Facebook Pixel
Skip to content

Canfod cwrs byr

Y Cyfeirlyfr Hyfforddiant Adeiladu yw lle byddwch chi'n gallu dod o hyd i'r hyfforddiant sydd arnoch ei angen sy'n cael ei ddarparu gan Sefydliadau Hyfforddi Cymeradwy CITB (ATOs).

Mae chwilio am gyrsiau yn y Cyfeirlyfr yn agored i bawb, nid oes angen mewngofnodi arnoch i gael mynediad iddo.

Ar hyn o bryd, dim ond cyrsiau hyfforddiant byr sy'n para rhwng 3 awr a 29 diwrnod sy'n cael eu hysbysebu yn y Cyfeirlyfr. Mae'r cyrsiau hyn a hysbysebir yn gymwys i gael grant CITB.

Rydym yn cyhoeddi mwy o safonau hyfforddi yn barhaus ac yn adolygu ceisiadau gan ddarparwyr hyfforddiant i ddod yn Sefydliadau Hyfforddi Cymeradwy CITB (ATOs). Ar ôl eu cymeradwyo, gallant hysbysebu eu cyrsiau ar y Cyfeirlyfr Hyfforddiant Adeiladu.

Sylwer: mae'r platfform hwn yn gweithio orau ar y fersiynau diweddaraf o Internet Explorer, Chrome neu Firefox. Sicrhewch fod y fersiwn ddiweddaraf wedi'i lawrlwytho i osgoi unrhyw anawsterau wrth ddefnyddio'r porth.