ar eu menter eu hunain a'u cyfrifoldeb nhw yw cydymffurfio â chyfreithiau lleol.
Ni ellir gwarantu bod negesau a anfonir dros y Rhyngrwyd yn gwbl ddiogel gan eu bod yn agored i'w rhyng-gipio, eu colli neu eu newid. Nid ydym yn gyrifol amdanynt ac ni fyddwn yn atebol i chi na neb arall am unrhyw ddifrod neu fel arall mewn perthyna ag unrhyw neges a anfonir atom gennych chi nac unrhyw neges a anfonir atoch chi gennym ni dros y Rhyngrwyd.
Mae diogelwch a phreifatrwydd ein defnyddwyr, yn enwedig plant, yn bwysig i ni. Dylai rhieni/gwarcheidwaid sy'n dymuno caniatáu i'w plant gyrchu a defnyddio'r Wefan oruchwylio'r cyfryw gyrchu a defnydd. Trwy ganiatáu i'ch plentyn gyrchu'r Wefan, rydych yn caniatáu iddynt gyrchu'r holl wasanaethau, gan gynnwys e-bost, fforymau a/neu gyfleusterau negesu neu gyfathrebu. Eich cyfrifoldeb chi, felly, yw penderfynu pa wasanaethau sy'n addas ar gyfer eich plentyn.
Gallai CITB gynnal holiadur cofrestru ar y Wefan sy'n caniatáu i unigolion gyflwyno manylion er mwyn cael eu hystyried ar gyfer eu cofrestru â CITB.
Mae cofrestru â CITB yn rhwymedigaeth statudol ar sefydliad sy'n diwallu'r meini prawf a nodir o fewn y ddeddfwriaeth berthnasol. Mae'r penderfyniad a ddylid derbyn yr holiadur cofrestru yn sefyll â CITB a gallai fod yn destun ymholiadau pellach.
Trwy gyflwyno gwybodaeth ar yr holiadur cofrestru rydych chi'n deall ac yn derbyn y gallai'r sefydliad fod yn agored i gael ei asesu ar gyfer lefi blynyddol heb unrhyw opsiwn i dynnu'n ôl cyn belled â bod y meini prawf statudol yn gymwys.
O bryd i'w gilydd, gall CIB redeg cystadlaethau, rafflau am ddim a hyrwyddiadau ar y Wefan. Bydd y rhain yn ddarostyngedig i delerau ac amodau arbennig a wneir yn hysbys adeg y cyfryw hyrwyddiadau.
Mae telerau ac amodau pellach yn berthnasol i hon ac mae'r rhain ar gael oddi wrth Gyhoeddiadau CITB.
Er bod CITB yn gwneud pob ymdrech rhesymol i atal firysau o'r Wefan, ni all sicrhau'r nad oes dim ac ni dderbynnir unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw golled, toriad neu ddifrod i'n data ni neu'ch system gyfrifiadurol chi a all ddigwydd wrth ddefnyddio deunydd oddi ar y Wefan.
Rhaid i chi beidio â chamddefnyddio'r Wefan trwy gyflwyno'n ymwybodol firysau, ceffylau Caerdroea, mwydod, bomiau rhesymeg neu unrhyw ddeunydd arall sy'n faleisus neu'n dechnolegol niweidiol. Rhaid i chi beidio â cheisio cael mynediad heb awdurdod i'r Wefan, i'r gweinydd lle cedwir y Wefan, nac unrhyw weinydd, cyfrifiadur neu gronfa ddata cysylltiedig â'r Wefan. Rhaid i chi beidio ag ymosod ar y Wefan trwy ymosodiad atal gwasanaeth neu ymosodiad atal gwasanaeth gwasgaredig.
Byddai torri'r amod hwn yn drosedd o dan Ddeddf Camddefnyddio Cyfrifiaduron 1990. Byddwn yn adrodd am unrhyw doramod i'r awdurdodau gorfodi'r gyfraith perthnasol a byddwn yn cydweithio â'r awdurdodau hynny trwy ddatgelu pwy ydych. Os bydd toramod fel hyn, bydd eich hawl i ddefnyddio'r Wefan yn darfod yn syth.
Chi yn unig sy'n gyfrifol am sicrhau diogelwch addas a chadw copïau wrth gefn o'ch data a/neu gyfarpar ac am gymryd camau rhesymol a phriodol i sganio am firysau cyfrifiadurol neu briodweddau dinistriol. Felly fe'ch anogir i gymryd pob cam diogelu priodol cyn islwytho gwybodaeth o'r Wefan.
Nid yw CITB yn gyfrifol am gynnwys na dibynadwyedd unrhyw wefannau y rhown ddolen iddynt ac nid yw o reidrwydd yn cymeradwyo'r safbwyntiau a fynegir arnynt. Ni ddylid tybio bod rhestru yn cyfateb i gymeradwyaeth o unrhyw fath. Ni allwn warantu y bydd y dolenni hyn yn gweithio bob adeg ac nid oes gennym reolaeth dros argaeledd y tudalennau cysylltiedig. Yn arbennig, nid yw CITB yn gyfrifol am unrhyw bolisïau preifatrwydd ar wefannau allanol ac rydym yn eich annog i ddarllen y datganiadau perthnasol ar unrhyw wefan arall yr ewch ati Nid yw CITB yn gyfrifol am ganlyniadau uniongyrchol neu anuniongyrchol eich penderfyniad i ddilyn dolen i unrhyw wefan arall o'n gwefan ni.
Rydym yn prosesu gwybodaeth amdanoch yn unol â'n Polisi Preifatrwydd. Trwy ddefnyddio'r Wefan, rydych yn cydsynio i'r prosesu hwn ac rydych yn gwarantu bod pob data a ddarperir gennych yn gywir.
Llywodraethir a dehonglir y Telerau ac Amodau hyn yn unol â chyfreithiau Cymru a Lloegr, a Llysoedd Cymru a Lloegr fydd ag awdurdodaeth unigryw mewn perthynas ag unrhyw anghydfod all godi, er ein bod yn cadw'r hawl i ddwyn achos yn eich erbyn am dorri'r Telerau ac Amodau hyn yn eich gwlad breswyl neu unrhyw Wlad berthnasol arall.
Rydym yn ymroddedig i ddarparu gwasanaeth hygyrch ac ymatebol o safon uchel i bob defnyddiwr. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu gŵynion yn ymwneud â'r wefan, cysylltwch â ni.
- Gwefan: Cysylltu â ni
- Ffôn: 0344 994 4400
- Post: CITB, Sand Martin House, Bittern Way, Peterborough, PE2 8TY
Sut wnaethon ni heddiw? Rhoi adborth